Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 24 Ebrill 2018.
Diolch, Prif Weinidog. Gall unigrwydd ac arwahanrwydd effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg yn ein bywydau. Mae'n fater iechyd y cyhoedd arwyddocaol a gwyddom y gall fod mor niweidiol ag ysmygu 15 o sigaréts y dydd. Cynhaliais drafodaeth bwrdd crwn gydag Age Cymru yn fy etholaeth i fis diwethaf ynghylch mynd i'r afael ag unigrwydd, ac un enghraifft dda yw gwaith Ffrind i Mi ym Mwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan. Maen nhw'n gweithio i baru cartrefi gofal ac ysgolion, ac mae'r buddion yno yn amlwg i bawb eu gweld. Pa ran all Llywodraeth Cymru ei chwarae i gefnogi mentrau fel hyn, sy'n dod â phob cenhedlaeth ynghyd ac yn mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ledled Cymru?