Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 24 Ebrill 2018.
Nodir yr egwyddorion arweiniol ar gyfer perchnogaeth Llywodraeth Cymru o eiddo yn ein strategaeth rheoli asedau corfforaethol. Bydd gan gyrff cyhoeddus eraill eu strategaethau asedau perthnasol eu hunain. Wrth gwrs, ers dod â Maes Awyr Caerdydd yn ôl i berchnogaeth y Llywodraeth, bu'n llwyddiant rhyfeddol, ac edrychaf ymlaen at awyren gyntaf Qatar Airways yn cyrraedd yr wythnos nesaf.