Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 24 Ebrill 2018.
Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weld y teithiau Qatar hynny yn cychwyn. Prif Weinidog, ar 11 Ebrill, dywedodd Ken Skates na fu unrhyw drafodiad yn gysylltiedig â gorsaf fysiau arfaethedig Caerdydd a fyddai'n creu rhwymedigaeth ar gyfer treth dir y dreth stamp na threth trafodiadau tir. Ac eto, ar 18 Ebrill, dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi prynu'r safle yn ddiweddar gan Gyngor Caerdydd am £12 miliwn. A wnaeth Llywodraeth Cymru gytuno, cyfnewid a chwblhau cytundeb mor fawr a chymhleth mewn llai nag wythnos, neu a yw rywsut wedi ceisio osgoi ei huwch-dreth ei hun o 6 y cant ar drafodiadau tir?