Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 24 Ebrill 2018.
Mae adroddiad Hamilton yn eglur. Nid wyf i'n bwriadu ymhelaethu ar yr hyn y mae'n ei ddweud, ac eithrio i ddweud, wrth gwrs, cyn belled ag y mae staff Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn, bod hwnnw'n fater i'r Ysgrifennydd Parhaol. A gallaf ddweud, yn ôl ein harolwg staff diweddaraf, bod 80 y cant o staff wedi rhoi sgôr cadarnhaol i'r sefydliad o ran cynhwysiant a thriniaeth deg—mae hynny 4 y cant yn uwch na meincnod gwasanaeth sifil y DU—ac mae 88 y cant o staff Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cael eu trin gyda pharch gan y rheini y maen nhw'n gweithio gyda nhw, 3 y cant yn uwch na meincnod gwasanaeth sifil y DU. Nawr, wrth gwrs, mae hynny'n dangos bod mwy o waith i'w wneud, a gwn fod yr Ysgrifennydd Parhaol yn ymwybodol iawn o hynny.