Diwylliant y Gweithle yn Llywodraeth Cymru

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiwylliant y gweithle yn Llywodraeth Cymru? OAQ52056

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:59, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Yr Ysgrifennydd Parhaol sy'n gyfrifol am arwain a rheoli gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. Rwy'n ei chynorthwyo i arwain diwylliant sy'n hyderus, yn gynhwysol ac yn canolbwyntio ar gyflawni dros Gymru.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig nodi eich absenoldeb o'r ddadl ar yr ymchwiliad i ddatgeliadau answyddogol yr wythnos diwethaf. Er i chi dynnu'n ôl o'r her gyfreithiol i atal y ddadl, byddwn wedi meddwl y byddech chi wedi parchu sefydliad y Cynulliad hwn ac wedi bod yma i glywed y dadleuon a gyflwynwyd gan ACau.

Gwyddom eich bod wedi cael eich difeio yn adroddiad Hamilton a gyhoeddwyd yn hwyr ar nos Fawrth ar ôl y Cyfarfod Llawn, ond credaf fod angen i'r cyhoedd wybod pam na chafodd unrhyw diogelwch ei gynnig na'i roi i dystion, yn wahanol i'r ymchwiliad i ddatgeliadau answyddogol. A ydych chi wedi gweld, er enghraifft, adroddiadau'r BBC bod pobl yn ofni cyflwyno tystiolaeth gan eu bod nhw'n poeni am y sgil-effeithiau? Mae eich cyn-gydweithiwr—ac yn bendant yn gyn gyd-gydweithiwr erbyn hyn, rwy'n credu—Leighton Andrews, yn nodi yn ei sylwadau ar y mater bod awyrgylch gwenwynig ar y Pumed Llawr a bod Mr Sargeant a rhai Gweinidogion eraill yn destun tanseilio personol parhaus.

Nawr, rwy'n cytuno, a gwelaf yr hyn sydd wedi cael ei ddweud o ran adroddiad Hamilton, ond onid ydych chi'n cytuno bod angen i newidiadau diwylliannol gael eu gwneud o fewn y Llywodraeth, ac a wnewch chi baratoi i fynd i'r afael â'r newidiadau hynny cyn i chi adael eich swydd?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:00, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Mae adroddiad Hamilton yn eglur. Nid wyf i'n bwriadu ymhelaethu ar yr hyn y mae'n ei ddweud, ac eithrio i ddweud, wrth gwrs, cyn belled ag y mae staff Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn, bod hwnnw'n fater i'r Ysgrifennydd Parhaol. A gallaf ddweud, yn ôl ein harolwg staff diweddaraf, bod 80 y cant o staff wedi rhoi sgôr cadarnhaol i'r sefydliad o ran cynhwysiant a thriniaeth deg—mae hynny 4 y cant yn uwch na meincnod gwasanaeth sifil y DU—ac mae 88 y cant o staff Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cael eu trin gyda pharch gan y rheini y maen nhw'n gweithio gyda nhw, 3 y cant yn uwch na meincnod gwasanaeth sifil y DU. Nawr, wrth gwrs, mae hynny'n dangos bod mwy o waith i'w wneud, a gwn fod yr Ysgrifennydd Parhaol yn ymwybodol iawn o hynny.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:01, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae'n bwysig meithrin diwylliant priodol a'r diwylliant cywir o fewn Llywodraeth Cymru, ac i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn brydlon a bod pobl sy'n gweithio o fewn y Llywodraeth yn gohebu yn brydlon. Yn dilyn ymlaen o'r cwestiwn a ofynnodd yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro i chi yr wythnos diwethaf, gallaf gadarnhau fy mod innau hefyd yn aros am ymateb i'm cais mynediad pwnc a gyflwynwyd i'r Llywodraeth ar 15 Mawrth ynghylch gwybodaeth y gofynnwyd amdano amdanaf i gan Lywodraeth Cymru i fwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda. O gofio pwysigrwydd meithrin diwylliant o atebolrwydd a pharch o fewn Llywodraeth Cymru, mae'n hanfodol yr ymdrinnir â materion fel hyn yn agored ac yn broffesiynol. A allwch chi roi awgrym i mi felly o bryd y byddaf yn derbyn ymateb i'm cais mynediad pwnc?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Cytunaf yn llwyr y dylem ni fod yn agored ac yn broffesiynol, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud. Nid yw'n rhywbeth yr wyf i wedi ymwneud ag ef yn uniongyrchol, fel y gall ef ei werthfawrogi, ond rwy'n gobeithio y bydd sefyllfa yn cael ei chyrraedd yn fuan pan fydd modd ateb y cwestiwn—ac mae'n rhaid ei ateb, rwy'n deall hynny.