Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:39, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r Aelod yn sôn am newidiadau cyfansoddiadol sylfaenol. Nid wyf i'n credu bod hwn yn un. Rwy'n meddwl ei bod hi'n berffaith bosibl i bleidiau ystyried hyn a mynd  a'u hachos i bobl Cymru drwy etholiad—os dyna'r hyn sydd ei angen—ond, yn sicr, mae'n rhaid i chi fod yn ofalus am hyn bob amser ac ni fydd byth yn boblogaidd dweud wrth bobl, 'Gadewch i ni gael mwy o wleidyddion'. Gadewch i ni oll dderbyn hynny, ond rwy'n meddwl bod yn rhaid i ni ddadlau yn erbyn hynny trwy ddweud wrth bobl fod yn rhaid i ni gael y nifer gywir o bobl i wneud y gwaith yn iawn. Nid yw o fudd i neb cael Aelodau'r Cynulliad mewn sefyllfa lle efallai nad ydyn nhw'n gallu, yn y dyfodol, craffu yn y ffordd y byddent yn dymuno, ac mae honno'n sefyllfa y mae angen i ni ei hosgoi trwy ystyried y niferoedd a fyddai yn y corff hwn yn y blynyddoedd i ddod.