Grŵp 3: Methiant i gydymffurfio â deddfiad (Gwelliannau 6, 11, 12)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:17, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Pan fo landlord cymdeithasol cofrestredig yn methu â pherfformio'n foddhaol, ceir amrywiaeth o bwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru. Yn gyffredinol, y trothwy presennol ar gyfer gweithredu yw os bu camreoli neu gamymddwyn. Rydym ni wedi gorfod gwneud y trothwy hwn yn fwy penodol oherwydd roedd yn un o'r materion o ran rheoli a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Felly, mae'r Bil yn diwygio'r trothwy i fod yn fethiant i gydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad.

Mae'r trothwy hwn yn cynnwys methiant i gydymffurfio â safonau perfformiad a osodwyd o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996 ac a gyhoeddwyd yn y fframwaith rheoleiddiol.

Wrth siarad yn y ddadl yng Nghyfnod 2, dyfynnodd David Melding UK Finance, a nododd yn eu cyflwyniad eu bod yn awgrymu rhoi ystyriaeth i sicrhau y diffinnir "methiant i gydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad" yn amlwg yn y ddeddfwriaeth i gynnwys methiant mewn perthynas â'r fframwaith rheoleiddio.

Ers hynny, fodd bynnag, mae UK Finance wedi rhoi cadarnhad i fy swyddogion, ar ôl ystyried fy nhystiolaeth i'r Pwyllgor, bod y safonau perfformiad a gyhoeddwyd o dan adran 33A yn ofynion 'a osodwyd o dan ddeddfiad'. Maent yn fodlon nad oes angen ailddatgan hyn ar wyneb y Bil. Rwy'n cadarnhau unwaith eto fod y safonau a gyhoeddwyd o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996 yn gosod gofynion ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Maent yn ofynion clir a osodwyd o dan ddeddfiad ac felly mae ganddyn nhw eisoes y grym statudol sylweddol y gofynnodd David Melding amdano yng Nghyfnod 2 yn ystod y ddadl graffu.

Gallaf hefyd gadarnhau fy mod i wedi adolygu'r nodiadau esboniadol yn dilyn Cyfnod 2, fel yr ymrwymais i'w wneud, a'u bod yn glir bod y safonau a gyhoeddwyd o dan adran 33A yn ofyniad o dan ddeddfiad. Felly, nid wyf o'r farn bod unrhyw amwysedd ynghylch a yw'r safonau perfformiad yn ofynion o dan ddeddfiad, a, pe caent eu torri, y byddai pwerau ymyrryd ar gael i Weinidogion Cymru.

Pe baem yn cynnwys datganiad yn y Bil bod safonau a gyhoeddwyd o dan adran 33A yn 'ofynion a osodwyd o dan ddeddfiad', mae peryg y byddai hyn yn bwrw amheuaeth ynglŷn â sut i ddehongli'r gofynion eraill a osodwyd gan neu o dan y deddfiadau hynny lle na chafwyd datganiad tebyg, ac mae modd i hyn gael canlyniadau anfwriadol andwyol. Er enghraifft, petai sôn penodol am y safonau perfformiad ond dim cyfarwyddydau, pe cyhoeddwyd cyfarwyddydau maes o law, gallai pobl gwestiynu pa un a oeddent yn ofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad. Nid wyf yn cefnogi unrhyw welliannau a allai achosi unrhyw amheuaeth ynghylch eu dehongli neu ddehongli darpariaethau yn y ddeddfwriaeth hon neu mewn unrhyw ddeddfwriaeth arall.

Mae gwelliannau 6, 11 a 12 i gyd yn cyfeirio at y fframwaith rheoleiddiol ar gyfer cymdeithasau tai sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru a'i safonau perfformiad cysylltiedig. Mae safonau perfformiad yn safonau a gyflwynir yn unol ag adran 33A o Ddeddf Tai 1996. Yr ymadrodd 'safonau perfformiad' yw'r term llafar am safonau o'r fath. Mae'r safonau yn ffurfio rhan ganolog o'r fframwaith rheoleiddio, fodd bynnag, nid oes gan y fframwaith rheoleiddio ei hun sail statudol. Mae'r fframwaith yn nodi'r broses o ran sut y deuir i ddyfarniadau rheoleiddio sy'n adlewyrchu asesiad y rheoleiddiwr ynghylch a yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cydymffurfio â safonau. 

Oherwydd bod y gwelliannau, fel y cawsant eu drafftio, yn cyfeirio at ddogfennau nad oes sail statudol iddynt ac nad ydynt yn nodi adran 33A o Ddeddf Tai 1996 yn gywir, ar hyn o bryd ni fyddai'r gwelliannau hyn yn gweithredu'n effeithiol, hyd yn oed pe caent eu derbyn. Beth bynnag, maen nhw'n ddiangen, oherwydd caiff safonau perfformiad, o dan adran 33A, eisoes eu cwmpasu yn y diffiniad o ofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad. Mae egluro'r sefyllfa honno ymhellach yn ddiangen ac fe allai fwrw amheuaeth ar y dehongliad o'r darpariaethau eraill lle na ddarperir eglurder o'r fath. Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthod y gwelliannau.