Grŵp 3: Methiant i gydymffurfio â deddfiad (Gwelliannau 6, 11, 12)

– Senedd Cymru am 5:13 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:13, 24 Ebrill 2018

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 3, sy'n ymwneud â methiant i gydymffurfio â deddfiad. Gwelliant 6 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Rydw i'n galw ar David Melding i gynnig y prif welliant ac i siarad iddo a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. David Melding. 

Cynigiwyd gwelliant 6 (David Melding).

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:13, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi unwaith eto, Llywydd. Mae'r tri gwelliant yn y trydydd grŵp hwn, sef gwelliannau 6, 11 a 12, yn sicrhau y caiff methiant i gydymffurfio â'r fframwaith rheoleiddio a safonau perfformiad cysylltiedig ei gydnabod yn benodol ar wyneb y Bil fel methiant i gydymffurfio â gofyniad a osodwyd o dan ddeddfiad. Unwaith eto, mae'r gwelliant hwn yn deillio o argymhelliad yr is-bwyllgor. Yn y pen draw, Llywydd, mae hwn yn faes o ddadreoleiddio, fel y pwysleisiwyd gennym dro ar ôl tro, a bydd angen rheoli risg yn ofalus. Byddai'r amddiffyniad a roddir gan y fframwaith rheoleiddio diwygiedig yn dod yn fwy pwysig o ran rheoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig pan fydd y newidiadau deddfwriaethol a gynigir yn dod i rym—a byddant yn dod i rym, oherwydd mae ganddynt gefnogaeth pob plaid. Felly, mae'n rhaid inni mewn difrif calon edrych ar y fframwaith rheoleiddio a'r ffordd y mae'n mynd i weithio, oherwydd y grym ychwanegol a fydd ynghlwm wrtho.

Yng Nghyfnod 2, gwrthododd y Gweinidog y gwelliannau hyn, gan ddweud pe baem yn cynnwys datganiad yn y Bil y byddai safonau a osodir o dan adran 33A yn ofynion a osodwyd o dan ddeddfiad, mae peryg y gallai hynny fwrw amheuaeth ar y dehongliad o'r gofynion eraill a osodwyd gan neu o dan y deddfiadau hynny lle na wnaed datganiad tebyg.

Fodd bynnag, roedd y gwelliannau hyn wedi eu drafftio fel y cai'r fframwaith rheoleiddio ei gynnwys dim ond yn y diffiniad o 'ddeddfiad' at ddibenion penderfynu a yw landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â deddfiad yn yr Atodlen berthnasol neu adrannau o Ddeddf Tai 1996. Felly ni fyddai'r fframwaith wedi ei gynnwys yn y diffiniad o 'ddeddfiad' pan gaiff ei ddefnyddio mewn mannau eraill yn y Ddeddf. Mae'n eithaf penodol. Dyweder bod Llywodraeth Cymru eisiau penodi swyddog neu reolwr oherwydd torri'r fframwaith yn hytrach na safonau perfformiad, yna byddai'r gwelliant hwn yn eu helpu i wneud hynny.

Llywydd, canlyniad cadarnhaol y gwelliant hwn yw cynnydd yn hyder benthycwyr ariannol. Pwysleisiodd Cyllid y DU y pwynt hwn yn eu tystiolaeth, pan ddywedasant eu bod yn disgwyl i arianwyr lawenhau yn y diffiniad eang o fethiant a gynigir yn y ddeddfwriaeth, sydd, maen nhw'n credu, yn cynnwys methiant mewn perthynas â'r fframwaith rheoleiddio. Er mwyn bod yn gwbl eglur fodd bynnag, maent yn awgrymu rhoi ystyriaeth i sicrhau y  diffinnir "methiant i gydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad" yn amlwg yn y ddeddfwriaeth i gynnwys methiant mewn perthynas â'r fframwaith rheoleiddio.

Felly, Llywydd, dyma'n union yr hyn y mae'r gwelliant yn ceisio'i wneud. Gyda chymaint o ansicrwydd ynghylch dadreoleiddio, credaf y gallwn ni o leiaf, drwy ychwanegu dyletswydd i gydymffurfio â'r Bil hwn, roi'r hyder angenrheidiol i fenthycwyr i'w helpu i ariannu'r gwaith pwysig y mae'r sector hwn yn ei wneud, yn enwedig os ydynt yn fuddsoddwyr o wledydd eraill ac heb fod yn gwbl gyfarwydd â sut mae ein cyfraith yn gweithio. Byddent yn cael eglurder, a byddai'r rhai sy'n eu cynghori yn hyderus i roi hynny. Felly, rwy'n cynnig y gwelliant.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Pan fo landlord cymdeithasol cofrestredig yn methu â pherfformio'n foddhaol, ceir amrywiaeth o bwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru. Yn gyffredinol, y trothwy presennol ar gyfer gweithredu yw os bu camreoli neu gamymddwyn. Rydym ni wedi gorfod gwneud y trothwy hwn yn fwy penodol oherwydd roedd yn un o'r materion o ran rheoli a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Felly, mae'r Bil yn diwygio'r trothwy i fod yn fethiant i gydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad.

Mae'r trothwy hwn yn cynnwys methiant i gydymffurfio â safonau perfformiad a osodwyd o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996 ac a gyhoeddwyd yn y fframwaith rheoleiddiol.

Wrth siarad yn y ddadl yng Nghyfnod 2, dyfynnodd David Melding UK Finance, a nododd yn eu cyflwyniad eu bod yn awgrymu rhoi ystyriaeth i sicrhau y diffinnir "methiant i gydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad" yn amlwg yn y ddeddfwriaeth i gynnwys methiant mewn perthynas â'r fframwaith rheoleiddio.

Ers hynny, fodd bynnag, mae UK Finance wedi rhoi cadarnhad i fy swyddogion, ar ôl ystyried fy nhystiolaeth i'r Pwyllgor, bod y safonau perfformiad a gyhoeddwyd o dan adran 33A yn ofynion 'a osodwyd o dan ddeddfiad'. Maent yn fodlon nad oes angen ailddatgan hyn ar wyneb y Bil. Rwy'n cadarnhau unwaith eto fod y safonau a gyhoeddwyd o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996 yn gosod gofynion ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Maent yn ofynion clir a osodwyd o dan ddeddfiad ac felly mae ganddyn nhw eisoes y grym statudol sylweddol y gofynnodd David Melding amdano yng Nghyfnod 2 yn ystod y ddadl graffu.

Gallaf hefyd gadarnhau fy mod i wedi adolygu'r nodiadau esboniadol yn dilyn Cyfnod 2, fel yr ymrwymais i'w wneud, a'u bod yn glir bod y safonau a gyhoeddwyd o dan adran 33A yn ofyniad o dan ddeddfiad. Felly, nid wyf o'r farn bod unrhyw amwysedd ynghylch a yw'r safonau perfformiad yn ofynion o dan ddeddfiad, a, pe caent eu torri, y byddai pwerau ymyrryd ar gael i Weinidogion Cymru.

Pe baem yn cynnwys datganiad yn y Bil bod safonau a gyhoeddwyd o dan adran 33A yn 'ofynion a osodwyd o dan ddeddfiad', mae peryg y byddai hyn yn bwrw amheuaeth ynglŷn â sut i ddehongli'r gofynion eraill a osodwyd gan neu o dan y deddfiadau hynny lle na chafwyd datganiad tebyg, ac mae modd i hyn gael canlyniadau anfwriadol andwyol. Er enghraifft, petai sôn penodol am y safonau perfformiad ond dim cyfarwyddydau, pe cyhoeddwyd cyfarwyddydau maes o law, gallai pobl gwestiynu pa un a oeddent yn ofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad. Nid wyf yn cefnogi unrhyw welliannau a allai achosi unrhyw amheuaeth ynghylch eu dehongli neu ddehongli darpariaethau yn y ddeddfwriaeth hon neu mewn unrhyw ddeddfwriaeth arall.

Mae gwelliannau 6, 11 a 12 i gyd yn cyfeirio at y fframwaith rheoleiddiol ar gyfer cymdeithasau tai sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru a'i safonau perfformiad cysylltiedig. Mae safonau perfformiad yn safonau a gyflwynir yn unol ag adran 33A o Ddeddf Tai 1996. Yr ymadrodd 'safonau perfformiad' yw'r term llafar am safonau o'r fath. Mae'r safonau yn ffurfio rhan ganolog o'r fframwaith rheoleiddio, fodd bynnag, nid oes gan y fframwaith rheoleiddio ei hun sail statudol. Mae'r fframwaith yn nodi'r broses o ran sut y deuir i ddyfarniadau rheoleiddio sy'n adlewyrchu asesiad y rheoleiddiwr ynghylch a yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cydymffurfio â safonau. 

Oherwydd bod y gwelliannau, fel y cawsant eu drafftio, yn cyfeirio at ddogfennau nad oes sail statudol iddynt ac nad ydynt yn nodi adran 33A o Ddeddf Tai 1996 yn gywir, ar hyn o bryd ni fyddai'r gwelliannau hyn yn gweithredu'n effeithiol, hyd yn oed pe caent eu derbyn. Beth bynnag, maen nhw'n ddiangen, oherwydd caiff safonau perfformiad, o dan adran 33A, eisoes eu cwmpasu yn y diffiniad o ofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad. Mae egluro'r sefyllfa honno ymhellach yn ddiangen ac fe allai fwrw amheuaeth ar y dehongliad o'r darpariaethau eraill lle na ddarperir eglurder o'r fath. Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthod y gwelliannau.

Photo of David Melding David Melding Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae hyn ar gyfer y puryddion. Y cwbl y gallaf ei ddweud yw fy mod wedi cael cyngor manwl gan ein cynghorwyr o ran y gofynion cyfreithiol. Mae'n aml yn wir y bydd y Llywodraeth yn dweud, 'Ah, os ydych chi'n pwysleisio hyn drwy ei roi ar wyneb y Bil, bydd yn achosi amwysedd mewn mannau eraill, lle nad ydych chi wedi gwneud yr un fath', a bydd gennych chi Fil enfawr, cyn pen dim, oherwydd bod arnoch chi eisiau bod yn hollol siŵr.

Mae a wnelo hyn â sicrhau bod y fframweithiau rheoleiddio newydd yn mynd i fod yn effeithiol. Byddant, fel y dywedais, yn llawer, llawer mwy grymus nag yr oeddynt o'r blaen. Rydym ni'n derbyn nad ydym ni'n gwneud hyn o'n gwirfodd, ond oherwydd bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gofyn amdano oherwydd—a bod yn deg â nhw—safonau cyfrifyddu rhyngwladol, ac mae hynny wedi cael effaith ar sefydliadau rhyngwladol a sut maen nhw'n pennu lefel gwariant cyhoeddus ym Mhrydain a materion eraill o'r fath. Ond mae'n bwysig iawn inni roi i'r maes hwn o'r Bil y pwysigrwydd y mae'n ei haeddu, a gallwn wneud hynny drwy ei wneud yn glir iawn o ran ei statws fel deddfiad.

Mae'n rhaid imi ddweud, o ran Cyllid y DU, rwy'n credu bod eu cyngor gwreiddiol yn dal yn berthnasol: beth ydych chi'n ei wneud ynghylch ffynonellau cyllid a buddsoddwyr o ymhellach draw a allai wangaloni os teimlant fod elfen o amwysedd ac na fydd natur y fframwaith rheoleiddio yn ddigon cryf i sicrhau llywodraethu da priodol? Ac fe allai hynny gael effaith ar ein holl dargedau tai yn y sector tai cymdeithasol.

Nawr, er tegwch, mae'r Gweinidog wedi rhannu gyda mi yr ohebiaeth e-bost a fu gyda Cyllid y DU ac rwy'n croesawu hynny; mae'n llywodraeth agored, ond mae'n eithaf arwynebol, mae'n rhaid imi ddweud. FootnoteLink Digwyddodd hyn yn niwedd mis Mawrth. E-bost ydyw sy'n rhoi manylion pam nad oes angen i UK Finance bryderu, ac mae hynny'n cymryd ychydig dros hanner tudalen o bapur A4 heb fod y llinellau'n rhy agos, ac wedyn fe gawn nhw, wythnos yn ddiweddarach, ateb un llinell gan Cyllid y DU. Wel, mae'n rhaid imi ddweud, nad yw hynny i ddweud y gwir yn bodloni'r rhwymedigaethau craffu sydd, rwy'n credu, ar y Cynulliad hwn. Ac a dweud y gwir, os ydych chi'n dibynnu ar hynny, dylai hynny efallai fod wedi bod ar gael i'r Cynulliad yn ehangach—

(Cyfieithwyd)

Mae'r Llywodraeth yn dymuno nodi: 'Yr oedd y neges e-bost y cyfeirir ato ym mharagraffau 400 i 404 yn gysylltiedig â gwelliannau yng Ngrŵp 5. Cafwyd safbwynt Cyllid y DU o ran gwelliannau Grŵp 3 ar lafar gan swyddogion.'

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:24, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad? A wnewch chi ddweud wrthym ni beth mae'r ymateb gan Cyllid y DU yn ei ddweud?

Photo of David Melding David Melding Conservative

(Cyfieithwyd)

Maen nhw yn dweud eu bod yn fodlon, ydyn, felly—

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, fe allwch chi ei ddarllen, oherwydd mae e' yn eich llaw.

Photo of David Melding David Melding Conservative

(Cyfieithwyd)

Ond dydyn nhw ddim wedi manylu ar y materion y maen nhw'n eu crybwyll a'r mater o ffynonellau cyllid o ymhellach draw ac nid oes unrhyw ffordd y gallwch chi ddilysu a ydyn nhw wedi cael trafodaeth lawn, beth oedd y drafodaeth honno neu beth yw'r dystiolaeth y maen nhw'n seilio eu safbwynt gwahanol arni. Mae'n ateb un linell. Mae'r Gweinidog eisiau imi ei ddarllen, felly mae'n debyg y byddai'n well imi: 'Annwyl X'—X yw'r swyddog—'gallaf gadarnhau, ar ôl ystyried safbwyntiau ein haelodau, nad oes gennym ni unrhyw broblem o ran y dull arfaethedig hwn.' Ac yna yn amlwg mae'n rhaid i chi ddarllen y cyfiawnhad a roddodd y Llywodraeth, sef, gyda pheth manylder, yr hyn a ddywedodd y Gweinidog wrthym ni yn y bôn. Nawr, a ydym ni'n fodlon gyda'r hyn a ddywedodd y Gweinidog wrthym? Dyna'r farn y mae'n rhaid inni ddod iddi, ac, fel y dywedais, rwy'n credu bod Cyllid y DU ychydig yn nes ati pan ddaethant i'n gweld a rhoi eu barn i—neu roi, drwy dystiolaeth ysgrifenedig, eu barn i'r Pwyllgor. Rwy'n cynnig, felly.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:25, 24 Ebrill 2018

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 6: O blaid: 16, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 723 Gwelliant 6

Ie: 16 ASau

Na: 37 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw