Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 24 Ebrill 2018.
Mae hyn ar gyfer y puryddion. Y cwbl y gallaf ei ddweud yw fy mod wedi cael cyngor manwl gan ein cynghorwyr o ran y gofynion cyfreithiol. Mae'n aml yn wir y bydd y Llywodraeth yn dweud, 'Ah, os ydych chi'n pwysleisio hyn drwy ei roi ar wyneb y Bil, bydd yn achosi amwysedd mewn mannau eraill, lle nad ydych chi wedi gwneud yr un fath', a bydd gennych chi Fil enfawr, cyn pen dim, oherwydd bod arnoch chi eisiau bod yn hollol siŵr.
Mae a wnelo hyn â sicrhau bod y fframweithiau rheoleiddio newydd yn mynd i fod yn effeithiol. Byddant, fel y dywedais, yn llawer, llawer mwy grymus nag yr oeddynt o'r blaen. Rydym ni'n derbyn nad ydym ni'n gwneud hyn o'n gwirfodd, ond oherwydd bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gofyn amdano oherwydd—a bod yn deg â nhw—safonau cyfrifyddu rhyngwladol, ac mae hynny wedi cael effaith ar sefydliadau rhyngwladol a sut maen nhw'n pennu lefel gwariant cyhoeddus ym Mhrydain a materion eraill o'r fath. Ond mae'n bwysig iawn inni roi i'r maes hwn o'r Bil y pwysigrwydd y mae'n ei haeddu, a gallwn wneud hynny drwy ei wneud yn glir iawn o ran ei statws fel deddfiad.
Mae'n rhaid imi ddweud, o ran Cyllid y DU, rwy'n credu bod eu cyngor gwreiddiol yn dal yn berthnasol: beth ydych chi'n ei wneud ynghylch ffynonellau cyllid a buddsoddwyr o ymhellach draw a allai wangaloni os teimlant fod elfen o amwysedd ac na fydd natur y fframwaith rheoleiddio yn ddigon cryf i sicrhau llywodraethu da priodol? Ac fe allai hynny gael effaith ar ein holl dargedau tai yn y sector tai cymdeithasol.
Nawr, er tegwch, mae'r Gweinidog wedi rhannu gyda mi yr ohebiaeth e-bost a fu gyda Cyllid y DU ac rwy'n croesawu hynny; mae'n llywodraeth agored, ond mae'n eithaf arwynebol, mae'n rhaid imi ddweud. FootnoteLink Digwyddodd hyn yn niwedd mis Mawrth. E-bost ydyw sy'n rhoi manylion pam nad oes angen i UK Finance bryderu, ac mae hynny'n cymryd ychydig dros hanner tudalen o bapur A4 heb fod y llinellau'n rhy agos, ac wedyn fe gawn nhw, wythnos yn ddiweddarach, ateb un llinell gan Cyllid y DU. Wel, mae'n rhaid imi ddweud, nad yw hynny i ddweud y gwir yn bodloni'r rhwymedigaethau craffu sydd, rwy'n credu, ar y Cynulliad hwn. Ac a dweud y gwir, os ydych chi'n dibynnu ar hynny, dylai hynny efallai fod wedi bod ar gael i'r Cynulliad yn ehangach—