Grŵp 4: Pŵer i benodi swyddogion (Gwelliannau 7, 8, 9, 10)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:26, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Llywydd. Diben gwelliannau grŵp 4 yw sicrhau bod unrhyw benodiadau a wneir o dan adran 6, diswyddo neu benodi swyddog landlord cymdeithasol cofrestredig, ac adran 8, penodi rheolwr landlord cymdeithasol cofrestredig, yn dod i ben pan gydymffurfir â gofyniad perthnasol, neu pan fo'r methiant perthnasol wedi ei ddatrys. O dan yr adrannau hyn, gellir penodi swyddog i sicrhau y cydymffurfir â gofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad, a gellir penodi rheolwr pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon bod landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad.

Yn ystod gwaith craffu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a deddfwriaethol—a dylwn fod wedi crybwyll yn gynharach fy mod yn aelod o'r pwyllgor hwnnw, er fy mod i'n tybio bod y ffaith honno'n un weddol hysbys—fe wnaethom ni ofyn i'r Gweinidog p'un a roddwyd ystyriaeth i gynnwys darpariaethau yn adrannau 6 ac 8 o'r Bil ynghylch cyfyngu ar yr amser y penodir swyddog neu reolwr landlord cymdeithasol cofrestredig gan Weinidogion Cymru lle bu methiant i gydymffurfio â deddfiad. Fe wnaethom ni hefyd gwestiynu a fyddai hi'n gliriach dweud y bydd unrhyw benodiadau a wneir o dan adrannau 6 neu 8 o'r Bil yn dod i ben pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon y cydymffurfir â'r gofyniad perthnasol. Mewn llythyr o ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, dadleuodd y Gweinidog na fyddai'r argymhelliad hwn yn caniatáu ar gyfer cyfnod pontio ble gallai'r swyddog barhau yn ei swydd wrth i Weinidogion Cymru sicrhau eu hunain eu bod yn fodlon bod y landlord cymdeithasol cofrestredig bellach yn gallu gweithredu heb gymorth y swyddog.

Yn ogystal â hyn, yng Nghyfnod 2, dadleuodd y Gweinidog y byddai'r gwelliant hwn yn dileu yr hyblygrwydd i gael cyfnod pontio ble byddai'r swyddog neu'r rheolwr yn parhau yn y swydd ar ôl datrys y toramod. Yn benodol, dywedodd y Gweinidog ei bod hi'n aml yn wir bod mewnbwn pellach yn ofynnol, er enghraifft, wrth i Weinidogion Cymru fonitro p'un a all landlord cymdeithasol cofrestredig gynnal y gwelliant a wnaeth.

Nawr, mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud, ond credaf o ran eglurder, y byddai'n well cael dull gwahanol. Byddai cyfarwyddebau yn cael eu cyhoeddi dim ond mewn amgylchiadau prin a heriol, a byddai rhywun yn tybio felly y byddai Gweinidogion Cymru yn dymuno i'r swyddog aros yn ei swydd nes eu bod yn credu y tu hwnt i amheuaeth resymol bod y mater wedi'i gywiro. Felly, nid wyf yn gweld pam rydych chi'n teimlo bod angen siarad am gyfnodau pontio. O dan y gwelliant hwn, byddai'r penodiad yn dal i fod yn unol â doethineb Gweinidogion Cymru, a byddai'n ofynnol iddynt hwythau derfynnu hynny ar ôl datrys y methiant neu pan font yn fodlon y cydymffurfir â'r gofyniad, ac, yn y bôn, yr oll y mae hyn yn ei wneud yw drafftio'r gyfraith yn fwy tyn, gyda diffiniad cliriach, ac mae'n cyflawni yr un bwriad.

Byddai'n ofynnol i Weinidogion Cymru fonitro'r landlord cymdeithasol cofrestredig am gyfnod i sicrhau eu bod yn fodlon. Rwy'n cytuno bod angen cynnal pethau. Allwch chi ddim dweud 'Iawn, rydych chi wedi cyrraedd y safon ofynnol,' ond mae'r gloch yn canu ac, felly, mae'r gofyniad yn amherthnasol. Yn amlwg mae'n rhaid cynnal hynny, ac rwy'n credu bod modd rhoi sylw i hynny i gyd yn ein gwelliant cliriach. Felly rwy'n cynnig.