– Senedd Cymru am 5:26 pm ar 24 Ebrill 2018.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 4, ac mae'r grŵp yma'n ymwneud â'r pŵer i benodi swyddogion. Gwelliant 7 yw'r prif welliant yn y grŵp ac rydw i'n galw ar David Melding i gynnig y prif welliant, i siarad am y gwelliant hwnnw ac i'r gwelliannau eraill yn y grŵp. David Melding.
Diolch ichi, Llywydd. Diben gwelliannau grŵp 4 yw sicrhau bod unrhyw benodiadau a wneir o dan adran 6, diswyddo neu benodi swyddog landlord cymdeithasol cofrestredig, ac adran 8, penodi rheolwr landlord cymdeithasol cofrestredig, yn dod i ben pan gydymffurfir â gofyniad perthnasol, neu pan fo'r methiant perthnasol wedi ei ddatrys. O dan yr adrannau hyn, gellir penodi swyddog i sicrhau y cydymffurfir â gofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad, a gellir penodi rheolwr pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon bod landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad.
Yn ystod gwaith craffu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a deddfwriaethol—a dylwn fod wedi crybwyll yn gynharach fy mod yn aelod o'r pwyllgor hwnnw, er fy mod i'n tybio bod y ffaith honno'n un weddol hysbys—fe wnaethom ni ofyn i'r Gweinidog p'un a roddwyd ystyriaeth i gynnwys darpariaethau yn adrannau 6 ac 8 o'r Bil ynghylch cyfyngu ar yr amser y penodir swyddog neu reolwr landlord cymdeithasol cofrestredig gan Weinidogion Cymru lle bu methiant i gydymffurfio â deddfiad. Fe wnaethom ni hefyd gwestiynu a fyddai hi'n gliriach dweud y bydd unrhyw benodiadau a wneir o dan adrannau 6 neu 8 o'r Bil yn dod i ben pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon y cydymffurfir â'r gofyniad perthnasol. Mewn llythyr o ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, dadleuodd y Gweinidog na fyddai'r argymhelliad hwn yn caniatáu ar gyfer cyfnod pontio ble gallai'r swyddog barhau yn ei swydd wrth i Weinidogion Cymru sicrhau eu hunain eu bod yn fodlon bod y landlord cymdeithasol cofrestredig bellach yn gallu gweithredu heb gymorth y swyddog.
Yn ogystal â hyn, yng Nghyfnod 2, dadleuodd y Gweinidog y byddai'r gwelliant hwn yn dileu yr hyblygrwydd i gael cyfnod pontio ble byddai'r swyddog neu'r rheolwr yn parhau yn y swydd ar ôl datrys y toramod. Yn benodol, dywedodd y Gweinidog ei bod hi'n aml yn wir bod mewnbwn pellach yn ofynnol, er enghraifft, wrth i Weinidogion Cymru fonitro p'un a all landlord cymdeithasol cofrestredig gynnal y gwelliant a wnaeth.
Nawr, mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud, ond credaf o ran eglurder, y byddai'n well cael dull gwahanol. Byddai cyfarwyddebau yn cael eu cyhoeddi dim ond mewn amgylchiadau prin a heriol, a byddai rhywun yn tybio felly y byddai Gweinidogion Cymru yn dymuno i'r swyddog aros yn ei swydd nes eu bod yn credu y tu hwnt i amheuaeth resymol bod y mater wedi'i gywiro. Felly, nid wyf yn gweld pam rydych chi'n teimlo bod angen siarad am gyfnodau pontio. O dan y gwelliant hwn, byddai'r penodiad yn dal i fod yn unol â doethineb Gweinidogion Cymru, a byddai'n ofynnol iddynt hwythau derfynnu hynny ar ôl datrys y methiant neu pan font yn fodlon y cydymffurfir â'r gofyniad, ac, yn y bôn, yr oll y mae hyn yn ei wneud yw drafftio'r gyfraith yn fwy tyn, gyda diffiniad cliriach, ac mae'n cyflawni yr un bwriad.
Byddai'n ofynnol i Weinidogion Cymru fonitro'r landlord cymdeithasol cofrestredig am gyfnod i sicrhau eu bod yn fodlon. Rwy'n cytuno bod angen cynnal pethau. Allwch chi ddim dweud 'Iawn, rydych chi wedi cyrraedd y safon ofynnol,' ond mae'r gloch yn canu ac, felly, mae'r gofyniad yn amherthnasol. Yn amlwg mae'n rhaid cynnal hynny, ac rwy'n credu bod modd rhoi sylw i hynny i gyd yn ein gwelliant cliriach. Felly rwy'n cynnig.
Rydym ni wedi penderfynu yng ngrŵp Plaid Cymru i beidio â chefnogi'r gwelliannau hyn. Rydym ni'n credu, ar yr achlysur hwn, y byddent yn gosod gormod o anhyblygrwydd ar y Llywodraeth ac fe allai hi fod yn fanteisiol caniatáu hyblygrwydd o ran y mater penodol hwn. Yn sicr ceir amgylchiadau lle mae caniatáu i berson a benodir gan Lywodraeth Cymru barhau yn ei swyddogaeth yn fantais i'r sefydliad ac i denantiaid y sefydliad hwnnw, pan fo'r ymyriad yn dod i ben, ac rwy'n credu y gallai bod yn rhy benodol beidio â chaniatáu'r hyblygrwydd penodol hwnnw. Felly, yn hynny o beth, fyddwn ni ddim yn cefnogi'r gwelliannau.
Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.
Diolch. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar y sylwadau a wnaed gan David Melding heddiw ac yn sesiwn pwyllgor Cyfnod 2, a hefyd ar y sylwadau a wnaed gan Bethan Sayed heddiw, ac rwy'n credu o ddifrif bod ar bob un ohonom ni eisiau gweld yr un canlyniad yn hyn o beth, sef pan benodir swyddog neu aelod o'r Bwrdd neu reolwr gan Weinidogion Cymru i sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad, bod y penodiad ar gyfer amser rhesymol ac nid yn barhaol, ond dim ond hyd nes ei bod hi'n briodol, i sicrhau bod y landlord cymdeithasol cofrestredig wedi rhoi sylw i'r mater o dan sylw ac y gall barhau i gydymffurfio. Fodd bynnag, nid yw'r gwelliannau a gyflwynwyd ger ein bron yn angenrheidiol er mwyn cyflawni hyn, ac efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bawn yn egluro'r cyd-destun ble gellid defnyddio'r pwerau hyn, oherwydd caent eu defnyddio dim ond mewn amgylchiadau prin ble mae materion rheoleiddio difrifol iawn i fynd i'r afael â nhw.
Mae'r tîm rheoleiddio yn monitro perfformiad landlordiaid cymdeithasol cofrestredig drwy oruchwylio parhaus a chyd-reoleiddio, ac mae'n debygol, felly, y byddai cryn ymwneud rheoleiddio cyn y byddai angen ymyriad ffurfiol o'r arwyddocâd hwn. Fe wnaethom ni ddiweddaru'r fframwaith rheoleiddio y llynedd i gynnwys dyfarniadau rheoleiddiol. Mae'r dyfarniadau yn rhoi barn y rheoleiddiwr ynglŷn â pherfformiad landlord cymdeithasol cofrestredig, sydd ar gael i'r cyhoedd, ac yn hysbysu tenantiaid, benthycwyr a rhanddeiliaid eraill am eu perfformiad. Pan fo gan y rheoleiddiwr bryderon sylweddol am gymdeithas, ar ôl darganfod y ffeithiau, gellir cyhoeddi dyfarniad diwygiedig gydag amlinelliad o'r materion dan sylw. Effaith hyn yw rhoi hysbysiad cyhoeddus i'r bwrdd a'r tîm gweithredol ei bod hi'n ofynnol iddynt fynd i'r afael â materion difrifol—yr hyn y gellid eu galw'n 'fesurau arbennig' mewn meysydd eraill.
Caiff cyllidwyr a rhanddeiliaid eraill eu hysbysu ar unwaith, a bydd y bwrdd a'r tîm gweithredol yn atebol i'r cyhoedd am weithredu i ddatrys y materion. Mae'r fframwaith a'r dyfarniadau felly yn sefydlu amgylchiadau rheoleiddio cadarn, sy'n cymell gwelliant, sy'n golygu bod y sefyllfaoedd lle mae angen defnyddio pwerau statudol yn brin iawn. Fodd bynnag, mae'r grym i benodi swyddogion a rheolwyr yn bwysig o ran sicrhau buddiannau tenantiaid ac y diogelir arian cyhoeddus a fuddsoddir mewn tai cymdeithasol, ar yr achlysuron prin iawn y gallai fod angen ymyriadau o'r fath. Felly, rhaid i'r darpariaethau hyn weithio'n effeithiol yn ymarferol.
Mynegwyd pryderon gan Mr Melding bod modd ar hyn o bryd penodi swyddog am gyfnod amhenodol. [Torri ar draws.] David Melding, Esgusodwch fi. [Chwerthin.] Dydy hynny dim yn wir. Penodir yn unol â'r cyfnodau a'r telerau y mae Gweinidogion Cymru wedi eu pennu. Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried pryd a sut mae'n briodol penodi, ac maent yn ddarostyngedig i gyfraith gyhoeddus wrth gymryd y camau hynny. Mae hyn yn golygu na all Gweinidogion Cymru weithredu yn afresymol neu adael rhywun mewn sefyllfa lle nad oes unrhyw reswm da dros iddynt fod yno. Pan benodir rhywun, bydd yn monitro cynnydd y sefyllfa, a phenderfynir ar yr amser priodol i roi terfyn ar y penodiad mewn modd gwybodus. Felly, rwy'n fodlon bod y ddeddfwriaeth bresennol yn effeithiol, a bod digon o fesurau diogelu er mwyn sicrhau y bydd swyddogion neu reolwyr a benodwyd gan Weinidogion Cymru i ymdrin â phroblem benodol ddim yn aros mewn swydd am fwy nag oes angen neu sy'n briodol, ac am y rheswm hwn, mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn ddiangen.
Yn ogystal â hyn, fe hoffwn i hefyd dynnu sylw'r Aelodau at ychydig o faterion ymarferol gyda'r gwelliannau. Yn ogystal â phenodiadau i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion gan neu o dan ddeddfiad, mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn hefyd yn nodi'r amgylchiadau eraill lle gellid penodi swyddog, er enghraifft, ble terfynir penodiad swyddog gan Weinidogion Cymru. Nid yw penodiadau a wneir o dan yr amgylchiadau hyn yn gysylltiedig â methiant i gydymffurfio â gofynion a osodir gan neu o dan ddeddfiad, ac felly ni fyddai'r sbardun ar gyfer terfynu penodiadau yn gweithio yn y mathau hyn o benodiadau. Mae'r gwelliannau hefyd yn dileu gallu Gweinidogion Cymru i adnewyddu penodiadau, sy'n dileu'r hyblygrwydd pellach i gadw'r penodai yn ei swydd yn ystod cyfnod pontio.
Yn olaf, rwy'n cofio yng Ngham 2 bod David Melding wedi codi pryderon y gallai'r sefyllfa bresennol danseilio pryder y Swyddfa Ystadegau Gwladol, neu eu hawydd i weld bod annibyniaeth amlwg yn y modd y caiff landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eu llywodraethu. Fodd bynnag, nid diben y Bil hwn yw diwygio swyddogaethau rheoleiddio cyffredinol Gweinidogion Cymru yn fwy eang, ond yn hytrach i fynd i'r afael â'r elfennau hynny o reolaeth a arweiniodd at y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o fewn y sector cyhoeddus.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi adolygu'r Bil cyn ei gyflwyno, a dywedodd os caiff y Bil Gydsyniad Brenhinol ar ei ffurf bresennol, ni fyddai dylanwad y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd, wedi ei arfer drwy Lywodraeth ganolog, awdurdodau lleol a bodolaeth cytundebau enwebiad, yn gyfystyr â rheolaeth y sector cyhoeddus. Felly, rwyf nid yn unig yn fodlon bod y gwelliannau hyn yn ddiangen i sicrhau bod penodiadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn cael eu trin yn briodol, rwyf hefyd yn fodlon nad yw Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi crybwyll cyfnodau penodiadau yn ystod ei hystyriaethau, ac ni fyddai'r darpariaethau deddfwriaethol presennol mewn perthynas â chyfnod penodiadau yn effeithio ar benderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o ran ailddosbarthu. Am y rhesymau hyn, gofynnaf ar ichi beidio â chefnogi'r gwelliannau.
David Melding i ymateb i'r drafodaeth.
Rwy'n cytuno bod yn rhaid gwneud gwelliannau yn fwy eglur a sefydlu gwell polisi ar gyfer y dyfodol o ran pryd mae'n rhaid gwneud ymyraethau, ac nid wyf yn credu mai'r arfer gorau yw rhoi gormod o bŵer eang i'r Bwrdd Gweithredol, nad yw wedi ei ddiffinio'n fanylach. Fodd bynnag, gan fod y Gweinidog wedi cofnodi ei sefyllfa yn llawn o ran sut y byddai hyn yn gweithredu, a chyfeiriodd at y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac, yn enwedig, gan nad wyf yn cael unrhyw gefnogaeth gan Blaid Cymru, nid wyf am boeni'r Cynulliad drwy bwyso am bleidlais ar grŵp 4, gan ei bod amlwg na fyddai'n cael cefnogaeth y Cynulliad.
Felly, nid yw gwelliant 7 yn cael ei gynnig. Os yw'r Cynulliad yn fodlon ar hynny, ni fydd pleidlais ar welliant 7 na'r holl welliannau eraill yn grŵp 4.
Mae hyn yn dod â ni, felly, at welliant 11. Mae angen i David Melding gyflwyno gwelliant 11 yn ffurfiol.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 11. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 11.
Gwelliant 12, David Melding.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 12. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 12.
David Melding, gwelliant 13.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 13. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 13.