Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 24 Ebrill 2018.
Diolch. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar y sylwadau a wnaed gan David Melding heddiw ac yn sesiwn pwyllgor Cyfnod 2, a hefyd ar y sylwadau a wnaed gan Bethan Sayed heddiw, ac rwy'n credu o ddifrif bod ar bob un ohonom ni eisiau gweld yr un canlyniad yn hyn o beth, sef pan benodir swyddog neu aelod o'r Bwrdd neu reolwr gan Weinidogion Cymru i sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad, bod y penodiad ar gyfer amser rhesymol ac nid yn barhaol, ond dim ond hyd nes ei bod hi'n briodol, i sicrhau bod y landlord cymdeithasol cofrestredig wedi rhoi sylw i'r mater o dan sylw ac y gall barhau i gydymffurfio. Fodd bynnag, nid yw'r gwelliannau a gyflwynwyd ger ein bron yn angenrheidiol er mwyn cyflawni hyn, ac efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bawn yn egluro'r cyd-destun ble gellid defnyddio'r pwerau hyn, oherwydd caent eu defnyddio dim ond mewn amgylchiadau prin ble mae materion rheoleiddio difrifol iawn i fynd i'r afael â nhw.
Mae'r tîm rheoleiddio yn monitro perfformiad landlordiaid cymdeithasol cofrestredig drwy oruchwylio parhaus a chyd-reoleiddio, ac mae'n debygol, felly, y byddai cryn ymwneud rheoleiddio cyn y byddai angen ymyriad ffurfiol o'r arwyddocâd hwn. Fe wnaethom ni ddiweddaru'r fframwaith rheoleiddio y llynedd i gynnwys dyfarniadau rheoleiddiol. Mae'r dyfarniadau yn rhoi barn y rheoleiddiwr ynglŷn â pherfformiad landlord cymdeithasol cofrestredig, sydd ar gael i'r cyhoedd, ac yn hysbysu tenantiaid, benthycwyr a rhanddeiliaid eraill am eu perfformiad. Pan fo gan y rheoleiddiwr bryderon sylweddol am gymdeithas, ar ôl darganfod y ffeithiau, gellir cyhoeddi dyfarniad diwygiedig gydag amlinelliad o'r materion dan sylw. Effaith hyn yw rhoi hysbysiad cyhoeddus i'r bwrdd a'r tîm gweithredol ei bod hi'n ofynnol iddynt fynd i'r afael â materion difrifol—yr hyn y gellid eu galw'n 'fesurau arbennig' mewn meysydd eraill.
Caiff cyllidwyr a rhanddeiliaid eraill eu hysbysu ar unwaith, a bydd y bwrdd a'r tîm gweithredol yn atebol i'r cyhoedd am weithredu i ddatrys y materion. Mae'r fframwaith a'r dyfarniadau felly yn sefydlu amgylchiadau rheoleiddio cadarn, sy'n cymell gwelliant, sy'n golygu bod y sefyllfaoedd lle mae angen defnyddio pwerau statudol yn brin iawn. Fodd bynnag, mae'r grym i benodi swyddogion a rheolwyr yn bwysig o ran sicrhau buddiannau tenantiaid ac y diogelir arian cyhoeddus a fuddsoddir mewn tai cymdeithasol, ar yr achlysuron prin iawn y gallai fod angen ymyriadau o'r fath. Felly, rhaid i'r darpariaethau hyn weithio'n effeithiol yn ymarferol.
Mynegwyd pryderon gan Mr Melding bod modd ar hyn o bryd penodi swyddog am gyfnod amhenodol. [Torri ar draws.] David Melding, Esgusodwch fi. [Chwerthin.] Dydy hynny dim yn wir. Penodir yn unol â'r cyfnodau a'r telerau y mae Gweinidogion Cymru wedi eu pennu. Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried pryd a sut mae'n briodol penodi, ac maent yn ddarostyngedig i gyfraith gyhoeddus wrth gymryd y camau hynny. Mae hyn yn golygu na all Gweinidogion Cymru weithredu yn afresymol neu adael rhywun mewn sefyllfa lle nad oes unrhyw reswm da dros iddynt fod yno. Pan benodir rhywun, bydd yn monitro cynnydd y sefyllfa, a phenderfynir ar yr amser priodol i roi terfyn ar y penodiad mewn modd gwybodus. Felly, rwy'n fodlon bod y ddeddfwriaeth bresennol yn effeithiol, a bod digon o fesurau diogelu er mwyn sicrhau y bydd swyddogion neu reolwyr a benodwyd gan Weinidogion Cymru i ymdrin â phroblem benodol ddim yn aros mewn swydd am fwy nag oes angen neu sy'n briodol, ac am y rheswm hwn, mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn ddiangen.
Yn ogystal â hyn, fe hoffwn i hefyd dynnu sylw'r Aelodau at ychydig o faterion ymarferol gyda'r gwelliannau. Yn ogystal â phenodiadau i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion gan neu o dan ddeddfiad, mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn hefyd yn nodi'r amgylchiadau eraill lle gellid penodi swyddog, er enghraifft, ble terfynir penodiad swyddog gan Weinidogion Cymru. Nid yw penodiadau a wneir o dan yr amgylchiadau hyn yn gysylltiedig â methiant i gydymffurfio â gofynion a osodir gan neu o dan ddeddfiad, ac felly ni fyddai'r sbardun ar gyfer terfynu penodiadau yn gweithio yn y mathau hyn o benodiadau. Mae'r gwelliannau hefyd yn dileu gallu Gweinidogion Cymru i adnewyddu penodiadau, sy'n dileu'r hyblygrwydd pellach i gadw'r penodai yn ei swydd yn ystod cyfnod pontio.
Yn olaf, rwy'n cofio yng Ngham 2 bod David Melding wedi codi pryderon y gallai'r sefyllfa bresennol danseilio pryder y Swyddfa Ystadegau Gwladol, neu eu hawydd i weld bod annibyniaeth amlwg yn y modd y caiff landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eu llywodraethu. Fodd bynnag, nid diben y Bil hwn yw diwygio swyddogaethau rheoleiddio cyffredinol Gweinidogion Cymru yn fwy eang, ond yn hytrach i fynd i'r afael â'r elfennau hynny o reolaeth a arweiniodd at y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o fewn y sector cyhoeddus.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi adolygu'r Bil cyn ei gyflwyno, a dywedodd os caiff y Bil Gydsyniad Brenhinol ar ei ffurf bresennol, ni fyddai dylanwad y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd, wedi ei arfer drwy Lywodraeth ganolog, awdurdodau lleol a bodolaeth cytundebau enwebiad, yn gyfystyr â rheolaeth y sector cyhoeddus. Felly, rwyf nid yn unig yn fodlon bod y gwelliannau hyn yn ddiangen i sicrhau bod penodiadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn cael eu trin yn briodol, rwyf hefyd yn fodlon nad yw Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi crybwyll cyfnodau penodiadau yn ystod ei hystyriaethau, ac ni fyddai'r darpariaethau deddfwriaethol presennol mewn perthynas â chyfnod penodiadau yn effeithio ar benderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o ran ailddosbarthu. Am y rhesymau hyn, gofynnaf ar ichi beidio â chefnogi'r gwelliannau.