Part of the debate – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 24 Ebrill 2018.
Arweinydd y Tŷ, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad brys ynglŷn â chynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ad-drefnu gwasanaethau iechyd yn y gorllewin. Fel y byddwch yn ymwybodol, yr wythnos diwethaf, lansiodd bwrdd iechyd Hywel Dda ei gynlluniau newid gwasanaeth newydd, ac yn y tri opsiwn a gafodd eu cyhoeddi, bydd ysbyty Llwynhelyg yn cael ei israddio o fod yn ysbyty cyffredinol i fod yn ysbyty cymunedol. Afraid dweud, bod y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli yn sir Benfro yn ffyrnig, gan fod yr ymgynghoriad hwn yn ei gwneud yn gwbl glir nad oes ganddynt unrhyw ddewis ond wynebu israddio eu hysbyty lleol, gan nad oes unrhyw opsiwn arall. Yn wir, mae pobl mor flin bod dros 8,500 o bobl wedi llofnodi deiseb yn y 24 awr diwethaf, dan arweiniad un o fy etholwyr, Myles Bamford Lewis, i wrthdroi'r penderfyniad i israddio ysbyty Llwynhelyg.
Wrth gwrs, yn sgil penderfyniad y bwrdd iechyd, unwaith eto, bydd hyd yn oed mwy o gleifion yn sir Benfro yn gorfod teithio ymhellach i gael gwasanaethau iechyd pwysig. Ac fel y cydnabu ymgynghoriad bwrdd iechyd, bydd hyn yn cael effaith ar gymunedau ledled sir Benfro. Mae'r opsiynau hyn yn gwbl annerbyniol i'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli. Felly, mae'n bwysig bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno datganiad ar yr effaith y caiff y diffyg dewis a dewis amgen hyn ar bobl sir Benfro, ac ar yr un pryd, gall gadarnhau, unwaith ac am byth, ar gofnod, y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arian ar gael ar gyfer pob un o'r cynigion hyn. Os nad yw fforddiadwyedd unrhyw un o'r cynigion neu bob un ohonynt wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, beth yw pwrpas ymgynghori ar unrhyw newid yn y lle cyntaf?
Arweinydd y Tŷ, rwy'n credu bod y cynigion trychinebus hyn gan fwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn ei gwneud yn eithaf clir ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru ymyrryd a gwneud yn siŵr bod y bwrdd iechyd yn cyflwyno cynlluniau llawer mwy synhwyrol drwy fod yn deg i bobl sir Benfro. Felly, a wnewch chi bwyso ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno datganiad yn amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddarparu gwasanaethau iechyd yn y gorllewin?