Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 24 Ebrill 2018.
Arweinydd y Tŷ, byddwch yn ymwybodol bod y mater o oedi wrth drosglwyddo gofal yn un sydd wedi bod yn her gyson ar gyfer y Llywodraeth hon. Mae ffigurau a ryddhawyd yr wythnos diwethaf, ar gyfer mis Mawrth, yn dangos bod 391 o gleifion yn dioddef oedi wrth drosglwyddo gofal, a bod oedi wrth drefnu gofal cymdeithasol yn rhan sylweddol o'r ffigur hwnnw. Nawr, rwy'n cofio degawd yn ôl roeddem yn ymdrin â ffigurau cyfrannedd tebyg iawn: 400 ar gyfartaledd. Felly, nid yw'r ffigurau wedi newid, o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, mewn degawd. I roi hynny mewn cyd-destun: ar bob dydd o'r wythnos, mae gennym yr hyn sy'n cyfateb i ddau ysbyty maint Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn llawn cleifion sy'n feddygol iach i gael eu rhyddhau ond sy'n methu â symud o'u gwely yn yr ysbyty i'r cam adfer nesaf. Felly, o ran capasiti, mae hynny'n 12,000 o ddiwrnodau gwely bob mis ar goll o'r system. Felly, a fydd y Llywodraeth yn barod i gyflwyno dadl yn amlinellu'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â'r dagfa enfawr, systematig hon?