Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 24 Ebrill 2018.
Tybed a gaf i ofyn, mewn gwirionedd byddai datganiad ysgrifenedig yn well ar gyfer hyn mae'n debyg, naill ai gan yr Ysgrifennydd llywodraeth leol, neu, yn wir, gennych chi eich hun, i egluro'r sefyllfa o ran pwy sy'n gyfrifol am fonitro a datrys unrhyw broblemau yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ein hawdurdodau lleol. Rai wythnosau yn ôl, mewn ateb ysgrifenedig i gwestiwn llafar na lwyddwyd i'w gyrraedd, dywedwyd wrthyf, yma yn y Siambr, fod
'y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn arwain, monitro a rheoleiddio awdurdodau lleol yn rhan o'u dyletswydd' ac wedyn yn cymryd unrhyw gamau gweithredu gyda chyflogwyr i helpu i fynd i'r afael â'r bwlch hwnnw. Pan ysgrifennais at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, cadarnhawyd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 ac ar gyfer y tair blynedd flaenorol, nad oedd ganddo unrhyw wybodaeth o gwbl am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn unrhyw un o'r cynghorau yng Nghymru, ac yn wir nid oedd wedi cymryd unrhyw gamau i unioni unrhyw beth. Felly, tybed a wnewch chi egluro yn union pwy sy'n gyfrifol am ddarparu'r data, a'i ddadansoddi, oherwydd ymddengys i mi nad yw rhywun yn rhywle yn gwneud yr hyn y dylai fod yn ei wneud.