Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 24 Ebrill 2018.
A gaf i alw am dri datganiad, os gwelwch yn dda—y cyntaf ar ddiogelwch ar y ffyrdd yng Nghonwy a sir Ddinbych? Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol y cyhoeddwyd bod grŵp gorchwyl a gorffen wedi ei sefydlu ar gyfer y darn o ffordd sy'n arbennig o beryglus, o'r enw triongl Evo, sy'n croesi'r ffin rhwng Conwy a sir Ddinbych yn fy etholaeth i. Mae'n 20 milltir o hyd, a chaiff ei hyrwyddo ar fforymau ar-lein a chylchgronau fel man lle dylai pobl yrru'n gyflym iawn a mwynhau'r wefr. Ond, yn anffodus, mae hyn wedi arwain at ddamweiniau difrifol, a nifer o farwolaethau ar y darn penodol hwnnw. Cyn y Nadolig, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i sefydlu, a gwnaed argymhelliad gan y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw i osod camerâu cyflymder cyfartalog ar hyd y llwybr. Roeddwn i'n siomedig iawn, yr wythnos diwethaf, i gael gwybod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fod Llywodraeth Cymru, ar ôl yr anogaeth i hyrwyddo cais camerâu cyflymder cyfartalog, wedi gwrthod y cais am gyllid i osod camerâu cyflymder cyfartalog ar hyd y llwybr. Felly, mae arnaf ofn fod gobeithion fy etholwyr o sefyllfa draffig ffyrdd fwy diogel yn y rhan honno o'r etholaeth wedi'u chwalu'n llwyr. Ac rwy'n credu bod esboniad yn ddyledus iddynt gan y Gweinidog, yn y Siambr hon, fel y gallwn wybod yn union pam mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y cyllid i wneud eu haddewid o osod camerâu cyflymder cyfartalog ar hyd y llwybr hwnnw yn bosibl. Rwy'n credu bod angen diweddariad arnom ar hynny, os gwelwch yn dda.
A gaf i hefyd alw am ddatganiad priodol ar y rhaglen targedu buddsoddiad mewn adfywio? Rwy'n deall bod dogfen ddrafft ar gael ar hyn o bryd, ar gyfer y cyfnod 2018-21, a'i bod yn cyfeirio at un lle yn fy etholaeth i—ardal Pen-sarn, ger Abergele—ond, yn anffodus, ymddengys ei bod wedi hepgor yn llwyr gymuned eithaf tlawd mewn lle o'r enw Sandy Cove, ar hyd y rhan honno o'r arfordir rhwng y Rhyl ac Abergele. Tybed a fydd cyfle, gan mai dogfen ddrafft yw hi, i gyflwyno deiseb yn gofyn i'r Llywodraeth adolygu'r sefyllfa, er mwyn cynnwys Sandy Cove, yn arbennig o gofio'r sefyllfa ddifrifol o ran ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu.
Ac, yn olaf, o ystyried eich cyfrifoldeb dros gymunedau ffydd, arweinydd y tŷ, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Undeb Bedyddwyr Cymru ar ei phen-blwydd yn gant a hanner? Roedd llawer o Aelodau'r Cynulliad yn bresennol yn y dathliadau, a gynhaliwyd draw yn y Pierhead y prynhawn yma, ac rwyf o'r farn y dylid cydnabod hynny yma yn y Siambr y prynhawn yma, gennych chi, yn rhinwedd eich swydd fel y Gweinidog ar gyfer cymunedau ffydd. Mae Undeb Bedyddwyr Cymru wedi cael effaith aruthrol, nid yn unig ar bobl Cymru, ond o amgylch y byd hefyd, trwy ei gweithgareddau cenhadol, ac rwy'n credu bod dyletswydd arnom i gydnabod y cyfraniad aruthrol a wnaed ganddynt.