Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 24 Ebrill 2018.
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniadau. Rydych yn llygad eich lle ynghylch yr angen i groesgyfeirio ein huchelgeisiau a'n dyheadau o ran teithio llesol. Dyna pam y byddwn ond yn symud ymlaen yn y maes hwn os weithiwn ni ar draws y Llywodraeth. Dyna pam yr wyf wedi bod yn gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i sicrhau bod y dewisiadau eraill hynny ar gael, a phan fyddwn yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, y byddwn ni'n ystyried ein rhwymedigaethau o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd.
O ran sefydlu parth â chyflymder rhagosodedig o 20 mya mewn ardaloedd trefol, credaf yn sicr y gallai awdurdodau lleol edrych ar hynny fel rhan o'u parthau aer glân. Ond mae'r rhain i gyd yn bethau y mae angen inni edrych arnynt fel rhan o'r ganolfan monitro ac asesu ansawdd aer a hefyd fel rhan o gynllun a rhaglen aer glân y byddwn yn eu cyflwyno.
Ynghylch plannu coed, rydych chi'n berffaith iawn. Credaf mai'r ymadrodd oedd, 'Y coed iawn yn y lleoedd iawn'—a'u swyddogaeth o ran dal carbon hefyd. Credaf mai un o'r pethau i'w wneud ynghylch hynny yw dweud mai'r flaenoriaeth arall o fewn fy mhortffolio yw creu coetiroedd. Ac ydym, rydym yn gwybod, er mwyn bodloni ein huchelgeisiau yn y maes hwnnw, fod angen inni greu coetiroedd ar raddfa eang, heb anghofio bod mwy i hyn na chreu coetiroedd mawr ac ar raddfa eang yn unig. Mewn gwirionedd mae'n ymwneud â'n hardaloedd trefol a'r ardaloedd o gwmpas ein trefi hefyd, a dyna swyddogaeth i'r gronfa seilwaith gwyrdd hefyd.