Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 24 Ebrill 2018.
Diolch. A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau? Rwy'n gwybod fod gennych chi ddiddordeb mawr yn hyn fel yr Aelod Cynulliad rhanbarthol. Mae'r pwynt o ran yr ymgynghoriad a chysylltu ag unigolion fel cartrefi gofal ac ysgolion yn uniongyrchol yn bwynt da iawn, iawn, a byddaf yn ystyried hynny ac yn siarad â swyddogion ynghylch sut y gallwn ni wneud hynny.
Rydych chi'n hollol gywir o ran Port Talbot, bod dau linyn yn y fan honno o ran yr effaith ar ansawdd yr aer, a dyna pam yr wyf yn awyddus i edrych ar gynllun gweithredu Port Talbot ac mewn gwirionedd gwneud yn siŵr ei bod yn edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd. Ac mae angen inni fonitro i weld ble maen nhw'n rhy uchel a phryd y maen nhw'n digwydd. Yn ogystal â'r gwaith dur ei hun, mae gennych chi mewn gwirionedd yr holl ddiwydiant eraill o'i amgylch hefyd. Felly, rydych chi'n gywir ei fod yn sefyllfa wirioneddol gymhleth, integredig, ond nid oes unrhyw ddiben mynd i'r afael ag un heb y llall; mae angen inni fynd i'r afael â nhw gyda'i gilydd i wella ansawdd aer yn yr ardal.
Nid wyf yn gwbl siwr ynghylch y cwestiwn am ffyrdd A. Y rhai y rhestrais i yn y datganiad yw'r rhai y gwyddom ni bod y lefela'n uchel, a hefyd oherwydd eu bod yn gefnffyrdd a'n bod ni yn gyfrifol amdanyn nhw neu ein bod yn gallu gweithredu hynny fel Llywodraeth Cymru. Ond rwy'n derbyn yr hyn y mae hi'n ei ddweud am ganol trefi. Dyna pam y mae angen inni edrych ar y rhaglen aer glân a'r cynllun aer glân a sut yr ydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i fynd i'r afael â hynny.