Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 24 Ebrill 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, nodaf eich sylwadau ynghylch y camau gweithredu uniongyrchol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd. Mae un o'r meysydd a grybwyllwyd, yr A470 rhwng Pontypridd a Glan-bad, yn ffordd gyswllt allweddol i gymudwyr yn fy etholaeth i. Mae llawer o drigolion eisoes wedi datgan eu pryderon wrthyf ynghylch tagfeydd yn yr ardal hon, felly pa waith monitro fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau na fydd mesurau megis parthau 50 mya dros dro yn cael effaith negyddol ar gymudwyr?
Yn ail, yr hyn sy'n allweddol yn eich datganiad yw annog newid arferion dinasyddion Cymru, ond i gyflawni hynny bydda'n rhaid inni roi polisïau ar waith i annog arferion llai niweidiol. Byddai hynny, rwy'n dadlau, yn gofyn am ddull traws-lywodraethol, er enghraifft gwella trafnidiaeth gyhoeddus fel na fydd raid i fy etholwyr i ddefnyddio'r A470 i gyrraedd Caerdydd, neu ansawdd yr aer o gwmpas ysgolion, er enghraifft. Felly, pa waith yr ydych chi'n ei wneud gyda'ch cydweithwyr i sicrhau'r dull traws-lywodraethol hwn?