Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 24 Ebrill 2018.
Mae'r Aelod yn berffaith iawn o ran pwysigrwydd dull traws-Lywodraethol, ac roedd yna wên gam ar wynebau cyd-aelodau yma pan oeddech yn trafod canlyniad newid hwnnw am y dewis amgen, yna ni fyddai eich etholwyr yn gorfod eistedd yn y tagfeydd ar yr A470. Credaf imi ddweud mewn ymatebion blaenorol mai dyna pam yr wyf yn edrych yn fanwl iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am drafnidiaeth ar sut na allwn edrych ar y darlun cyfan yn unig o ran teithio llesol—. Os ydym am fynd i'r afael â phroblem ansawdd aer gwael mewn gwirionedd, mae'n rhaid i hynny fod yn ei le, felly, os ydym eisiau gweld newid mewn arferion; pobl i newid y ffordd y maen nhw'n teithio a'r ffordd y maen nhw'n mynd i'r gwaith, y ffordd y maen nhw'n mynd allan yn eu hamser hamdden, yna mae angen inni sicrhau bod gennym rywbeth gwell ar eu cyfer. Ynghylch yr A470—y canlyniadau anfwriadol a sut y caiff ei fonitro—bydd yn cael ei fonitro'n agos gan brofion ymyl y ffordd, a bydd y canlyniadau yn cael eu cynnwys mewn ymchwiliadau a modelu parhaus i sefydlu'r mesurau a fydd yn debygol o sicrhau cydymffurfiaeth yn yr amser byrraf posibl. Felly, bydd modd monitro hynny'n agos i weld effeithiolrwydd y mesurau yn yr ardal.