4. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: Henebion Hygyrch i Bawb

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:42, 24 Ebrill 2018

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae ein treftadaeth ni a’n diwylliant yn perthyn i ni i gyd, ac mae’n bleser gen i heddiw gael cyfle i sôn am y gwaith allweddol sy’n cael ei wneud i wella mynediad i’n henebion yma yng Nghymru. Mae ein tirweddau naturiol anhygoel a’n safleoedd gwych wedi cyfrannu’n helaeth at y lefelau gorau erioed o ymwelwyr dros y blynyddoedd diwethaf i safleoedd Cadw, sy’n dangos beth sydd gan y safleoedd trawiadol yma i’w cynnig.

Mae sicrhau bod safleoedd yn denu cynifer o bobl â phosib, yn ogystal â bod yn hygyrch, wedi bod yn flaenoriaeth wirioneddol i Lywodraeth Cymru a Cadw. Mae llawer o’n safleoedd wedi cymryd camau breision yn ddiweddar i wireddu hyn. O gastell Cricieth yn y gogledd-orllewin i Gastell Coch yma yn y de-ddwyrain, mae wedi bod yn bleser mawr i mi gael gweld rhai o’r gwelliannau yma fy hun. Mae’r gwelliannau yn amrywio o ganolfannau a golygfannau newydd i ymwelwyr i waith adnewyddu, gwell hygyrchedd ac arddangosfeydd blaengar, a hyn i gyd heb effeithio yn andwyol ar hynodrwydd yr adeiladau gwreiddiol.

Mae Cadw yn parhau â’i ymdrechion i wella, ehangu a chyflwyno cynlluniau a mentrau newydd er mwyn ennyn diddordeb pobl Cymru yn ein hanes a’u hannog i fwynhau a gwneud y mwyaf o’n henebion. Un enghraifft o hyn yw’r cynllun ymweliadau addysgol am ddim i safleoedd Cadw. Nid oes dim ffordd well o ennyn brwdfrydedd pobl ifanc na drwy weld ein hanes a’n hetifeddiaeth yn dod yn fyw. Mae’n bwysig ein bod ni yn annog cenedlaethau’r dyfodol i ymddiddori yn ein hetifeddiaeth, oherwydd, wedi’r cyfan, nhw fydd gwarcheidwaid ein treftadaeth yn y dyfodol. Rydym ni hefyd yn falch o ddweud y gall plant maeth a’r teuluoedd sy’n gofalu amdanyn nhw ymweld â phob un o’r henebion sydd yng ngofal Cadw am ddim, a hynny drwy bartneriaeth â Gweithredu dros Blant.

Mae'r cynllun bancio amser hefyd yn bartneriaeth hollbwysig sy’n galluogi gwirfoddolwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni bancio amser, ac yn gweithio i gefnogi eu cymunedau lleol, i wario credyd a enillir drwy roi o’u hamser ar ymweliadau â phob un o’r henebion sydd yng ngofal Cadw. Rydym ni hefyd yn cynnal cynllun gwobrwyo Cadw, sef ymweliadau â chymorth sydd yn cael eu cynnig am ddim i sefydliadau sy’n gweithio gyda theuluoedd ac unigolion sydd ag anghenion cymhleth.

Ac rydw i yn falch iawn o docyn henebion newydd Cadw a fydd yn cynnig mynediad diderfyn i un safle. Mae’r tocyn yma yn rhan o’r gwaith o gynnig rhywbeth at ddant pawb. Rydym yn parhau i gynnig mynediad am ddim i ymwelwyr anabl a’u gofalwyr, plant o dan bump, ac ymwelwyr sy’n dod i ddigwyddiadau Drysau Agored.

Unwaith eto eleni, roedd mynediad am ddim i bob safle Cadw ar 1 Mawrth er mwyn dathlu Gŵyl Ddewi, gan gynnwys safleoedd poblogaidd iawn, fel cestyll Caernarfon, Caerffili a Chydweli—er ei bod hi wedi bod yn fwy o her eleni oherwydd yr eira.

Yn ogystal â chyflwyno cynlluniau i ehangu mynediad i safleoedd treftadaeth, fe fuddsoddwyd hefyd i wella hygyrchedd mewn nifer o safleoedd Cadw. Dros y blynyddoedd diwethaf mi gafodd pontydd eu gosod yng nghestyll Caernarfon a Harlech, y ddau yn rhan o safle treftadaeth y byd. Mae hyn yn cynnig ffordd arall o gyrraedd mynedfa’r ddau gastell yn lle’r grisiau, ac yn gwella hygyrchedd y safleoedd. Yn fwy diweddar, fe osodwyd lifft yng nghastell Cricieth, sy’n rhoi cyfle i fwy o ymwelwyr weld y deunydd dehongli a’r arddangosfeydd yn y ganolfan ymwelwyr newydd.

Wrth gwrs, mae rhoi cyfle i ymwelwyr ddeall a dysgu am yr adeiladau a’n hetifeddiaeth hanesyddol yr un mor bwysig ag ydy cynyddu’r cyfleoedd i ymweld. Mae Cadw’n gwneud hyn drwy ddehongli’r hanes ar ffurf straeon bachog a bywiog, sy’n cael eu cyflwyno mewn ffordd llawn dychymyg.

Ein nod ni yw rhoi profiadau mwy rhyngweithiol i ymwelwyr. Mae gwaith dehongli newydd yng nghastell Biwmares, er enghraifft, yn cynnig taith ddigidol gyda lluniau, testun a sain ar ffurf ap. Yng nghanolfan ymwelwyr castell Cricieth, mae yna ffilmiau clyweledol gyda sain ac isdeitlau dwyieithog, a gweithgareddau ymarferol rhyngweithiol. Mae ffilm arddangosfa ail-greu, sy’n defnyddio delweddau wedi’u cynhyrchu â chyfrifiaduron, yn cael ei dangos yn y ganolfan ymwelwyr, a thaith ddigidol o bethau diddorol a gyflwynir drwy ap Cadw, sydd ar gael i bawb, gan gynnwys y rheini na allant gyrraedd y rhannau mwy anodd eu cyrchu o'r castell ei hun.

Mae rhaglen Cadw o ddigwyddiadau cyffrous hefyd yn denu rhai pobl na fydden nhw ddim fel arfer yn ymweld â safleoedd hanesyddol. Mae Cadw yn cynnal mwy na 500 o ddigwyddiadau a diwrnodau allan ledled Cymru, gan gynnwys digwyddiadau ail-greu mawr, arddangosfeydd celf, sinemâu awyr agored a pherfformiadau byw, gan gynnwys theatr a bandiau roc. Fel rhan o’r digwyddiadau yma, roedd hi’n bleser mawr i mi fynd i gwrdd â'r dyn peiriant—y Man Engine—yn ddiweddar, yng ngweithiau dur hanesyddol Blaenafon.

Mae hefyd yn werth nodi bod cynllun Chwilio am Chwedlau 2017 Cadw wedi rhagori ar y llwyddiant ysgubol a gafwyd yn 2016, gan ddenu dros 132,000 o ymwelwyr i gwrdd â’r dreigiau ar eu taith o amgylch Cymru. Bob mis Medi, fel rhan o’r rhaglen Drysau Agored, mae cannoedd o leoliadau sydd fel arfer ar gau yn agor eu drysau i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim. Yn ystod 2017, roedd hyn yn cynnwys 344 o leoliadau, lle croesawyd dros 44,000 o ymwelwyr.

Mae gan Cadw hefyd enw da o ran gweithio â phartneriaid i gynnal digwyddiadau sydd yn dod â’n hanes yn fyw i gymunedau. Mi fydd y berthynas yn parhau yn gryf ac yn cael ei hadeiladu ymhellach gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac aelodau'r bartneriaeth strategol Cymru Hanesyddol, gan gynnwys rhannu arferion gorau ym maes datblygiadau digidol, aelodaeth, arlwyo a manwerthu.

Rydym ni yn ffodus yng Nghymru fod gennym ni etifeddiaeth a hanes cyfoethog, ac er y gwaith da sy'n mynd rhagddo, mae'n rhaid inni barhau i annog hyd yn oed mwy o bobl i fwynhau, deall a dysgu am ein hanes a’n henebion. Diolch yn fawr.