– Senedd Cymru am 3:41 pm ar 24 Ebrill 2018.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: henebion hygyrch i bawb. Galwaf—
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae ein treftadaeth ni a’n diwylliant yn perthyn i ni i gyd, ac mae’n bleser gen i heddiw gael cyfle i sôn am y gwaith allweddol sy’n cael ei wneud i wella mynediad i’n henebion yma yng Nghymru. Mae ein tirweddau naturiol anhygoel a’n safleoedd gwych wedi cyfrannu’n helaeth at y lefelau gorau erioed o ymwelwyr dros y blynyddoedd diwethaf i safleoedd Cadw, sy’n dangos beth sydd gan y safleoedd trawiadol yma i’w cynnig.
Mae sicrhau bod safleoedd yn denu cynifer o bobl â phosib, yn ogystal â bod yn hygyrch, wedi bod yn flaenoriaeth wirioneddol i Lywodraeth Cymru a Cadw. Mae llawer o’n safleoedd wedi cymryd camau breision yn ddiweddar i wireddu hyn. O gastell Cricieth yn y gogledd-orllewin i Gastell Coch yma yn y de-ddwyrain, mae wedi bod yn bleser mawr i mi gael gweld rhai o’r gwelliannau yma fy hun. Mae’r gwelliannau yn amrywio o ganolfannau a golygfannau newydd i ymwelwyr i waith adnewyddu, gwell hygyrchedd ac arddangosfeydd blaengar, a hyn i gyd heb effeithio yn andwyol ar hynodrwydd yr adeiladau gwreiddiol.
Mae Cadw yn parhau â’i ymdrechion i wella, ehangu a chyflwyno cynlluniau a mentrau newydd er mwyn ennyn diddordeb pobl Cymru yn ein hanes a’u hannog i fwynhau a gwneud y mwyaf o’n henebion. Un enghraifft o hyn yw’r cynllun ymweliadau addysgol am ddim i safleoedd Cadw. Nid oes dim ffordd well o ennyn brwdfrydedd pobl ifanc na drwy weld ein hanes a’n hetifeddiaeth yn dod yn fyw. Mae’n bwysig ein bod ni yn annog cenedlaethau’r dyfodol i ymddiddori yn ein hetifeddiaeth, oherwydd, wedi’r cyfan, nhw fydd gwarcheidwaid ein treftadaeth yn y dyfodol. Rydym ni hefyd yn falch o ddweud y gall plant maeth a’r teuluoedd sy’n gofalu amdanyn nhw ymweld â phob un o’r henebion sydd yng ngofal Cadw am ddim, a hynny drwy bartneriaeth â Gweithredu dros Blant.
Mae'r cynllun bancio amser hefyd yn bartneriaeth hollbwysig sy’n galluogi gwirfoddolwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni bancio amser, ac yn gweithio i gefnogi eu cymunedau lleol, i wario credyd a enillir drwy roi o’u hamser ar ymweliadau â phob un o’r henebion sydd yng ngofal Cadw. Rydym ni hefyd yn cynnal cynllun gwobrwyo Cadw, sef ymweliadau â chymorth sydd yn cael eu cynnig am ddim i sefydliadau sy’n gweithio gyda theuluoedd ac unigolion sydd ag anghenion cymhleth.
Ac rydw i yn falch iawn o docyn henebion newydd Cadw a fydd yn cynnig mynediad diderfyn i un safle. Mae’r tocyn yma yn rhan o’r gwaith o gynnig rhywbeth at ddant pawb. Rydym yn parhau i gynnig mynediad am ddim i ymwelwyr anabl a’u gofalwyr, plant o dan bump, ac ymwelwyr sy’n dod i ddigwyddiadau Drysau Agored.
Unwaith eto eleni, roedd mynediad am ddim i bob safle Cadw ar 1 Mawrth er mwyn dathlu Gŵyl Ddewi, gan gynnwys safleoedd poblogaidd iawn, fel cestyll Caernarfon, Caerffili a Chydweli—er ei bod hi wedi bod yn fwy o her eleni oherwydd yr eira.
Yn ogystal â chyflwyno cynlluniau i ehangu mynediad i safleoedd treftadaeth, fe fuddsoddwyd hefyd i wella hygyrchedd mewn nifer o safleoedd Cadw. Dros y blynyddoedd diwethaf mi gafodd pontydd eu gosod yng nghestyll Caernarfon a Harlech, y ddau yn rhan o safle treftadaeth y byd. Mae hyn yn cynnig ffordd arall o gyrraedd mynedfa’r ddau gastell yn lle’r grisiau, ac yn gwella hygyrchedd y safleoedd. Yn fwy diweddar, fe osodwyd lifft yng nghastell Cricieth, sy’n rhoi cyfle i fwy o ymwelwyr weld y deunydd dehongli a’r arddangosfeydd yn y ganolfan ymwelwyr newydd.
Wrth gwrs, mae rhoi cyfle i ymwelwyr ddeall a dysgu am yr adeiladau a’n hetifeddiaeth hanesyddol yr un mor bwysig ag ydy cynyddu’r cyfleoedd i ymweld. Mae Cadw’n gwneud hyn drwy ddehongli’r hanes ar ffurf straeon bachog a bywiog, sy’n cael eu cyflwyno mewn ffordd llawn dychymyg.
Ein nod ni yw rhoi profiadau mwy rhyngweithiol i ymwelwyr. Mae gwaith dehongli newydd yng nghastell Biwmares, er enghraifft, yn cynnig taith ddigidol gyda lluniau, testun a sain ar ffurf ap. Yng nghanolfan ymwelwyr castell Cricieth, mae yna ffilmiau clyweledol gyda sain ac isdeitlau dwyieithog, a gweithgareddau ymarferol rhyngweithiol. Mae ffilm arddangosfa ail-greu, sy’n defnyddio delweddau wedi’u cynhyrchu â chyfrifiaduron, yn cael ei dangos yn y ganolfan ymwelwyr, a thaith ddigidol o bethau diddorol a gyflwynir drwy ap Cadw, sydd ar gael i bawb, gan gynnwys y rheini na allant gyrraedd y rhannau mwy anodd eu cyrchu o'r castell ei hun.
Mae rhaglen Cadw o ddigwyddiadau cyffrous hefyd yn denu rhai pobl na fydden nhw ddim fel arfer yn ymweld â safleoedd hanesyddol. Mae Cadw yn cynnal mwy na 500 o ddigwyddiadau a diwrnodau allan ledled Cymru, gan gynnwys digwyddiadau ail-greu mawr, arddangosfeydd celf, sinemâu awyr agored a pherfformiadau byw, gan gynnwys theatr a bandiau roc. Fel rhan o’r digwyddiadau yma, roedd hi’n bleser mawr i mi fynd i gwrdd â'r dyn peiriant—y Man Engine—yn ddiweddar, yng ngweithiau dur hanesyddol Blaenafon.
Mae hefyd yn werth nodi bod cynllun Chwilio am Chwedlau 2017 Cadw wedi rhagori ar y llwyddiant ysgubol a gafwyd yn 2016, gan ddenu dros 132,000 o ymwelwyr i gwrdd â’r dreigiau ar eu taith o amgylch Cymru. Bob mis Medi, fel rhan o’r rhaglen Drysau Agored, mae cannoedd o leoliadau sydd fel arfer ar gau yn agor eu drysau i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim. Yn ystod 2017, roedd hyn yn cynnwys 344 o leoliadau, lle croesawyd dros 44,000 o ymwelwyr.
Mae gan Cadw hefyd enw da o ran gweithio â phartneriaid i gynnal digwyddiadau sydd yn dod â’n hanes yn fyw i gymunedau. Mi fydd y berthynas yn parhau yn gryf ac yn cael ei hadeiladu ymhellach gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac aelodau'r bartneriaeth strategol Cymru Hanesyddol, gan gynnwys rhannu arferion gorau ym maes datblygiadau digidol, aelodaeth, arlwyo a manwerthu.
Rydym ni yn ffodus yng Nghymru fod gennym ni etifeddiaeth a hanes cyfoethog, ac er y gwaith da sy'n mynd rhagddo, mae'n rhaid inni barhau i annog hyd yn oed mwy o bobl i fwynhau, deall a dysgu am ein hanes a’n henebion. Diolch yn fawr.
Diolch. Suzy Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch hefyd am y datganiad yna.
Braf iawn, wrth gwrs, yw cael y fath grynhoad cadarnhaol o lwyddiannau Cadw yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Mae'n amlwg nad wyf i am ddweud fy mod yn anghytuno ag unrhyw un o'r cyfryw rai. Maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth mewn llawer o'r achosion hyn, yn amlwg, ac roeddwn yn arbennig o falch o'r cyhoeddiad ynglŷn â theuluoedd maeth. Ac mewn gwirionedd, roeddwn i'n credu bod y cyflwyniad ar fancio amser yn un eithaf diddorol hefyd.
Roeddwn yn awyddus i ofyn ichi, er hynny—. Cadw sy'n berchen ar y safleoedd hyn. Rwyf ar fin pledio fy achos parhaus o ran Abaty Castell-nedd, wrth gwrs. Rwy'n gwybod na all neb fod ym mhobman, ond mae Castell-nedd yn ardal o dlodi mawr, ac ychydig a wnaed eto i fanteisio ar ei gallu i ennyn twristiaeth hefyd. Er bod mynediad am ddim i safleoedd mawr yn beth ardderchog, mewn gwirionedd mynediad am ddim sydd i Abaty Nedd i bob pwrpas am nad oes profiad ar gyfer ymwelwyr yno. Felly, pe byddech yn rhoi rhywfaint o'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â hynny, byddai hynny'n dda iawn.
Byddwn wedi hoffi clywed ychydig mwy, hefyd, am sut mae mynediad i dreftadaeth—. Er ei fod yn ysbrydoli'r to iau, mae lle iddo hefyd yn y strategaeth ar gyfer yr economi leol, yn enwedig ar gyfer fy rhanbarth i, sy'n seiliedig ar sgiliau a thwristiaeth, i bob diben. Felly, pan fyddwn yn sôn am fynediad i safleoedd henebion, credaf fod angen inni sôn am fynediad i waith o ganlyniad i fynediad i henebion hefyd. Felly, ni wn a allech chi egluro rhywfaint imi am hynny.
Mae fy nghwestiwn nesaf yn ymwneud ag arian. Nid oes unrhyw gyfeiriad o gwbl at arian yn y datganiad hwn. Er fy mod yn cymeradwyo ymdrechion llwyddiannus iawn Cadw—hyd y gwn i—i godi arian drwy ei system codi tâl, nid wyf yn gweld yn eglur ai cylch rhinweddol yw hyn i raddau, ac a gaiff yr incwm sylfaenol hwn, ac yn wir yr incwm eilaidd a ddaw yn sgil ymwelwyr sy'n dod yno am ddim, eu hail-fuddsoddi yn nhrysorfa Cadw neu a ydyn nhw'n cael eu hail-fuddsoddi yn nhrysorfa gyffredinol Llywodraeth Cymru. Neu, os ydyn nhw'n cael eu hail-fuddsoddi yn Cadw, a ddefnyddir hynny fel rheswm gan y Llywodraeth i ostwng y swm a gaiff Cadw wedyn yn ganolog o'r gyllideb.
Yna, fy mhwynt olaf yw hyn: nid yw pob heneb, wrth gwrs, yn eiddo i Cadw. Gellid dadlau mai'r henebion sydd dan berchnogaeth yr awdurdodau lleol sydd angen y cymorth nawr. Oherwydd nid wyf wedi fy argyhoeddi, o ystyried y safleoedd Cadw yr wyf wedi ymweld â nhw, eu bod nhw'n dal i wneud eu gorau glas i hyrwyddo henebion eraill, neu safleoedd eraill o ddiddordeb, mewn gwirionedd, o fewn yr ardal gyfagos a allai fod yn eiddo i awdurdodau lleol, neu—ac rwy'n falch eich bod wedi nodi hynny yn eich araith, mewn gwirionedd—yn eiddo i'r gymuned neu o bosibl, hyd yn oed, yn eiddo i berchnogion preifat. Pan fo ymwelwyr yn ymweld ag ardal, ymweld ag ardal y maen nhw. Nid ydyn nhw o reidrwydd yn gwibio o un safle Cadw i'r llall ar gyrion Cymru. Felly, credaf y byddai'n fuddiol iawn pe byddech yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar yr hyn a wna Cadw o ran mynediad i henebion nad ydyn nhw'n berchen arnynt.
Roeddwn am ddweud yn fyr hefyd, wrth gefnogi ac annog perchnogaeth gymunedol, y byddwn yn wir yn hoffi'n fawr clywed gennych am hynny ar wahân yn y dyfodol, oherwydd credaf ei fod yn syniad gwych. Diolch.
Diolch yn fawr. Diolch ichi am y cwestiynau hynny. O ran Abaty Castell-nedd, rwy'n hapus iawn i ymweld ag yno gyda chi, pe byddai hynny o fudd, ac yna cawn weld beth allwn ni ei wneud eto gyda'r safle arbennig hwnnw.
O ran yr effaith ar yr economi leol, mae gan Cadw brentisiaethau ac mae wedi datblygu hyfforddiant o bob math ar gyfer y sgiliau sydd yn werthfawr iawn yn ei olwg, fel yn wir y gwna Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Yn ddiweddar cefais gyfle i gwrdd â'r prentisiaid amrywiol sydd wedi cael hyfforddiant ac wedi datblygu sgiliau, sy'n golygu bod y sgiliau sylweddol sydd gennym gydag adfer adeiladau treftadaeth ar gael nid yn unig i'r sector cyhoeddus, ond i Gymru'n fwy cyffredinol.
Nawr, o ran gwariant ac incwm Cadw, rwy'n sylwi bod gostyngiad sylweddol yn lefel y gwariant a ddyrannwyd i Cadw ac yr ymgymerodd Cadw ag ef yn ystod y cyfnod ers 2013 hyd at 2017. Ond bu cynnydd sylweddol yn yr incwm a gynhyrchwyd gan Cadw, o tua £4.8 miliwn hyd at £7 miliwn—£7.537 miliwn mewn gwirionedd —ar y cyfrif diwethaf. Mae'r ffigur sydd gennyf i yma, mewn gwirionedd, ar gyfer 2017. Nawr, mae incwm £7.5 miliwn Cadw yn incwm a enillwyd gan Cadw, a gallaf eich sicrhau chi nad yw'n arfer gennym ni, mewn adran fach berffaith, fel yr un sydd gennym ni, i rannu ein henillion â gweddill y Llywodraeth. Nid oes unrhyw un wedi gofyn i ni roi elw Cadw yng nghoffrau cyffredinol y Llywodraeth, ond, mewn gwirionedd, bydd yn mynd yn ôl er mwyn sicrhau y caiff gwaith pellach ei wneud i adfer a chynnal a chadw treftadaeth. Diolch.
A allaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ar henebion hygyrch i bawb? Nawr, wrth gwrs, nid yw hygyrchedd i henebion yn her newydd. Roedd cestyll y canol oesoedd yn naturiol wedi'u hadeiladu i atal hygyrchedd, ac wrth gwrs roedd e'n eithaf her i oroesi hynny, ac wedi costio'n ddrud ar y pryd i fynd i'r afael efo'r angen i atal pobl rhag mynd i mewn. Wrth gwrs, yn nodedig, cafodd Owain Glyndŵr ambell lwyddiant yn goroesi'r diffyg hygyrchedd i sawl castell yma yng Nghymru, yn naturiol yn adeiladu'r llwybr i waith y Gweinidog y dyddiau yma i wella hygyrchedd i'r cestyll canol oesoedd yna. Ond wrth gwrs, bu dro ar fyd, ac mae'r cestyll a fu'n gormesu nawr yn denu ymwelwyr. Y cwestiwn sy'n dilyn ydy: beth yn union ydych chi fel Gweinidog yn ei wneud i hyrwyddo gwir hanes gorthrymedig ein gwlad, yn fwy na dim ond annog pobl i edrych ar yr henebion yma drwy sbectol bensaernïol yn unig?
Yn nes ymlaen yn eich datganiad, rydych chi yn sôn am Chwilio am y Chwedlau 2017, ac wrth gwrs, wrth sôn am 'chwedlau 2017' rydw i'n cael fy atgoffa o'r foment pan gafodd rhywun y syniad gwych o gael modrwy haearn yng nghastell Fflint. Nid ydw i'n gwybod pa ddadansoddiad sydd wedi cael ei wneud o'r fenter yna, na phwy gafodd y syniad hurt yna yn y lle cyntaf. Rydych chi'n sôn, wrth ddod at ddiwedd eich datganiad yn fan hyn, ac rydw i'n cytuno efo chi, fod yn rhaid inni annog perchnogaeth gymunedol o'n henebion a'n treftadaeth er mwyn sicrhau eu dyfodol am flynyddoedd i ddod. 'Clywch, clywch', dywedwn i.
Ac wrth gwrs, mae enwau lleol lleoedd hanesyddol yn rhan allweddol o bwysig o'n treftadaeth. Yn wir, mae ein henwau hanesyddol yn eu hunain yn rhan o'r stori o hygyrchedd i henebion. Heb yr enw, lle ydych chi'n mynd? Wedi methiant fy Mesur i y llynedd yn y lle yma i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol, nid oes—fel rydych chi'n gwybod—diogelwch statudol i'n henwau lleoedd hanesyddol nawr. Yn wahanol, wrth gwrs, i bethau eraill: mae gan rai planhigion prin mwy o ddiogelwch nag ein henwau hanesyddol ar leoedd. Felly, pa gamau a ydych chi yn eu cymryd i warchod enwau lleoedd hanesyddol Cymru? Diolch yn fawr.
Mae gyda ni gofrestr hirfaith o enwau hanesyddol sydd ar gael ar y we, fel y gŵyr yr Aelod. Fe benderfynwyd peidio â dilyn trywydd o ddeddfu ym maes enwau lleoedd, ond mae'r adnodd yna yn glir ar gael, ac yn wir, mae'r awydd i ddefnyddio enwau cynhenid neu enwau Cymraeg neu Geltaidd neu Ladin ar dir ac ar safleoedd ac ar drigiannau ac ar dai yng Nghymru wedi cynyddu, o'i gyferbynnu ag enwau Saesneg, er enghraifft, yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond nid ydw i am fynd ar ôl y sgwarnog arbennig yna ymhellach, oherwydd trafod henebion yr ydwyf yn bennaf y prynhawn yma.
Y newyddion da ydy ein bod ni'n edrych ymlaen yn Cadw nid yn unig i gynnal y cestyll presennol, ond i dderbyn—mae'n debyg y bydd yn rhaid inni wneud cyfraniad tuag ato fo—perchnogaeth o ragor o gestyll yn y dyfodol, gan gynnwys castell a adeiladwyd gan Dafydd ap Gruffydd ap Llywelyn gydag incwm oddi wrth Frenin Lloegr ar y pryd. Ond wrth gwrs, yn ddiweddarach, fe wnaeth Dafydd ap Gruffydd ap Llewelyn ymlynu gyda'i frawd, ac yna fe ddaeth o y tywysog Cymreig cynhenid olaf i adeiladu cestyll yng Nghymru. Ein bwriad ni, felly, yw cynhyrchu deunydd arbennig ar gyfer ymwelwyr a fydd yn canolbwyntio ar yr henebion hanesyddol sydd wedi cael eu hadeiladu neu sydd wedi cael eu meddiannu a'u trigiannu am gyfnod sylweddol gan y tywysogion Cymreig. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud yn barod ynglŷn â chyfnod Owain Glyndŵr yng nghastell Harlech. Os nad ydych chi wedi cael cyfle i ymweld â'r castell hwnnw yn ddiweddar, ac yn arbennig â'r dehongliad a gynigir yno, mae'n ddehongliad cenedlaethol, fel y dylai fe fod, gan Lywodraeth Cymru, a gan Cadw ar ran Lywodraeth Cymru, o'r hyn sydd wedi digwydd.
Nid ydw i am wneud unrhyw sylw ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd gyda Gweinidogion a oedd yn y swydd yma o'm mlaen i ac a wnaeth benderfyniadau, a phenderfyniadau a gafodd eu newid. Nid ydw i'n credu bod hynny yn briodol.
Ond a gaf i ddweud un gair arall am gastell Cricieth ac Owain Glyndŵr? Yn sicr, fe wnaeth Owain Glyndŵr lwyddo i losgi o leiaf rhai o'r cerrig yng nghastell Criccieth, ac roeddwn i'n cael y fraint o weld ôl y tân hwnnw yn ddiweddar. Rydw i'n siŵr y byddai fo'n cynnau tân hyd yn oed yng nghalon hen genedlaetholwr fel yr Aelod sydd wedi gofyn y cwestiwn.
Hoffwn i ddilyn hynny, fel y dechreuodd Dai Lloyd yn ei gwestiynau, drwy ofyn i'r Gweinidog a yw ef yn cytuno â mi nad rhywbeth y dylid ei ddarllen yw hanes ond y dylai gael ei brofi gan pob cenhedlaeth fel ei bod yn deall sut mae'n perthyn i ddilyniant hanes cenedl. Mae hynny'n gwbl hanfodol i lwyddiant unrhyw genedl. Fel yr ysgrifennodd Alexis de Tocqueville bron 200 mlynedd yn ôl, wrth i'r gorffennol beidio â thaflu ei oleuni ar y dyfodol, bydd meddwl dyn yn crwydro yn y tywyllwch. Gan hynny, iddyn nhw mae henebion cenedlaethol a hygyrchedd yn gwbl hanfodol i addysg unrhyw un diwylliedig, ond maen nhw hefyd yn hanfodol ar gyfer deall sut y mae'r genedl wedi datblygu fel y gwnaeth a sut yr ydym i gyd yn rhan o hynny.
Ac felly rwy'n falch iawn o groesawu llwyddiant Cadw a'i rhaglen o ddigwyddiadau a chanmol i ba raddau y mae Cadw wedi gallu poblogeiddio ei henebion a'i gweithgareddau drwy ail-greu sefyllfaoedd ac arddangosfeydd celf a pherfformiadau byw. Pan oeddwn yn ifanc, roedd Hanes yn cael ei ddysgu fel rhyw fath o bwnc sych. Mae'n hanfodol ein bod yn symud oddi wrth hynny os ydym am ennyn diddordeb y genhedlaeth iau i ddeall pwysigrwydd y pethau hyn, nid yn unig ar gyfer y gwerth economaidd, er bod hynny'n hanfodol bwysig hefyd, fel y nododd Suzy Davies yn gynharach, ond bod y refeniw a godir yn cael ei godi at ddiben penodol, a hynny yw adfer yr henebion a etifeddwn o'r gorffennol i gyflwr gwell a hefyd eu gwneud yn fwy hygyrch ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol nag yr oedden nhw yn achos ein cenhedlaeth ni.
Rwy'n sylweddoli y gallai fod ychydig yn rhy gynnar i'r Gweinidog wneud unrhyw sylwadau ar argymhellion y Pwyllgor Diwylliant yn ddiweddar iawn ar yr amgylchedd hanesyddol, ond mae'r cydweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn elfen bwysig iawn, yn fy marn i, o lwyddiant Cadw ar gyfer y dyfodol, i gynyddu ei refeniw a gwella ei offerynnau dehongli digidol a dulliau ledled y safleoedd hanesyddol yng Nghymru. Felly, tybed a allai'r Gweinidog roi unrhyw diweddariad pellach ar yr hyn y mae Cadw yn bwriadu ei wneud yn hyn o beth.
Fy ail bwynt a'r olaf yw croesawu rhan olaf y datganiad, lle soniodd y Gweinidog am hanes Cadw o weithio gyda phartneriaid i gyflwyno digwyddiadau sy'n dod â hanes yn fyw i gymunedau a'i gadarnhad y bydd y cysylltiadau hyn yn parhau i gael eu harfer. Yn ein hadroddiad o'r pwyllgor diwylliant, yn argymhelliad 10, roeddem yn gofyn am amserlen glir o gynnydd, cerrig milltir eto i roi unrhyw arwydd o'r hyn allai'r cyfnodau amser a'r cerrig milltir mesuradwy fod heddiw neu yn y dyfodol agos.
Diolch, rwy'n ddiolchgar am y cwestiynau hynny. Rwy'n dymuno dweud y byddaf yn ymateb yn fanwl i'r materion a godwyd yn adroddiad y pwyllgor a bydd ymateb llawn gan y Llywodraeth yn y ffordd arferol i'r argymhellion hynny. Byddai'n well gennyf ymdrin â hynny drwy'r ymateb penodol hwnnw. Ond byddwn yn hoffi manteisio ar rai o'r pwyntiau a ofynnodd er mwyn ymateb yn fwy penodol i un cwestiwn a ofynnodd Suzy Davies yn gynharach, sef yr hyn y mae Cadw yn ei wneud i hybu safleoedd nad ydynt yn perthyn i Cadw. Mae arddangosfeydd i'w cael, wrth gwrs, ac mae gwybodaeth yn cael ei gynhyrchu am safleoedd eraill ar holl safleoedd Cadw—atyniadau eraill sydd dan berchnogaeth breifat. Ceir trefniadau dwyochrog ar gyfer disgowntiau a hyrwyddo rhwng amgueddfeydd a chestyll. Ceir ymgyrch sy'n cydredeg hefyd, gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lle gall ymwelwyr gael mynediad am hanner pris i safle Cadw neu safle'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth ymweld â dau safle ar yr un diwrnod a thalu'r pris mynediad llawn i un. Nawr, nid wyf yn siŵr a yw hynny wedi cael digon o gyhoeddusrwydd, ond mae hynny'n digwydd.
Mae safleoedd nad yw Cadw yn gofalu amdanyn nhw wedi'u cynnwys ym mapiau Cadw yn y gogledd a'r de. Dosberthir 60,000 o'r mapiau hyn mewn atyniadau amrywiol. Pan wyf i wedi cael cyfle i ymweld â chestyll sydd ym mherchnogaeth tirfeddianwyr, yn enwedig yn ddiweddar yn sir Gaerfyrddin, gallaf ddweud mai'r un trefniant sy'n bodoli bob amser. Pan fydd Cadw yn helpu i hyrwyddo a chynghori ar gadwraeth adeiladau, a phan mae cyfle i godi tâl, neu bod cyfleuster am ran o'r tymor i godi tâl, yna yn gyffredinol bydd yr elw hwnnw yn cael ei rannu rhwng y tirfeddiannwr a Cadw —fel arfer bydd y gymhareb yn 60:40. Felly, dyna sut mae Cadw yn gweithredu law yn llaw â'r rhai sydd â chyfrifoldeb am atyniadau yn y sector preifat.
Diolch yn fawr—diolch ichi.