Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 24 Ebrill 2018.
Diolch yn fawr iawn. Hoffwn i ddechrau drwy gydnabod a chroesawu'r ffaith fod pob plaid wedi cydnabod pa mor bwysig yw'r Bil hwn, a pha mor bwysig yw hi ein bod yn llwyddo i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Yn wir, mae'n Fil difrifol sy'n haeddu ystyriaeth ddifrifol a chraffu difrifol, fel y dywedodd David Melding yn gwbl briodol.
Byddwn yn dweud nad ydym wedi clywed y diwedd, yn sicr, ynglŷn â hawliau a chyfranogiad tenantiaid. Mae'n rhywbeth a fu o ddiddordeb brwd personol i mi, a'r wythnos diwethaf cyfarfûm â Chadeirydd Bwrdd Rheoleiddiol Cymru i drafod swyddogaeth y gallent ymgymryd â hi, ac yn arbennig y gwaith y maen nhw'n ei wneud yn edrych yn ddwys ac yn fanwl ar hawliau tenantiaid a chyfranogiad tenantiaid fel rhan o un o'u hadolygiadau thematig. Rwy'n gwybod y byddent yn awyddus i glywed gan yr Aelodau am eu safbwyntiau a'u profiadau nhw yn hynny o beth hefyd.
Er y bydd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn endidau preifat, nid yw hynny'n golygu nad oes angen rheoleiddio cryf ac effeithiol. I'r gwrthwyneb yn llwyr. Rydym ni wedi gweithredu'n gadarn iawn i ddiwygio a chryfhau sut yr eir ati i reoleiddio yn barod ar gyfer ailddosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys tenantiaid. Dydyn ni ddim eisiau i denantiaid fod wrth wraidd rheoleiddio yn unig—mewn gwirionedd, maent eisoes yn rhan greiddiol o'r rheoleiddio, diolch i'n dull rheoleiddio newydd, a gyflwynwyd yn ddiweddar.
Soniwyd am rai materion ynghylch trosi o gymdeithasau i gwmnïau. Felly, gall landlord cymdeithasol cofrestredig sy'n gymdeithas gofrestredig ddim ond troi yn gwmni newydd yn hytrach na chwmni sydd eisoes yn bodoli, ac felly ystyrir bod unrhyw gwmni newydd a grëwyd ar gyfer trosi yn landlord cymdeithasol cofrestredig. Ynghlwm â hynny mae'r holl fesurau diogelwch sy'n deillio yn sgil hynny o ran ei ddiben a'i fusnes craidd. Mae'r diben a'r busnes craidd hwnnw ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gan gynnwys y rhai hynny sy'n gwmnïau, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw fod yn rhai nid-er-elw, a rhaid i'w dibenion gynnwys darparu, adeiladu, gwella neu reoli tai cymdeithasol. Cedwir golwg fanwl ar arallgyfeirio, ac yn yr un modd ar sefydlu is-gwmnïau sydd heb eu cofrestru, ac yn wir mae datblygu diben craidd y busnes yn ganolog i berfformiad safon 1 ac fe gedwir trosolwg rheoleiddiol parhaus ar hynny.
Rwy'n dod â fy sylwadau i ben drwy ailddatgan bod fy ngwelliant yn nodi darpariaethau drwy roi dyletswydd ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ymgynghori â thenantiaid. Mae'n ddyletswydd sy'n berthnasol os oes newid sylfaenol sy'n effeithio ar denantiaid drwy newid landlord mewn ymateb i'r pryderon y cyfeiriodd Gareth Bennett atynt, ond nid yw'n ddyletswydd i ymgynghori lle mae landlord cymdeithasol cofrestredig mewn perygl ac mae angen gweithredu ar fyrder yn y modd hwnnw i ddiogelu ei denantiaid. Rwy'n dweud unwaith eto nad yw hyn yn golygu y gall landlordiaid cymdeithasol cofrestredig adael tenantiaid yn y niwl os yw eu landlord yn wynebu penderfyniadau anodd. Mae cyfathrebu effeithiol mewn unrhyw achos yn ddisgwyliad rheoleiddiol ac fe gedwir trosolwg rheoleiddiol o hynny.
Gan droi at y ddyletswydd ei hun, mae'r gofyniad ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu datganiad ynghylch yr ymgynghori y maent wedi'i wneud, i bob pwrpas yn eu gorfodi i ymgynghori, ac os nad ydynt yn ymgynghori, ni fyddant yn gallu darparu'r datganiad sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru. Byddai hynny wedyn yn ei dro yn eu rhoi mewn perygl o gael dyfarniad rheoleiddiol anffafriol, gyda'r canlyniadau difrifol iawn sy'n dod yn sgil hynny. Felly, Llywydd, rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliant 1 a gwrthod gwelliannau 1A, 3 a 4. Diolch.