Grŵp 1: Cyfranogiad tenantiaid (Gwelliannau 1, 1A, 3, 4)

– Senedd Cymru am 4:21 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:21, 24 Ebrill 2018

Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â chyfranogiad tenantiaid. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Rwy'n galw ar y Gweinidog i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Rebecca Evans. 

Cynigiwyd gwelliant 1 (Rebecca Evans).

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:21, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Materion Deddfwriaethol, ac i'r Pwyllgor Cyllid am graffu'n fanwl ar y Bil drwy gydol Cyfnod 1 a Chyfnod 2. Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar ac i Aelodau'r Cynulliad am eu cefnogaeth i'r Bil hyd yn hyn ar ei daith drwy'r Cynulliad.

Mae ymrwymiad y Llywodraeth i denantiaid wrth galon y rheoliad wedi'i wneud yn gwbl glir drwy gydol y broses graffu. Gobeithiaf ei bod hi'n amlwg nad yw'r Bil hwn yn gwneud dim i newid hyn, na'r disgwyliad rheoleiddiol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ymgynghori â thenantiaid a gwrando ar eu barn. Mae hwn yn ofyniad sylfaenol. Mae gofyn ar i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ddangos bod tenantiaid yn rhan o lunio gwasanaethau a phenderfyniadau a bod gwasanaethau o ansawdd uchel ac yn gwella. Nodir hyn yn safon perfformiad 2 a gyhoeddwyd o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996. Ac, i gadarnhau yr hyn a ddywedais o'r blaen, byddwn yn diweddaru ac yn cyhoeddi canllawiau statudol o dan adran 33B y Ddeddf Tai, a fydd yn rhoi disgwyliadau rheoleiddiol ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ynghylch amryw o faterion, gan gynnwys ymgynghori.

Fodd bynnag, ar ôl gwrando'n ofalus ar y dadleuon, rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3 i nodi'r darpariaethau ar gyfer ymgynghori â thenantiaid ar wyneb y Bil. Mae fy ngwelliant yn gwneud hyn. Mae'n nodi'r darpariaethau i'w gwneud hi'n ofynnol ymgynghori â thenantiaid pan fo landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ystyried newidiadau cyfansoddiadol penodol megis cyfuno neu uno gwirfoddol. Nid wyf i, fodd bynnag, yn bwriadu gosod dyletswydd ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ymgynghori mewn amgylchiadau lle credaf nad yw unrhyw ddyletswydd o'r fath yn briodol ac y byddai'n peri risg ychwanegol i denantiaid a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, er enghraifft pan fydd landlord cymdeithasol cofrestredig dan straen ariannol. Mae hyn oherwydd y gall newid strwythurol, fel y mae gwelliannau 3 a 4 yn eu cwmpasu, fod yn ffordd o ymdrin â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sydd dan straen ariannol neu sy'n wynebu posibilrwydd o fethdalu. Yn yr amgylchiadau hyn, rhaid i'r landlord cymdeithasol cofrestredig a'r rheoleiddiwr allu gweithredu ar fyrder, mewn modd penodol iawn, i ymyrryd er mwyn amddiffyn tenantiaid. Hyd yn oed lle bo trefniadau gwirfoddol ar waith i ymdrin â straen ariannol, yn aml bydd nifer o ffactorau y tu hwnt i reolaeth y landlord cymdeithasol cofrestredig—credydwyr, amserlenni ac ati—a fydd yn dylanwadu ar y cynigion a wneir gan landlord cymdeithasol cofrestredig ac a all gyfyngu ar ei allu i gynnal ymgynghoriad effeithiol sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.

Nid wyf, beth bynnag fo'r amgylchiadau, yn dweud y dylid celu pethau gan denantiaid wrth ystyried newidiadau o'r fath. Rwyf wedi nodi'n glir, ac nid wyf yn credu bod unrhyw un yn anghytuno, bod yn rhaid cyfathrebu'n briodol gyda thenantiaid pan ystyrir y cynigion hyn a bydd y trefniadau cyfathrebu hynny'n destun trosolwg rheoleiddiol. Ond mae cyfathrebu yn wahanol i ymgynghori'n ffurfiol. Mae gan ddyletswydd i ymgynghori ystyr dealladwy penodol yn y gyfraith.

Nid yw fy ngwelliant chwaith yn cynnwys gofyniad ar gyfer ymgynghori os yw landlord cymdeithasol cofrestredig yn bwriadu newid o fod yn gymdeithas gofrestredig i fod yn gwmni, neu i'r gwrthwyneb. Yn yr amgylchiadau hyn, ni fydd yn arwain at newid landlord y tenant, dim ond at newid yn ffurf gyfreithiol y landlord. Ar y llaw arall, effaith gwelliant 1A fyddai rhoi dyletswydd i gynnal ymgynghoriad pan fo landlord cymdeithasol cofrestredig yn cynnig newid o fod yn gymdeithas i fod yn gwmni. Rwy'n cydnabod y gall fod pryderon y gallai newid o fod yn gymdeithas i fod yn gwmni olygu newid ethos i landlord cymdeithasol cofrestredig, ond mae trefniadau diogelu yn erbyn hyn. Mae rhaid i bob landlord cymdeithasol cofrestredig sydd wedi cofrestru yng Nghymru, gan gynnwys y rhai hynny sy'n gwmnïau, fod yn rhai nid-er-elw ac mae'n rhaid i'w dibenion gynnwys darparu, adeiladu, gwella neu reoli tai cymdeithasol. Caiff arallgyfeirio ei fonitro'n fanwl, ac felly hefyd sefydlu is-gwmnïau sydd heb eu cofrestru. Mewn gwirionedd, mae gwneud cynnydd gyda diben craidd y busnes yn ganolog i safon perfformiad 1 a bydd hyn yn destun trosolwg rheoleiddiol parhaus. 

Datblygwyd fy ngwelliant i fynd i'r afael â materion a drafodwyd yn ystod y broses graffu, gan ystyried gwybodaeth a phrofiad y sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru a'r dull o gyd-reoleiddio yr ydym ni yn ei ddefnyddio yma yng Nghymru. Dyna'r ffordd fwyaf priodol o sicrhau yr ymgynghorir â thenantiaid pan fo newidiadau wedi eu cynllunio, gan ganiatáu hyblygrwydd i ymateb i sefyllfaoedd brys.

Cyfeiriodd David Melding at TPAS Cymru, y sefydliad sy'n cynrychioli tenantiaid, wrth siarad am ei welliant yng Nghyfnod 2. Fel y gallech ddisgwyl, mae swyddogion wedi trafod fy ngwelliant gyda TPAS Cymru, sydd, er eu bod yn croesawu'r cynnig i nodi'r darpariaethau ar gyfer ymgynghori ar wyneb y Bil, hefyd yn cydnabod na fydd hyn o bosib yn ymarferol bob amser mewn achosion lle mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig dan straen ariannol neu mewn peryg o fethdalu. Rydym ni'n croesawu'r papur briffio a roddwyd i'r Cynulliad gan Gartrefi Cymunedol Cymru, sy'n cefnogi fy ngwelliant i, gan gydnabod ei fod yn ymdrin â'r pryderon y cyfeiriwyd atyn nhw yng Nghyfnod 2, gan sicrhau bod tenantiaid wrth wraidd penderfyniadau ynghylch dyfodol eu landlord a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu. Felly, mae gwelliannau 1A, 3 a 4 yn ddiangen. Mae fy ngwelliant o'r herwydd yn rhoi gofyniad priodol ar gyfer ymgynghori ond heb yr anawsterau gweithredol a fyddai'n codi pe derbynniwyd gwelliannau 3 a 4.

Mae gwelliannau 3 a 4 fel y'u drafftiwyd i bob pwrpas yn gosod dyletswydd ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ymgynghori cyn ymgymryd ag amrywiaeth eang o newidiadau cyfansoddiadol, gan gynnwys y rhai a allai gael eu sbarduno gan yr angen i landlord cymdeithasol cofrestredig wneud trefniadau â'u credydwyr, neu cyn cymryd camau penodol sy'n ymwneud â methdalu, ac nad ydynt, fel y dywedais, yn ymarferol. Mae'r angen i allu ymyrryd a gweithredu pan fo hyfywedd landlord cymdeithasol cofrestredig yn y fantol yn fater a gydnabyddir yn yr Alban hefyd, lle gall y rheoleiddiwr, er enghraifft, eithrio Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o'r gofyniad i ymgynghori â thenantiaid cyn iddo ddod yn is-gwmni o gorff arall os yw dod yn gwmni yn un o'r ffyrdd o osgoi methdalu.

At hyn, mae gwelliannau 3 a 4 yn ceisio annilysu penderfyniadau penodol. Efallai y bydd ganddynt ganlyniadau annisgwyl—er enghraifft, yn creu ansicrwydd ynghylch a all yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu'r Cofrestrydd Cwmnïau gofrestru'r penderfyniadau hynny, neu a oes yn rhaid iddynt ystyried a yw landlord cymdeithasol cofrestredig wedi cynnal ymgynghoriad cyfreithlon. Felly argymhellaf fod yr Aelodau yn cefnogi gwelliant 1 ac yn gwrthod gwelliannau 1A, 3 a 4 am y rhesymau yr wyf wedi'u hamlinellu.

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:28, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Cyn imi roi sylw i'r grŵp cyntaf o welliannau ynglŷn â'r Bil hwn, a gaf i yn gyntaf oll ailadrodd y ffaith fod pob un o'm gwelliannau heddiw, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, wedi deillio o argymhellion yr is-bwyllgor ar y Bil hwn neu o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol?

Er nad oes unrhyw amheuaeth bod amcanion y Bil hwn er budd y cyhoedd, o ystyried barn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae angen inni gadw mewn cof bod y Bil yn weithred sylweddol o ddadreoleiddio yn y sector tai ac, o ganlyniad, nodwyd yn adroddiad y ddau bwyllgor y byddai'n gofyn am reoli risg diwyd a monitro effeithiol.

Oherwydd bod fy ngwelliannau'n deillio o drafodaethau'r pwyllgor trawsbleidiol ac o egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, y mae, unwaith eto, gefnogaeth drawsbleidiol iddynt, rwy'n credu ei bod hi'n werth cydnabod nad oes ar neb yma eisiau amharu ar neu arafu'r broses o ailddosbarthu. Mae a wnelo hyn â llunio cyfraith dda. Llywydd, a gaf i ddweud bod yr holl welliannau yr wyf wedi eu cyflwyno wedi cael cefnogaeth lawn cyfreithwyr y Comisiwn, ac wedi eu llunio'n fedrus ganddynt, a byddwn yn gwrthod unrhyw goel bod diffygion yn y gwelliannau hynny o safbwynt cyfreithiol?

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:30, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Mae un o'r gwelliannau a gyflwynais gyda chefnogaeth Plaid Cymru yng Nghyfnod 2, yn wir, bellach wedi'i addasu gan Lywodraeth Cymru a'i drosi i'w diwyg eu hunain, ac mae'r gwelliant hwn yn sail i'r drafodaeth bellach yr ydym ni'n ei chael. Felly, dylwn groesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi ymateb. Nid yw'n gwneud yr hyn y bwriadai ei wneud yn wreiddiol; mae wedi ymateb i'r trafodaethau a gynhaliwyd yn gynharach yn y broses ddeddfwriaethol, a dylid, yn briodol, ei chanmol am hynny.

Felly, wedi dweud hynny, a chan gydnabod y bu mwy o gyfranogiad tenantiaid yn y broses hon, rwyf yn credu, o'i gymharu â'n gwelliannau, bod yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig yn fersiwn wannach ac, rwy'n credu, mwy amwys, a dyna pam ein bod yn anghytuno yn y modd hwn. Rwyf yn awr yn bwriadu ceisio ymhelaethu fel y gall Aelodau wneud penderfyniad doeth.

Yng ngrŵp 1, diben gwelliannau 3 a 4 yw darparu ar gyfer proses ffurfiol o ran ymgynghoriad a chyfranogiad tenantiaid os yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cyfuno neu yn newid eu strwythurau mewn ffyrdd eraill. A chredaf ei bod yn briodol, pan rydym yn cyfeirio at y sefydliad masnachu, i gofio ei bod yn amlwg bod ganddynt ddiddordeb yn hyn, ac mae'n briodol inni glywed hynny. Ond pan fo'r Gweinidog yn dyfynnu trafodaethau a gafodd â gwahanol grwpiau sydd â diddordeb yn hyn, dydyn nhw ddim yn rhan o'r broses ddeddfwriaethol. Maen nhw'n rhoi cyngor inni, wrth gwrs, ac mae'n bwysig inni fyfyrio yn ei gylch, ac felly yn sicr rwyf wedi edrych ar nodyn Tai Cymunedol Cymru yn yr ysbryd hwnnw. Maen nhw, drwy ganmol o ryw fath wrth fynd heibio, yn dweud eu bod yn croesawu'r gwelliannau niferus a gyflwynwyd gennyf. 

Wel, mae'n rhaid imi ddweud fy mod o'r farn bod 'niferus',  yn golygu rhywbeth na ellid ei gyfrif, fel, ' Mae sêr niferus yn y bydysawd; ni ellir eu cyfrif.' Rwyf wedi cyflwyno 18 gwelliant. Rwy'n gobeithio nad yw'r Llywydd yn credu bod hynny'n rhy feichus. Sylwaf ar y gynghrair a ffurfiwyd rhwng y Llywodraeth a'r corff allweddol hwn, ac, wrth gwrs, nid yw hynny yn amhriodol mewn unrhyw fodd. Ond rwyf yn credu, o ddechrau'r Bil hwn, bod llawer o bobl wedi cymryd yn ganiataol ei bod yn dechnegol iawn, ac nad yw felly yn wirioneddol deilwng o graffu trwyadl a phroses briodol a deddfwriaethol lawn. Rwyf braidd yn siomedig, mewn rhai agweddau o leiaf, na welsom ni'r brwdfrydedd y gellid ei ddisgwyl. Mae'r gyfraith yn fater difrifol, ac mae dadreoleiddio, hyd yn oed pan orfodir hynny arnom ni a'i fod yn rhywbeth na allwn ei osgoi—cytunaf yn llwyr â hynny—yn gofyn am drylwyredd.

Felly, beth bynnag, mae gwelliannau 3 a 4 yn sicrhau bod unrhyw gyfuno neu newidiadau strwythurol eraill yn ddilys oni fydd y landlord cymdeithasol cofrestredig dan sylw wedi cynnal yn gyntaf ymgynghoriad y mae pob un o denantiaid y Gymdeithas wedi'u gwahodd i gymryd rhan ynddo. Mae'r gwelliannau hyn hefyd yn rhoi grym i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, i nodi'r dulliau a'r amserlen sy'n berthnasol i unrhyw ymgynghoriad. Ac ni ellir gwneud y rheoliadau hyn oni fydd drafft o'r offeryn wedi ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i'r Cynulliad ei gymeradwyo, fel y gallwn ni gael rhywfaint o reolaeth a dylanwad ar natur y rheoliadau hynny.

Nawr, o'u cymharu â'r Bil yn yr Alban ar yr un mater â hwn yn union, mae'r gwelliannau hyn yn llai llym a chyfyng o ran cyfranogiad tenantiaid. Nid oeddwn eisiau cynnig pleidlais atal i denantiaid, fel, mewn gwirionedd, yn yr amgylchiadau, sy'n gallu digwydd yn yr Alban. Oherwydd mae materion ynghylch rheoli—hyd yn oed os ydyn nhw'n brin—amgylchiadau sydd o bosib yn rhai anodd iawn, ac mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at rai o'r rhain fel pe byddent yn berthnasol i fy ngwelliannau i, er fy mod yn gwrthod hynny'n gryf iawn.

Felly, yn adrannau 6 a 7 o Fil yr Alban, mae'n rhaid i landlord cymdeithasol cofrestredig ymgynghori â thenantiaid a chael eu cytundeb i ailstrwythuro mewn achosion lle byddai'r ailstrwythuro yn arwain at newid landlord ar gyfer y tenant neu'r landlord yn dod yn is-gwmni o gorff arall. Roedd hyn eisoes yn rhan o Fil yr Alban, fel y'i cyflwynwyd, felly mae'n amlwg i bawb, rwy'n tybio, sy'n gorfod gwneud hyn, yn ogystal â'r sefyllfa yn Lloegr, bod yn rhaid rhoi ystyriaeth lawn i hawliau ac amddiffyniadau tenantiaid wrth ailddosbarthu cymdeithasau tai, ac, yn amlwg, rwy'n ceisio rhoi ffurf lawnach o ddiogelwch i denantiaid, er nad yw mor gyfyng ag yn achos yr Alban. Felly, credaf mai'r lleiaf y dylem ei wneud yma yng Nghymru, yn y cyfnod hwn o ddiwygio, yw gwarantu bod gan denantiaid y cyfle i ymwneud a chymryd rhan, pan fo newid enfawr o'r fath yn digwydd o'u cwmpas o ran strwythur cyfansoddiadol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Fel y dywedais yn y ddadl yng Nghyfnod 1, beth sy'n fwy grymus na rhoi datganiad fel hyn ar wyneb deddfwriaeth sylfaenol? Fel y dywedais, rydym wedi gwneud peth cynnydd, er nad cymaint ag y byddwn wedi ei ddymuno.  

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:35, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Pan oeddem yn casglu tystiolaeth, ac mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at hyn eisoes, roedd gennym, rwy'n credu, gefnogaeth gref TPAS Cymru, y corff tenantiaid. Rwy'n credu y cafwyd croeso mawr i hynny wrth ddatblygu syniadau'r is-bwyllgor a oedd yn ystyried hyn ac a ddarparodd eu hadroddiad. Nid wyf wedi clywed unrhyw beth sy'n gwneud imi amau bod y pryderon hynny, mewn unrhyw fodd, yn amhriodol, a mynegodd TPAS Cymru eu barn drwy bwysleisio fod y ddeddfwriaeth yn bwysig iawn a, beth bynnag fydd yn digwydd, ni ddylai hynny atal y ddeddfwriaeth rhag cyrraedd y llyfr statud. Unwaith eto, dyna farn yr ydym ni i gyd yn ei goleddu.

Felly, mae'n fater o gydbwysedd, ac rwy'n credu ein bod ni wedi cael hynny'n gywir. Mae angen mwy o bwyslais ar gynnwys tenantiaid yn y penderfyniadau mawr sy'n digwydd o'u cwmpas. I bob pwrpas, y rhain yn eu bywydau a'u cartrefi, ac nid wyf yn credu ei bod yn ormod disgwyl i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o leiaf eu gwahodd i gynnig eu barn mewn ymgynghoriad.

Ar gyfer grŵp 1, nawr, mae'r Llywodraeth, fel y dywedais, wedi cydnabod y mater, ac wedi cyflwyno ei chynigion, ond rwyf eisoes wedi ei gwneud hi'n gwbl glir fy mod yn credu bod ymateb y Llywodraeth yn fwy amwys o lawer na fy un i. Rwy'n credu bod eglurder mewn deddfwriaeth yn rhywbeth i'w groesawu. Felly, fy marn i yw, er fy mod yn croesawu'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud, rwy'n dal i gredu ei bod yn mynd ati mewn modd llugoer braidd ac nid wyf yn credu bod hynny'n ddigon da i ddiogelu tenantiaid. Mae geiriad gwelliant y Llywodraeth yn dweud bod rhaid i gymdeithas hefyd roi datganiad i Weinidogion Cymru ynghylch yr ymgynghori a wnaeth y Gymdeithas gyda'i thenantiaid cyn pasio'r penderfyniad y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

Eto, nid wyf yn credu bod hynny mor gadarn ag y dylem fod yn anelu ato. Mae braidd yn amwys ac, er nad yw'n arwynebol, teimlaf nad oes ganddo drylwyredd gwelliannau 3 a 4, yr wyf yn eu cynnig heddiw, i roi i Weinidogion Cymru yr hyblygrwydd i benderfynu ar ddull ac amserlen yr ymgynghori drwy gyfrwng rheoliadau y byddai gennym ni ryw ddylanwad drostynt. Byddai hynny'n sefyllfa gadarnach o lawer.

Felly, os caf i droi at y sylw, unwaith eto, y cyfeiriodd y Gweinidog ato—bod gwelliant wedi ei gyflwyno yn enw Nick Ramsay, sef gwelliant 1A, ac rwyf wedi cyflwyno hwn fel rhyw fath o bolisi yswiriant, rwy'n tybio, rhag ofn y byddai gwelliant 1 y Llywodraeth yn llwyddiannus. Ein barn ni yw bod yr eithriad ymgynghori ar gyfer amgylchiadau a nodir ym mhwynt (2B) y mae'r Llywodraeth yn ei gyflwyno, sef achos o drosglwyddo o fod yn gymdeithas i fod yn gwmni, fel arfer dan orfodaeth ariannol—rydym ni o'r farn nad oes cyfiawnhad dros yr eithriad hwnnw.

Nawr, rydym ni wedi clywed llawer gan y Gweinidog am achosion o bwysau ariannol a bod yn rhaid symud yn gyflym neu mae'r holl beth yn dymchwel. Wel, gadewch imi ddweud bod y maes hwn yn dal i gael ei reoleiddio gan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, ac er mwyn i gymdeithas allu troi'n gwmni, mae gofyniad, na ellir ei osgoi, ar i'r gymdeithas yn gyntaf oll gynnal pleidlais ymysg aelodaeth y gymdeithas. Mae rhai amodau llym yn gysylltiedig â'r bleidlais hon, megis y gofyniad bod yn rhaid i 50 y cant o'r aelodau fod yn bresennol ac i o leiaf 75 y cant o'r rheini bleidleisio i drosi. Nawr, o'i gymharu â sefyllfaoedd eraill lle mae angen pleidleisiau aelodaeth, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod yr amodau hynny'n llym iawn. Er y bydd Llywodraeth Cymru yn dadlau nad yw trosi yw newid sylweddol, byddwn yn anghytuno â hynny. Barn y Llywodraeth yw na fyddai hynny mewn gwirionedd nac yma nac acw iddyn nhw oherwydd nad yw eu landlord yn newid, dim ond natur cyfansoddiad y landlord. Wel, wyddoch chi, mae'r rheolau y mae gweithdrefn y Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol yn seiliedig arnynt yn drylwyr ac arwyddocaol iawn. Os oes angen y cyfryw gefnogaeth gan yr Aelodau ar gyfer y newid hwnnw, pam nad yw'r tenantiaid yn cael unrhyw lais o gwbl? Yn ystod yr amser y mae'n rhaid bodloni gofynion y Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol, mae digon o gyfle i gynnal ymgynghoriad. Credaf y gall fod yn rhesymol bod yr amgylchiadau yn dylanwadu ar union natur hyn, ac felly gallai'r Llywodraeth bennu sut y dylai hynny fod yn berthnasol.

Felly, rwy'n credu na ddylem gael ein twyllo y gallai newidiadau sylweddol iawn weithiau, hyd yn oed o dan orfodaeth ariannol, ddigwydd i strwythur yr hyn a oedd yn gymdeithas dai. Ac yn yr amgylchiadau hynny o ddadreoleiddio a newid, dylai fod yn ofynnol sicrhau diogelwch sylweddol i denantiaid, ac o leiaf rywfaint o ymgynghori. Felly, pe bai'r Cynulliad yn penderfynu cymeradwyo gwelliant 1 o eiddo'r Llywodraeth yn hytrach na gwelliannau 3 a 4 o'n heiddo ni, sy'n cynnig yr amddiffyniad priodol cynhwysfawr—pe byddech chi yn cymeradwyo gwelliant 1, rwy'n gobeithio y byddwch chi wedyn yn cymeradwyo gwelliant 1A o'n heiddo, sydd o leiaf yn sicrhau bod dull y Llywodraeth, yn gyfyngedig fel y mae, yn dal yn berthnasol i'r achosion hynny o newid sy'n gysylltiedig â sefyllfa ariannol sy'n ei gwneud yn ofynnol i gymdeithas ddod yn gwmni. Felly, felly rwy'n cynnig hynny. 

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 4:41, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon, ac rydym ni'n bwriadu cefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn ar y cam hwn. Ond hoffwn achub ar y cyfle i egluro beth yw ein dull ni o weithredu'r ddeddfwriaeth hon, fel y gwnaeth David Melding hefyd. Rydym wedi cefnogi egwyddor y ddeddfwriaeth, mewn ffordd bragmatig, ers iddi ddod yn amlwg y byddai penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol fel sefydliadau sector cyhoeddus yn cael effaith sylweddol ar allu'r sector i ariannu tai newydd. Ar y cynsail hwnnw, dylwn ddweud, yr ydym yn ei gefnogi. Ond yn yr un modd, mae wedi dod yn amlwg y gallai fod canlyniadau annisgwyl i'r ddeddfwriaeth hon a ddylai fod yn bryder i bawb ohonom, yn arbennig o ran cyfranogiad tenantiaid. Rydym wedi bod yn gyson ynghylch hyn o'r dechrau'n deg, ac mae hyn wedi'i adlewyrchu yn ein gwelliannau ochr yn ochr â David Melding yng Nghyfnod 2, ac yn ein dogfen naratif ynghylch y Bil penodol hwn. Ceir nifer o enghreifftiau lle nad yw cyfranogiad tenantiaid wedi bodloni'r safon, hyd yn oed o fewn y deddfau presennol, heb sôn am beth allai ddigwydd yn sgil y ddeddfwriaeth hon—er enghraifft, y diffyg ymgynghori a fu pan ddaeth Tai Cantref dan reolaeth Tai Wales and West. Ac rydym ni wedi gweld rhywbeth tebyg yn digwydd o ran ailddosbarthu colegau addysg bellach lle, er enghraifft, mae Coleg Dinbych yn cau heb unrhyw ymgynghori ac mae hynny'n amharu'n fawr ar y myfyrwyr—rhywbeth nad yw ond yn bosib oherwydd ailddosbarthu. 

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, wrth gwrs. 

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

O ran y pwynt hwnnw—ac os caf ddatgan buddiant, gan fy mod yn aelod o Wales and West—o ran y ffaith i Wales and West gymryd Tai Cantref dan ei reolaeth, yn hynny o beth, ni fu unrhyw ymgynghori o gwbl gyda'r tenantiaid, fel y dywedwch, o dan y ddeddfwriaeth bresennol. Creodd lawer iawn o anfodlonrwydd, sy'n dal i fodoli, gyda phobl yn ansicr ynghylch a yw'r landlord newydd hwn mewn gwirionedd yn atebol iddynt. Felly, mae'n newid diwylliant y berthynas rhwng tenantiaid a'r landlord os nad oes gennych chi gyfranogaeth lawn, a dyna pam fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn edrych ar y gwelliannau hyn i weld ymhle y gallwn ni wella'r Bil hwn yn hynny o beth.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Ie, a dyna'n union pam yr ydym ni wedi codi pryderon ym mhob cyfnod, ac rwy'n credu bod hynny'n wir i ddweud ynglŷn â'n pryderon am y dyfodol, oherwydd os yw hynny'n digwydd nawr, sut allwn ni sicrhau drwy gyfrwng y Bil hwn nad yw hynny'n digwydd yn y dyfodol? Felly, byddwn yn gwrando'n ofalus ar ymateb y Llywodraeth i'r gwelliannau hyn, ond rydym ni ar hyn o bryd yn bwriadu hefyd gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Nick Ramsay a David Melding, i helpu i gryfhau'r amddiffyniad sydd ar gael i denantiaid pan fydd landlordiaid cymdeithasol yn mynd drwy newidiadau mawr. Ac rwyf wedi bod yn gwrando ar y ddadl eisoes heddiw, ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, fy mod yn gadarnach fy marn bod angen inni gyflwyno'r gwelliannau hyn, oherwydd mae'r rhain yn rhesymau sylfaenol, mewn gwirionedd, ynghylch sut y mae newidiadau'n digwydd. Os ceir argyfwng ariannol, neu os oes angen i sefydliad fynd i law'r derbynnydd, mae mwy o reswm, mewn gwirionedd, i ymgynghori, oherwydd gallai gael effaith andwyol ar y tenantiaid ac ar sut y maen nhw'n byw eu bywydau. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried ymhellach ar hyn o bryd ac yng nghyfnodau eraill y Bil. Mae'n rhaid inni gydnabod hefyd bod gan landlordiaid cymdeithasol berthynas unigryw a gwahanol â'u tenantiaid i landlordiaid eraill, ac mae'n gwbl briodol ymgynghori â thenantiaid ac mae'n hollbwysig gwrando arnynt.

Mae perygl y gall y Bil hwn arwain i bob pwrpas at landlordiaid cymdeithasol yn dod yn fwy tebyg i fentrau preifat—a gwnaed y sylw ynghylch dadreoleiddio eisoes—a gall arwain at gymdeithasau tai yn arallgyfeirio sut maen nhw'n adeiladu eu stoc, ac mae gwir angen inni gadw golwg ar hynny. Dyma pam fy mod i'n credu ei bod yn bwysig bod gennym ni fesurau diogelu yn y Bil hwn. Rwy'n sylweddoli bod corff annibynnol wrthi'n cynnal ymarferiad ynghylch rheoliadau tenantiaid a'u cyfranogiad. Ond rwy'n credu y byddai'n dda pe gallai'r Llywodraeth ddeall, pan ymwelais â— ac rwy'n siŵr bod Aelodau Cynulliad eraill wedi ymweld â—chymdeithasau tai a siarad â'u tenantiaid, mae arnyn nhw eisiau mwy o gysylltiad a mwy o rym, ac nid llai o gysylltiad a llai o rym. Os gallwn wneud unrhyw beth o fewn ein gallu o ran deddfwriaeth i wella hynny, yna nid wyf yn gweld hynny yn rhywbeth negyddol.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 4:46, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Roeddem ni, yn UKIP, yn hapus i gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn ac, fel y dywedais yn y ddadl gynharach yn y fan yma, gwnaethom hynny oherwydd mae angen inni ddiogelu'r ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru. Effaith y Bil hwn fydd gwrthdroi ailddosbarthiad y cymdeithasau tai i fod yn gyrff cyhoeddus, gyda chanlyniadau a fyddai'n effeithio ar fenthyca yn y sector cyhoeddus. Felly, mae hynny'n amlwg er budd y cyhoedd, ac am y rheswm hwnnw mae cefnogaeth drawsbleidiol i'r Bil. 

Wedi dweud hynny, rydym yn awyddus bod hawliau tenantiaid cymdeithasau tai yn cael eu hamddiffyn. Credwn fod y gwelliannau a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr heddiw yn gwella'r Bil. Maen nhw'n rhoi cyfle i denantiaid ymgysylltu a chael gwrandawiad pan fo eu landlord cymdeithasol cofrestredig yn wynebu newidiadau mawr. Yng ngoleuni ein dadleuon diweddar yma yn y Siambr hon yn ymwneud â hawliau rhydd-ddeiliad a diwygiadau i lesddeiliadaeth, ac roedd UKIP yn gefnogol i'r ddau beth, gwelwn y gwelliannau hyn yn rhesymegol ac yn ymgais adeiladol i wella'r ddeddfwriaeth hon. Am y rheswm hwnnw, bydd UKIP yn cefnogi pob un o welliannau'r Ceidwadwyr heddiw.

O ran gwelliant y Llywodraeth—gwelliant 1—teimlwn ei fod braidd yn gyfyng, ac y gallai olygu dim llais i denantiaid pe byddai eu cymdeithas dai yn newid dwylo. Gwn, yn y Cyfnod Pwyllgor, fod y Gweinidog wedi dweud bod cyfathrebu priodol gyda thenantiaid, yn y sefyllfaoedd hyn, yn rhan o'r canllawiau rheoleiddiol, ac y cedwir trosolwg rheoleiddiol o hynny.

Rydym yn derbyn y sylw hwnnw, ond ar y cyfan, byddai'n well gennym ni pe byddai hawliau tenantiaid yn yr amgylchiadau hynny yn cael eu rhoi yn y Bil yn hytrach na mewn canllawiau. Felly, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 1 o eiddo'r Llywodraeth heddiw. Diolch yn fawr.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:47, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gynnig gwelliant 1A—polisi yswiriant David Melding, i ddefnyddio'i eiriau ef. Byddai'n well gennym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, pe cai'r gwelliannau eraill eu pasio yn lle hynny. Ond fel y dywedodd David Melding yn ei sylwadau, os nad yw hynny'n digwydd, yna rydym ni yn credu bod cyfiawnhad o leiaf i wneud yn siŵr yr ymgynghorir yn benodol â phreswylwyr o ran y newid hwnnw rhwng cymdeithas gofrestredig a chwmni.

Gwrandewais yn astud ar sylwadau agoriadol y Gweinidog, ac fe wnaethoch ddefnyddio'r ymadrodd, 'rydym ni eisiau rhoi tenantiaid wrth wraidd y broses hon'—rhywbeth mewn gwirionedd yr ysgrifennais i lawr fy hun, ar fy nodiadau i fy hun yn fan hyn, cyn ichi ddweud hynny. Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno mai dyna yw nod y ddeddfwriaeth hon. Rydym ni'n credu yma, fel y mae pethau ar hyn o bryd, os nad ydych chi'n derbyn ein gwelliannau, yna ni fydd y system mor gadarn ag y gallai fod. Fel y dywedodd David Melding, os ydych chi'n rhoi hyn ar wyneb y Bil, yna mae hynny'n rhoi sicrwydd i denantiaid cymdeithasau yr ymgynghorir yn llawn â nhw pan ac fel sy'n angenrheidiol. 

Fel y dywedodd Simon Thomas yn ei sylwadau, bu drwgdeimlad hyd yma oherwydd nid yw tenantiaid yn teimlo yr ymgynghorwyd â nhw o hyd pan fu newid diwylliannol yn y sefydliad sy'n gyfrifol am ddarparu eu cartref iddynt. Nid yw hynny wedi bod yn ddigon da yn y gorffennol. Rydym ni eisiau cefnu ar hynny, felly byddwn yn annog yr Aelodau, yn gyntaf oll, i gefnogi'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn, ond os na ellir gwneud hynny, i gefnogi'r gwelliant hwn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:49, 24 Ebrill 2018

Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Hoffwn i ddechrau drwy gydnabod a chroesawu'r ffaith fod pob plaid wedi cydnabod pa mor bwysig yw'r Bil hwn, a pha mor bwysig yw hi ein bod yn llwyddo i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Yn wir, mae'n Fil difrifol sy'n haeddu ystyriaeth ddifrifol a chraffu difrifol, fel y dywedodd David Melding yn gwbl briodol.

Byddwn yn dweud nad ydym wedi clywed y diwedd, yn sicr, ynglŷn â hawliau a chyfranogiad tenantiaid. Mae'n rhywbeth a fu o ddiddordeb brwd personol i mi, a'r wythnos diwethaf cyfarfûm â Chadeirydd Bwrdd Rheoleiddiol Cymru i drafod swyddogaeth y gallent ymgymryd â hi, ac yn arbennig y gwaith y maen nhw'n ei wneud yn edrych yn ddwys ac yn fanwl ar hawliau tenantiaid a chyfranogiad tenantiaid fel rhan o un o'u hadolygiadau thematig. Rwy'n gwybod y byddent yn awyddus i glywed gan yr Aelodau am eu safbwyntiau a'u profiadau nhw yn hynny o beth hefyd.

Er y bydd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn endidau preifat, nid yw hynny'n golygu nad oes angen rheoleiddio cryf ac effeithiol. I'r gwrthwyneb yn llwyr. Rydym ni wedi gweithredu'n gadarn iawn i ddiwygio a chryfhau sut yr eir ati i reoleiddio yn barod ar gyfer ailddosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys tenantiaid. Dydyn ni ddim eisiau i denantiaid fod wrth wraidd rheoleiddio yn unig—mewn gwirionedd, maent eisoes yn rhan greiddiol o'r rheoleiddio, diolch i'n dull rheoleiddio newydd, a gyflwynwyd yn ddiweddar.

Soniwyd am rai materion ynghylch trosi o gymdeithasau i gwmnïau. Felly, gall landlord cymdeithasol cofrestredig sy'n gymdeithas gofrestredig ddim ond troi yn gwmni newydd yn hytrach na chwmni sydd eisoes yn bodoli, ac felly ystyrir bod unrhyw gwmni newydd a grëwyd ar gyfer trosi yn landlord cymdeithasol cofrestredig. Ynghlwm â hynny mae'r holl fesurau diogelwch sy'n deillio yn sgil hynny o ran ei ddiben a'i fusnes craidd. Mae'r diben a'r busnes craidd hwnnw ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gan gynnwys y rhai hynny sy'n gwmnïau, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw fod yn rhai nid-er-elw, a rhaid i'w dibenion gynnwys darparu, adeiladu, gwella neu reoli tai cymdeithasol. Cedwir golwg fanwl ar arallgyfeirio, ac yn yr un modd ar sefydlu is-gwmnïau sydd heb eu cofrestru, ac yn wir mae datblygu diben craidd y busnes yn ganolog i berfformiad safon 1 ac fe gedwir trosolwg rheoleiddiol parhaus ar hynny.  

Rwy'n dod â fy sylwadau i ben drwy ailddatgan bod fy ngwelliant yn nodi darpariaethau drwy roi dyletswydd ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ymgynghori â thenantiaid. Mae'n ddyletswydd sy'n berthnasol os oes newid sylfaenol sy'n effeithio ar denantiaid drwy newid landlord mewn ymateb i'r pryderon y cyfeiriodd Gareth Bennett atynt, ond nid yw'n ddyletswydd i ymgynghori lle mae landlord cymdeithasol cofrestredig mewn perygl ac mae angen gweithredu ar fyrder yn y modd hwnnw i ddiogelu ei denantiaid. Rwy'n dweud unwaith eto nad yw hyn yn golygu y gall landlordiaid cymdeithasol cofrestredig adael tenantiaid yn y niwl os yw eu landlord yn wynebu penderfyniadau anodd. Mae cyfathrebu effeithiol mewn unrhyw achos yn ddisgwyliad rheoleiddiol ac fe gedwir trosolwg rheoleiddiol o hynny. 

Gan droi at y ddyletswydd ei hun, mae'r gofyniad ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu datganiad ynghylch yr ymgynghori y maent wedi'i wneud, i bob pwrpas yn eu gorfodi i ymgynghori, ac os nad ydynt yn ymgynghori, ni fyddant yn gallu darparu'r datganiad sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru. Byddai hynny wedyn yn ei dro yn eu rhoi mewn perygl o gael dyfarniad rheoleiddiol anffafriol, gyda'r canlyniadau difrifol iawn sy'n dod yn sgil hynny. Felly, Llywydd, rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliant 1 a gwrthod gwelliannau 1A, 3 a 4. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:53, 24 Ebrill 2018

Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn grŵp 1. Fel gwelliant i welliant 1, bydd gwelliant 1A yn cael ei waredu yn gyntaf. Nick Ramsay, gwelliant 1A. 

Cynigiwyd gwelliant 1A (Nick Ramsay).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1A? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn felly i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 30 yn erbyn, felly gwrthodwyd gwelliant 1A.

Gwelliant 1A: O blaid: 23, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 718 Gwelliant 1A

Ie: 23 ASau

Na: 30 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:54, 24 Ebrill 2018

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1 nawr? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 1. 

Gwelliant 1: O blaid: 37, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 719 Gwelliant 1

Ie: 37 ASau

Na: 16 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Cynigiwyd gwelliant 3 (David Melding).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 3. 

Gwelliant 3: O blaid: 23, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 720 Gwelliant 3

Ie: 23 ASau

Na: 30 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Cynigiwyd gwelliant 4 (David Melding).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 4: O blaid: 23, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 721 Gwelliant 4

Ie: 23 ASau

Na: 30 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw