Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 24 Ebrill 2018.
Diolch. Felly, fel y clywsom eisoes, argymhellodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, wrth ystyried y Bil, bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar y Bil os daw'n Ddeddf, er mwyn sicrhau, yn benodol, y diogelir hawliau tenantiaid ac nad yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gwaredu tir ac asedau mewn modd nad yw Llywodraeth Cymru yn ei ragweld.
Fel y dywedais yn fy ymateb i'r pwyllgor ac yn ystod trafodion Cyfnod 2, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu unrhyw graffu gan y Cynulliad, a bydd, wrth gwrs, yn cynorthwyo lle bo hynny'n bosib. Un o swyddogaethau craidd y Cynulliad hwn, wrth reswm, yw craffu—craffu ar weithredoedd y Llywodraeth, craffu ar Filiau, a chraffu ar weithredu'r mesurau hynny pan ddônt yn Ddeddf, ac nid oes unrhyw beth o gwbl yn y Bil hwn yn newid hynny. Mae craffu yn amlwg i'w groesawu. Ac nid oes dim i atal y pwyllgor hwnnw y cyfeiriodd David Melding ato rhag ymgynnull a gwneud ychydig o waith, i benderfynu a yw popeth yn dda, neu ychydig mwy o waith i ystyried pethau mewn mwy o fanylder. Unwaith eto, nid oes unrhyw beth yn y Bil hwn yn rhwystro hynny.
Felly, mae modd craffu ar y Bil eisoes fel y gwêl y Cynulliad orau, heb orfodi i'r Cynulliad ystyried hynny o fewn amserlenni penodol. Mae gwelliant 19 yn nodi bod yn rhaid i'r adolygiad ddigwydd o fewn dwy i bedair blynedd ar ôl y Cydsyniad Brenhinol, ac, fel y clywsom, bydd hynny o bosib yn rhwymo'r Cynulliad yn y dyfodol, er fy mod yn cydnabod y ceir gwahanol safbwyntiau ynghylch a yw hynny'n rhywbeth yr hoffem ei weld ai peidio.
Pe byddai'r gwelliannau hyn yn cael eu pasio, rwy'n pryderu am y cynsail y gallai hyn ei osod, a'r canlyniadau posib o ran gallu unrhyw Gynulliad yn y dyfodol i benderfynu ar ei flaenoriaethau, yn enwedig os yw'r mathau hyn o ofynion ar gyfer gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol yn dechrau ymddangos mewn mwy o Ddeddfau gyda threigl amser.
O ran y pryderon am y Bil hwn a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gwaredu asedau, diben y rheoliad yw amddiffyn tenantiaid a buddsoddiad mewn tai cymdeithasol ac, unwaith eto, rwyf yn eich sicrhau y parheir i gadw trosolwg rheoleiddiol cadarn ar y meysydd hyn. Ymchwilir i unrhyw landlord cymdeithasol cofrestredig nad yw'n cynnal hawliau tenantiaid neu sy'n gwaredu tir ac asedau mewn ffyrdd nad ydynt yn bodloni'r safonau gofynnol, ac eir i'r afael ag unrhyw ddiffygion.
I egluro, er fy mod i'n credu bod digon o fesurau diogelwch ar waith, fel y dywedais eisoes, byddwn yn fodlon iawn i'r Cynulliad graffu ar weithrediad ac effaith y Bil hwn. Nid wyf i, fodd bynnag, o'r farn bod angen cyfyngu ar allu'r Cynulliad i benderfynu ar ei flaenoriaethau yn y dyfodol, ac, felly, byddwn yn argymell peidio â chefnogi'r gwelliannau hyn.
O ran gwelliannau 5 a 13, sy'n ymwneud â gosod cyfarwyddydau, rwyf wedi ystyried y mater hwn yn ofalus ac rwy'n fodlon, o ystyried natur a chynnwys y cyfarwyddydau, fod y Bil fel y mae yn briodol. Mae cwmpas y cyfarwyddydau sydd i'w cyflwyno o dan adran 5 neu adran 14 o'r Bil yn gyfyngedig iawn. Bydd y cyfarwyddydau yn ymdrin â llunio hysbysiad i'w roi i Weinidogion Cymru, ei ffurf a'i gynnwys, a'r terfynau amser ar gyfer gwneud hynny. Mae'r cyfarwyddydau felly yn rhai gweinyddol ac ni fyddant yn cynnwys darpariaethau sylweddol.
Er enghraifft, y bwriad yw y bydd y cyfarwyddydau yn amlinellu'r templed i'w defnyddio pan fydd landlord cymdeithasol cofrestredig yn anfon hysbysiad, fel y derbynnir yr holl wybodaeth ofynnol mewn diwyg cyson. Rwyf hefyd yn disgwyl i'r cyfarwyddydau nodi'r cyfeiriad e-bost a'r cyfeiriad gohebiaeth y dylid eu defnyddio i anfon yr hysbysiad, yn ogystal â'r amserlen o ran derbyn yr hysbysiad. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i gyhoeddi cyfarwyddydau ar wefan Llywodraeth Cymru, lle gall pawb eu gweld. Rwyf hefyd yn fodlon iawn diweddaru'r Aelodau wrth lunio cyfarwyddydau a gweithredu'r Bil.
Rwy'n sylweddoli y bydd cyfarwyddydau yn ofyniad a osodir drwy ddeddfiad ac felly mae'n bosib y bydd pwerau ymyrryd ehangach ar gael os na chydymffurfir â'r cyfarwyddydau. Fodd bynnag, nid yw hyn yw'n amharu ar y ffaith bod y cyfarwyddydau yn weinyddol eu natur, ac mae'n bwysig cofio bod Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo gan gyfraith gyhoeddus wrth iddyn nhw arfer eu swyddogaethau ac y bydd unrhyw gamau a weithredir o ganlyniad i beidio â chydymffurfio yn gymesur â'r methiannau.
Eisoes mae nifer o bwerau eraill o ran ffurfio cyfarwyddydau yn Neddf Tai 1996, ac mewn amrywiaeth eang o ddeddfwriaeth arall, nad oes unrhyw weithdrefn ynghlwm wrthynt, er enghraifft y gallu i wneud cyfarwyddydau ynghylch taliadau gwasanaeth y mae landlordiaid cymdeithasol yn eu codi.
Rwy'n argymell peidio â chefnogi'r gwelliannau hyn. Fodd bynnag, fel y dywedais, rwy'n fodlon ymrwymo i'ch hysbysu pan wneir cyfarwyddydau.