– Senedd Cymru am 4:55 pm ar 24 Ebrill 2018.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 2, sy'n ymwneud â gwaith craffu gan y Cynulliad Cenedlaethol. Gwelliant 5 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Rwy'n galw ar David Melding i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. David Melding.
Diolch, Llywydd, rwy'n cynnig, felly. Mae'r ddau welliant cyntaf yn y grŵp hwn wedi deillio o'r argymhellion a gyflwynwyd yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—sef, Argymhelliad 7. Mae gwelliannau 5 a 13 yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i gyflwyno cyfarwyddydau a gyhoeddir o dan adran 5, rhai sy'n ymwneud â newid cyfansoddiadol a strwythurol, ac adran 14, ynghylch gwarediadau penodol o dir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, i gyflwyno cyfarwyddydau o'r fath gerbron y Cynulliad o fewn 14 diwrnod o roi'r cyfarwyddyd hwnnw.
Mae'r ddau welliant hyn yng ngrŵp 2, yn fy marn i, Llywydd, yn arwyddocaol iawn. O dan adrannau 5 a 14 o'r Bil, fel y mae ar hyn o bryd, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i gyhoeddi cyfarwyddydau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ynghylch agweddau technegol ac ymarferol ar unrhyw hysbysiadau y mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn eu rhoi i Weinidogion Cymru, o ran newidiadau cyfansoddiadol neu strwythurol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, neu mewn cysylltiad â gwaredu tir. O ystyried pwysigrwydd y cyfarwyddydau a'r gwelliannau hyn, byddai methiant i gydymffurfio â nhw yn arwain o bosib at orfodi neu hysbysiad cosb. Er mwyn sicrhau tryloywder, cytunodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y byddai'n briodol gweld unrhyw gyfarwyddyd o'r fath a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 14 diwrnod o roi'r cyfarwyddyd hwnnw. Yng Nghyfnod 2, dywedodd y Gweinidog y byddai cwmpas y cyfarwyddydau o dan yr adrannau hyn yn gyfyngedig, o natur weinyddol ac na fyddent yn cynnwys darpariaethau sylweddol.
Dywedodd hefyd y byddai'n fwy na bodlon rhoi ymrwymiad y caiff cyfarwyddydau a roddir o dan y darpariaethau newydd eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Wel, mae'n rhaid imi ddweud, Llywydd, fy mod i'n credu bod ymddangos ar wefan Llywodraeth Cymru yn beth gwych, ond rwyf yn credu y dylai fod yn rhywbeth y dylid ei gyhoeddi neu ddod i'r Cynulliad hefyd, o fewn pythefnos. Nid wyf yn credu bod hynny mewn unrhyw fodd yn rhwymedigaeth feichus ar y Llywodraeth. Mewn cynllun dadreoleiddio o'r fath, er mor angenrheidiol ydyw, ni ddylem laesu dwylo. Nid wyf yn credu mai materion technegol yn unig mo'r rhain. Pan edrychwch chi ar faterion fel gwaredu tir, os aiff pethau o le ac o chwith, mae arferion gwael yn dod i'r amlwg, a bydd hynny ynglŷn â rhywbeth tebyg i hynny. Pa mor wyliadwrus bynnag mae'r Llywodraeth yn bwriadu bod, mae angen sicrwydd dauddyblyg, a'n gwaith ni yw craffu ar hynny.
Llywydd, mae'r ddau welliant olaf yn y grŵp hwn yn sefydlu gofyniad y dylai'r Cynulliad graffu ar y Bil ar ôl deddfu o fewn cyfnod o ddwy i bedair blynedd ar ôl y diwrnod y byddai'r Bil yn derbyn Cydsyniad Brenhinol i fod yn Ddeddf. Yn benodol, mae gwelliant 19 yn datgan mai un o bwyllgorau'r Cynulliad fyddai'n adolygu gweithrediad y Ddeddf ac, os yw'n briodol, o ganlyniad i'w ganfyddiadau, yn gwneud argymhellion ar gyfer diddymu neu ddiwygio'r Ddeddf ac yn cyhoeddi'r canfyddiadau a'r argymhellion hyn. Mae gwelliant 2 yn ddiwygiad canlyniadol i welliant 19 a bydd yn golygu newid adran drosolwg y Bil, pe cytunid ar y gwelliant.
Mae'r gwelliant hwn yn deillio o argymhelliad yr is-bwyllgor a wnaeth y gwaith craffu manwl a'r ymgynghori, ac a gyhoeddodd yr adroddiad, ac yna, a gymeradwywyd yn y Pwyllgor llawn yn ddiweddarach pan dderbyniodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol adroddiad yr is-bwyllgor. Yn ystod ein trafodaethau ar yr is-bwyllgor, daeth pob un ohonom ni i'r casgliad bob gwaith craffu ôl-deddfwriaethol yn hanfodol yn yr achos hwn, dim ond oherwydd ei fod yn ddeddf dadreoleiddio mewn maes mor bwysig sy'n cynnwys tenantiaid—yn gyntaf, i sicrhau bod hawliau tenantiaid yn cael eu diogelu ac, yn ail, fel nad yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael gwared ar dir ac asedau mewn ffordd sy'n annisgwyl i'r Llywodraeth. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn—sut mae'r cynllun newydd yn gweithredu, a'r gallu i fyfyrio ynghylch pa mor addas i'r diben yw'r ddeddfwriaeth yng ngoleuni'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd, a byddai hynny, felly, yn elwa o graffu ôl-ddeddfwriaethol.
Yn ymateb ysgrifenedig cychwynnol y Gweinidog i adroddiad yr is-bwyllgor, braf iawn oedd clywed y Gweinidog yn dweud y byddai'n croesawu'r cyfle i Lywodraeth Cymru gymryd rhan mewn unrhyw broses graffu ôl-ddeddfwriaethol fel y bo'n briodol.
Ar hyn o bryd, rydym ni'n canmol ein hunain gan feddwl, 'o'r diwedd, rydym ni wedi gwneud rhywfaint o gynnydd; bu newid sylweddol ac, mewn gwirionedd, mae'r pwynt ynglŷn â hyn yn cael ei weld fel Deddf Dadreoleiddio yn cael ei arddel'. Yn anffodus, yn ystod Cyfnod 2, gwelsom dro pedol llwyr gan y Gweinidog, a ddadleuodd y byddai'r gwelliant hwn yn cyfyngu ar allu'r Cynulliad i benderfynu ar sut dylid blaenoriaethu ei adnoddau yn y dyfodol, o bosib yn ystod tymor nesaf y Cynulliad.
Llywydd, rydym ni, wrth gwrs, wedi arfer â'r Llywodraeth yn diogelu breintiau'r ddeddfwrfa gydag eiddigedd, felly rwy'n canmol y math hwnnw o feddylfryd. Ond rwy'n credu ei fod wedi mynd o chwith yn yr achos hwn, ac, yn wir, rwy'n credu nad yw'n ddim ond twyllresymeg. Yn gyntaf, ynglŷn â'r ddadl o ymrwymo Cynulliad yn y dyfodol, os caiff y Bil ei basio cyn bo hir, fel y mae pob disgwyl y caiff, mae gennym dair blynedd i wneud y gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol, ac mae'n amlwg y byddai cyfnod o ddwy i bedair blynedd ar gael inni, ac fe allem ni gwblhau'r gwaith hwn ein hunain. Felly, ni fyddem o reidrwydd yn rhwymo neb ond ni ein hunain.
Mae'n rhaid imi ddweud bod y ffordd y mae deddfwrfeydd yn gweithredu yn frith o rwymedigaethau sy'n anochel yn cael eu creu gan adrannau deddfwriaethol Llywodraethau dros feysydd sylweddol—mae cymalau machlud yn cael yr un effaith drwy ymrwymo deddfwrfa i weithredu yn y dyfodol, naill ai i bleidleisio i gynnal Deddf neu i roi terfyn arni—ac mae hynny'n egwyddor bwysig. Yn wir, rydym yn rhoi pob math o ddyletswyddau ar Gynulliadau'r dyfodol yn y ffordd y mae'n rhaid iddynt ymdrin ag offerynnau statudol a chyflwyno rheoliadau y cytunir arnynt gan y weithdrefn gadarnhaol neu'r weithdrefn uwchgadarnhaol, ac mae hyn, wrth gwrs, yn effeithio ar amser, llwyth gwaith, ac ati. Ond, wrth gwrs, gyda'r hyn yr ydym ni yn ei gynnig, gellid cynnull pwyllgor, cynnal un sesiwn a phenderfynu, wyddoch chi, fod y Ddeddf yn gweithio'n wych, ac felly nid oes angen gwneud dim. O ystyried difrifoldeb yr hyn a allai ddigwydd, a phwysigrwydd y Bil hwn, nid wyf yn credu bod hyn mewn unrhyw fodd yn faich—rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd arnom ni i sicrhau bod yr hyn a rown ni ar waith yn mynd i fod yn gwbl addas i'r diben a'n bod yn llunio cyfraith gref.
Yn wir, ceir un enghraifft wirioneddol o Ddeddf Gymreig yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad yn y dyfodol, a hynny yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, o ran pa fath o gyflogaeth y gall archwiliwyr cyffredinol ymgymryd â hi, a chyhoeddi rhestr mewn cysylltiad â hynny.
A gaf i ddim ond dweud, mae Comisiwn y Gyfraith eu hunain wedi datgan y byddai craffu ôl-ddeddfwriaethol yn arwain at well rheoleiddio a datblygu pwyslais mwy caeth ar weithredu?
Felly, mae ganddo'r fantais honno yn amlwg. A gaf i hefyd ddweud, Llywydd, pa mor rhagorol oedd y gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol a wnaed ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010? Ystyriaf ei fod yn waith arloesol, nid yn lleiaf oherwydd iddo sylwi ar ganlyniadau annisgwyl, yr oedd angen polisi cyhoeddus er mwyn eu haddasu.
Felly, Llywydd, rwy'n credu y dylid ystyried craffu ôl-ddeddfwriaethol fel mater o drefn mewn meysydd pwysig o bolisi cyhoeddus, yn rhan o'r broses ddeddfwriaethol. Rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol, ar adegau, i fynnu bod y Cynulliad presennol neu Gynulliad yn y dyfodol yn cynnal yr ymarfer diwydrwydd dyladwy hwnnw, ac felly rwy'n cynnig y gwelliant.
Byddwn yn cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Mae craffu i fod yn un o swyddogaethau craidd y Cynulliad hwn, a bu gwendid â deddfwriaeth flaenorol sef, yn aml, nad yw craffu ôl-ddeddfwriaethol wedi cael y sylw haeddiannol. Felly, byddwn yn cefnogi gwelliant 19 ar y sail hon, ac mewn gwirionedd nid wyf yn credu mai lle'r Llywodraeth yw penderfynu beth ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol ei wneud o ran swyddogaeth strwythurau'r pwyllgorau. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni benderfynu arno fel deddfwrfa, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, y gobeithiaf y gwnawn ni yn awr. Ond nid wyf yn credu y dylai hynny osod safbwynt arbennig, ac rwy'n teimlo efallai y rhoddwyd yr argraff honno, yn anffodus, hyd yn oed os nad oedd yn fwriad gwneud hynny.
Credaf y ceir dadl bod rhwymo Cynulliadau'r dyfodol—ac mae'n debygol bod hyn yn rhwymo ni ein hunain, yn hytrach na Chynulliad yn y dyfodol, beth bynnag—i waith craffu ôl-ddeddfwriaethol yn beth da, ac mae wedi bod yn wendid yn y broses hyd yma y gallwn ni roi sylw iddo yn y fan yma.
Gan droi at welliannau 5 a 13, byddwn yn cefnogi'r rhain hefyd. Hwyrach eu bod yn ymddangos yn ddiwygiadau gweithdrefnol bychain y gall y Llywodraeth honni nad ydynt yn angenrheidiol, ond nid yw rhywbeth nad yw'n angenrheidiol yn gwneud hynny'n niweidiol. Gallwn, wrth gwrs, gael sicrwydd nad yw cyfarwyddydau yn cynnwys darpariaethau sylweddol, ond mae eu gosod gerbron y Cynulliad yn cynnwys y sicrwydd ychwanegol hwnnw rhag ofn y bydd Gweinidog neu Lywodraeth wahanol yn newid eu meddwl. Ni fydd yn costio dim i'r Llywodraeth nac yn newid polisi, ond maen nhw'n ychwanegu sicrwydd, ac, fel yr amlinellwyd yn gynharach, mae gennym ni bryderon am ganlyniadau annisgwyl y Bil hwn. Felly, byddai cael amddiffyniad ychwanegol y gwelliannau hyn yn ddefnyddiol.
Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.
Diolch. Felly, fel y clywsom eisoes, argymhellodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, wrth ystyried y Bil, bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar y Bil os daw'n Ddeddf, er mwyn sicrhau, yn benodol, y diogelir hawliau tenantiaid ac nad yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gwaredu tir ac asedau mewn modd nad yw Llywodraeth Cymru yn ei ragweld.
Fel y dywedais yn fy ymateb i'r pwyllgor ac yn ystod trafodion Cyfnod 2, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu unrhyw graffu gan y Cynulliad, a bydd, wrth gwrs, yn cynorthwyo lle bo hynny'n bosib. Un o swyddogaethau craidd y Cynulliad hwn, wrth reswm, yw craffu—craffu ar weithredoedd y Llywodraeth, craffu ar Filiau, a chraffu ar weithredu'r mesurau hynny pan ddônt yn Ddeddf, ac nid oes unrhyw beth o gwbl yn y Bil hwn yn newid hynny. Mae craffu yn amlwg i'w groesawu. Ac nid oes dim i atal y pwyllgor hwnnw y cyfeiriodd David Melding ato rhag ymgynnull a gwneud ychydig o waith, i benderfynu a yw popeth yn dda, neu ychydig mwy o waith i ystyried pethau mewn mwy o fanylder. Unwaith eto, nid oes unrhyw beth yn y Bil hwn yn rhwystro hynny.
Felly, mae modd craffu ar y Bil eisoes fel y gwêl y Cynulliad orau, heb orfodi i'r Cynulliad ystyried hynny o fewn amserlenni penodol. Mae gwelliant 19 yn nodi bod yn rhaid i'r adolygiad ddigwydd o fewn dwy i bedair blynedd ar ôl y Cydsyniad Brenhinol, ac, fel y clywsom, bydd hynny o bosib yn rhwymo'r Cynulliad yn y dyfodol, er fy mod yn cydnabod y ceir gwahanol safbwyntiau ynghylch a yw hynny'n rhywbeth yr hoffem ei weld ai peidio.
Pe byddai'r gwelliannau hyn yn cael eu pasio, rwy'n pryderu am y cynsail y gallai hyn ei osod, a'r canlyniadau posib o ran gallu unrhyw Gynulliad yn y dyfodol i benderfynu ar ei flaenoriaethau, yn enwedig os yw'r mathau hyn o ofynion ar gyfer gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol yn dechrau ymddangos mewn mwy o Ddeddfau gyda threigl amser.
O ran y pryderon am y Bil hwn a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gwaredu asedau, diben y rheoliad yw amddiffyn tenantiaid a buddsoddiad mewn tai cymdeithasol ac, unwaith eto, rwyf yn eich sicrhau y parheir i gadw trosolwg rheoleiddiol cadarn ar y meysydd hyn. Ymchwilir i unrhyw landlord cymdeithasol cofrestredig nad yw'n cynnal hawliau tenantiaid neu sy'n gwaredu tir ac asedau mewn ffyrdd nad ydynt yn bodloni'r safonau gofynnol, ac eir i'r afael ag unrhyw ddiffygion.
I egluro, er fy mod i'n credu bod digon o fesurau diogelwch ar waith, fel y dywedais eisoes, byddwn yn fodlon iawn i'r Cynulliad graffu ar weithrediad ac effaith y Bil hwn. Nid wyf i, fodd bynnag, o'r farn bod angen cyfyngu ar allu'r Cynulliad i benderfynu ar ei flaenoriaethau yn y dyfodol, ac, felly, byddwn yn argymell peidio â chefnogi'r gwelliannau hyn.
O ran gwelliannau 5 a 13, sy'n ymwneud â gosod cyfarwyddydau, rwyf wedi ystyried y mater hwn yn ofalus ac rwy'n fodlon, o ystyried natur a chynnwys y cyfarwyddydau, fod y Bil fel y mae yn briodol. Mae cwmpas y cyfarwyddydau sydd i'w cyflwyno o dan adran 5 neu adran 14 o'r Bil yn gyfyngedig iawn. Bydd y cyfarwyddydau yn ymdrin â llunio hysbysiad i'w roi i Weinidogion Cymru, ei ffurf a'i gynnwys, a'r terfynau amser ar gyfer gwneud hynny. Mae'r cyfarwyddydau felly yn rhai gweinyddol ac ni fyddant yn cynnwys darpariaethau sylweddol.
Er enghraifft, y bwriad yw y bydd y cyfarwyddydau yn amlinellu'r templed i'w defnyddio pan fydd landlord cymdeithasol cofrestredig yn anfon hysbysiad, fel y derbynnir yr holl wybodaeth ofynnol mewn diwyg cyson. Rwyf hefyd yn disgwyl i'r cyfarwyddydau nodi'r cyfeiriad e-bost a'r cyfeiriad gohebiaeth y dylid eu defnyddio i anfon yr hysbysiad, yn ogystal â'r amserlen o ran derbyn yr hysbysiad. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i gyhoeddi cyfarwyddydau ar wefan Llywodraeth Cymru, lle gall pawb eu gweld. Rwyf hefyd yn fodlon iawn diweddaru'r Aelodau wrth lunio cyfarwyddydau a gweithredu'r Bil.
Rwy'n sylweddoli y bydd cyfarwyddydau yn ofyniad a osodir drwy ddeddfiad ac felly mae'n bosib y bydd pwerau ymyrryd ehangach ar gael os na chydymffurfir â'r cyfarwyddydau. Fodd bynnag, nid yw hyn yw'n amharu ar y ffaith bod y cyfarwyddydau yn weinyddol eu natur, ac mae'n bwysig cofio bod Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo gan gyfraith gyhoeddus wrth iddyn nhw arfer eu swyddogaethau ac y bydd unrhyw gamau a weithredir o ganlyniad i beidio â chydymffurfio yn gymesur â'r methiannau.
Eisoes mae nifer o bwerau eraill o ran ffurfio cyfarwyddydau yn Neddf Tai 1996, ac mewn amrywiaeth eang o ddeddfwriaeth arall, nad oes unrhyw weithdrefn ynghlwm wrthynt, er enghraifft y gallu i wneud cyfarwyddydau ynghylch taliadau gwasanaeth y mae landlordiaid cymdeithasol yn eu codi.
Rwy'n argymell peidio â chefnogi'r gwelliannau hyn. Fodd bynnag, fel y dywedais, rwy'n fodlon ymrwymo i'ch hysbysu pan wneir cyfarwyddydau.
Galwaf ar David Melding i ymateb i'r ddadl.
O, bobl bach. Mae yna adegau pan rydych chi'n credu eich bod mewn gwlad hud fel un Lewis Carroll. Clywsom gan y Gweinidog fod craffu ôl-ddeddfwriaethol yn syniad da, ond ddylen ni ddim dweud hynny, yn sicr nid yn y Bil hwn. Mae hi'n eithaf bodlon i hynny ddigwydd, ond yn pryderu ynghylch gwneud unrhyw beth yn ofyniad deddfwriaethol oherwydd yr effaith a gâi hynny ar allu'r ddeddfwrfa i arfer ei uchelfraint yn y dyfodol.
Wel, rwy'n credu mai un ffordd o brofi hynny fyddai peidio â chwipio eich cyd-Aelodau ar y pwynt penodol hwn. Ond nid wyf yn credu am funud eich bod yn mynd i wneud hynny, oherwydd rydych chi'n gwneud hyn fel mater o gyfleustra gweithredol. Ni ddylech chi guddio y tu ôl i ymadroddion fel, 'O, wrth gwrs. Rydym ni'n credu bod craffu ôl-ddeddfwriaethol yn iawn mewn egwyddor ond byth yn ymarferol.' Dylai fod yn y Bil hwn. Mae Comisiwn y Gyfraith yn dweud y dylem ystyried craffu ôl-ddeddfwriaethol yn rhan arferol o wneud cyfreithiau pwysig mewn meysydd o bwysigrwydd cyhoeddus gwirioneddol. Ac mae'n drueni nad ydych chi'n gallu deall yr agwedd honno y prynhawn yma.
Yna mae gennym ni wrthddywediadau hurt cyffelyb ynglŷn â'r gofyniad i osod cyfarwyddydau yma yn y Cynulliad: 'Ymddiriedwch ynom ni fel Llywodraeth, mae'r rhain i gyd yn faterion gweinyddol arferol'—defnyddiodd y Gweinidog y term 'gweinyddol' y prynhawn yma. Wel, fel hyn y mae democratiaeth seneddol yn gweithio, Gweinidog. Rydym ni'n craffu ar weithredoedd y Llywodraeth, rydym yn penderfynu ai gweinyddol ydyn nhw'n unig ac nad oes ganddynt arwyddocâd cyhoeddus ehangach; ein gwaith ni yw gwneud hynny. Nid yw'n rhwymedigaeth feichus o unrhyw fath i chi gyflwyno'r cyfarwyddydau hyn yn y Cynulliad yn hytrach na'u cyhoeddi dim ond ar wefan Llywodraeth Cymru. Os oes angen iddyn nhw gael eu cyhoeddi yn y fan honno, mae angen eu cyflwyno yma. Rwy'n cynnig y gwelliannau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn felly i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 5.