Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 24 Ebrill 2018.
O, bobl bach. Mae yna adegau pan rydych chi'n credu eich bod mewn gwlad hud fel un Lewis Carroll. Clywsom gan y Gweinidog fod craffu ôl-ddeddfwriaethol yn syniad da, ond ddylen ni ddim dweud hynny, yn sicr nid yn y Bil hwn. Mae hi'n eithaf bodlon i hynny ddigwydd, ond yn pryderu ynghylch gwneud unrhyw beth yn ofyniad deddfwriaethol oherwydd yr effaith a gâi hynny ar allu'r ddeddfwrfa i arfer ei uchelfraint yn y dyfodol.
Wel, rwy'n credu mai un ffordd o brofi hynny fyddai peidio â chwipio eich cyd-Aelodau ar y pwynt penodol hwn. Ond nid wyf yn credu am funud eich bod yn mynd i wneud hynny, oherwydd rydych chi'n gwneud hyn fel mater o gyfleustra gweithredol. Ni ddylech chi guddio y tu ôl i ymadroddion fel, 'O, wrth gwrs. Rydym ni'n credu bod craffu ôl-ddeddfwriaethol yn iawn mewn egwyddor ond byth yn ymarferol.' Dylai fod yn y Bil hwn. Mae Comisiwn y Gyfraith yn dweud y dylem ystyried craffu ôl-ddeddfwriaethol yn rhan arferol o wneud cyfreithiau pwysig mewn meysydd o bwysigrwydd cyhoeddus gwirioneddol. Ac mae'n drueni nad ydych chi'n gallu deall yr agwedd honno y prynhawn yma.
Yna mae gennym ni wrthddywediadau hurt cyffelyb ynglŷn â'r gofyniad i osod cyfarwyddydau yma yn y Cynulliad: 'Ymddiriedwch ynom ni fel Llywodraeth, mae'r rhain i gyd yn faterion gweinyddol arferol'—defnyddiodd y Gweinidog y term 'gweinyddol' y prynhawn yma. Wel, fel hyn y mae democratiaeth seneddol yn gweithio, Gweinidog. Rydym ni'n craffu ar weithredoedd y Llywodraeth, rydym yn penderfynu ai gweinyddol ydyn nhw'n unig ac nad oes ganddynt arwyddocâd cyhoeddus ehangach; ein gwaith ni yw gwneud hynny. Nid yw'n rhwymedigaeth feichus o unrhyw fath i chi gyflwyno'r cyfarwyddydau hyn yn y Cynulliad yn hytrach na'u cyhoeddi dim ond ar wefan Llywodraeth Cymru. Os oes angen iddyn nhw gael eu cyhoeddi yn y fan honno, mae angen eu cyflwyno yma. Rwy'n cynnig y gwelliannau.