Ysgol Dewi Sant yn Llanelli

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:30, 25 Ebrill 2018

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb cyntaf. Bydd hi'n ymwybodol, serch hynny mae'n siŵr, fod tri adroddiad Estyn erbyn hyn wedi dweud bod cyflwr presennol yr ysgol yn amharu ar ddysg yn yr ysgol, a bod plant ysgol Dewi Sant yn haeddu'r addysg orau, a dyna wrth gwrs yw bwriad cynllun ysgolion yr unfed ganrif ar hugain sydd ganddi hi a'i hadran. Erbyn hyn—heddiw, fel mae'n digwydd—mae'r cais cynllunio wedi ei gyflwyno'n ffurfiol ar gyfer yr ysgol newydd. Mae yna oedi wedi bod oherwydd bod rhywrai wedi cwyno bod yr ysgol yn disodli beth maen nhw'n ei alw yn llain werdd. Mae'n bwysig tanlinellu bod y cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno heddiw yn cynnwys mynediad i'r cyhoedd ar gyfer caeau chwarae'r ysgol, ac felly yn cadw elfen gymunedol, fel y byddai pob un yn ei groesawu, ym mhob ystyr. Pe bai oedi oherwydd bod yr anghytuno yma yn lleol yn gohirio'r cynllun, a fydd y Llywodraeth mewn sefyllfa i warantu bod yr arian cyfalaf yn dal i fod ar gael ar gyfer yr ysgol hon, gan fod y plant, y dylai ein ffocws ni fod arnynt yn y cyd-destun yma, yn haeddu ysgol newydd, ac yn haeddu ysgol o'r radd y mae hi a'i chynlluniau yn ei hyrwyddo?