Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Mae dysgu cymunedol yn cael effaith sylweddol wrth gynorthwyo pobl i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy yn y dyfodol. Fodd bynnag, dengys ffigurau Llywodraeth Cymru fod nifer y dysgwyr cymunedol yng Nghymru wedi gostwng i lai na hanner y nifer yn y pum mlynedd diwethaf. Mae Ymchwil Arad wedi disgrifio'r sector fel un sydd o dan bwysau difrifol, a dywedasant
'Mae'n hanfodol bod cymorth digonol ar gyfer ACL er mwyn sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel ar draws y genedl sy'n gyson ac sy'n hygyrch.'
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i ariannu dysgu cymunedol yn briodol er budd ein cymunedau a gofal cymdeithasol yng Nghymru os gwelwch yn dda?