1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 25 Ebrill 2018.
2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dysgu oedolion yn y gymuned? OAQ52029
Diolch, Mohammad. Cyhoeddwyd ein datganiad polisi ar ddysgu oedolion yng Nghymru ym mis Gorffennaf ac roedd yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer dysgu oedolion. Byddaf yn ymgynghori cyn bo hir ar gynigion i ailstrwythuro darpariaeth a chyllid dysgu oedolion gyda'r nod o sicrhau dyfodol cynaliadwy a diogel ar gyfer y ddarpariaeth bwysig hon.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Mae dysgu cymunedol yn cael effaith sylweddol wrth gynorthwyo pobl i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy yn y dyfodol. Fodd bynnag, dengys ffigurau Llywodraeth Cymru fod nifer y dysgwyr cymunedol yng Nghymru wedi gostwng i lai na hanner y nifer yn y pum mlynedd diwethaf. Mae Ymchwil Arad wedi disgrifio'r sector fel un sydd o dan bwysau difrifol, a dywedasant
'Mae'n hanfodol bod cymorth digonol ar gyfer ACL er mwyn sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel ar draws y genedl sy'n gyson ac sy'n hygyrch.'
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i ariannu dysgu cymunedol yn briodol er budd ein cymunedau a gofal cymdeithasol yng Nghymru os gwelwch yn dda?
O ran yr hyn yr hoffem ei wneud, nid oes amheuaeth yr hoffem pe bai llawer mwy o arian yn mynd tuag at ddysgu oedolion yn y gymuned, ond mae hynny wedi bod yn anodd iawn pan ydym wedi gweld toriad o £1.4 biliwn gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Felly, dyna fu’r broblem i ni. Ond gadewch imi ddweud yn glir ein bod wedi canolbwyntio, wrth benderfynu wedyn beth ddylai ein blaenoriaethau fod, ar bwysigrwydd hyfforddi pobl ar gyfer gwaith. Rydym wedi canolbwyntio ar sgiliau sylfaenol yn benodol, ar sgiliau craidd i annog pobl i ddysgu Saesneg, o ran y rheini sy’n ei siarad fel ail iaith, a sicrhau bod gennym sgiliau hanfodol sy'n caniatáu i bobl gael mynediad at y gweithle.
Weinidog, roeddwn am eich holi ynglŷn â chyfrifon dysgu unigol. Beth yw eich cynlluniau o ran lansio’r cynlluniau peilot, ac a wnewch chi sicrhau, a sut y byddwch yn sicrhau, fod y gwersi a oedd i'w dysgu o fersiynau blaenorol o'r cyfrifon dysgu unigol yn llywio’r fersiwn newydd yn briodol?
Diolch. Credaf fod hwn yn gyfle eithaf cyffrous i ni, ac un o'r pethau cyntaf a wneuthum pan gefais fy mhenodi’n Weinidog oedd mynd i wrando ar yr hyn yr oedd y melinau trafod yn ei ddweud. Ac roedd hwn yn faes lle roeddent yn dweud, 'Mewn gwirionedd, mae cyfle go iawn i'w gael.' Nawr, mae'n wir yn y gorffennol fod enw gwael i'r cyfrifon dysgu unigol. Nid oedd problem yng Nghymru, ond cafwyd rhywfaint o broblemau yn Lloegr mewn perthynas ag arian yn newid dwylo. Nawr, credaf ein bod mewn sefyllfa wahanol bellach gan fod cyfle gennym i wneud pethau'n ddigidol, felly ni fydd arian yn newid dwylo. Bellach, yr wythnos diwethaf, daethom â grŵp o bobl sy'n arbenigwyr yn y maes at ei gilydd i bennu sut y dylai’r cynllun peilot hwnnw edrych, ac i ystyried unrhyw drafferthion posibl. Felly, mae cynnydd yn cael ei wneud, a gobeithio y bydd modd inni lansio rhywbeth oddeutu mis Medi.
Y realiti, wrth gwrs, yw bod rhai o'r gwasanaethau addysg yma yn cilio yn bellach ac yn bellach oddi wrth gymunedau ar draws Cymru. Byddwch chi'n ymwybodol, er enghraifft, bod y coleg yn Ninbych yn mynd i gau nawr yn yr haf sydd i ddod. Ac rwyf i wedi siarad â rhai o'r myfyrwyr, ac maen nhw yn poeni nawr y byddan nhw'n methu jyglo'r balans rhwng eu hastudiaethau a'r swyddi rhan amser sydd gyda nhw oherwydd bydd rhaid iddyn nhw deithio ymhellach i gael mynediad i'r addysg yna yn Llandrillo-yn-Rhos neu yn y Rhyl. Felly, a gaf i ofyn beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau y bydd y gwasanaethau yma yn aros yn ein cymunedau ni a bod addysg ôl-16 yn hygyrch i bawb?
Wel, rwyf i'n deall bod yna lot o ymateb wedi bod i beth ddigwyddodd yn Ninbych. Beth sydd yn bwysig, rwy'n meddwl, yw ein bod ni'n parchu annibyniaeth y colegau—nhw sy'n gwneud y penderfyniadau. Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni yn galluogi pobl ym mhob cymuned i gael access nawr i addysg bellach. Felly, bydd rhaid i ni edrych, rwy'n meddwl, i sicrhau ein bod ni'n ffeindio ffyrdd i bobl o'r cymunedau yna i fynd i'r canolfannau lle mae dysgu yn bodoli. Wrth gwrs, mae llymder wedi cael effaith ar y sector, ond beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n cael yr arbenigwyr i ddysgu pobl yn y ffordd orau posib.