Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:48, 25 Ebrill 2018

Diolch yn fawr. Mae'r cwestiynau hyn i Weinidog y Gymraeg. Ddoe, fe wnaeth fy ffrind yr Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, ymddangos ar raglen Daily Politics yn amddiffyn iaith ein cenedl yn dilyn yr ymosodiad diweddaraf ar ein hiaith, y tro yma gan y newyddiadurwr Rod Liddle. Yn anffodus, rydym ni'n byw mewn oes lle mae ymosodiadau o'r fath yn cael eu gweld yn gynyddol dderbyniol. Mae ymosod ar yr iaith Gymraeg, ac felly ymosod ar siaradwyr Cymraeg—chi a fi a nifer ohonom ni yn fan hyn—mae hynny, mewn gwirionedd, yn drosedd casineb. Ond, nid yw'r gyfraith ddim yn adlewyrchu hynny. Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn gefnogol i ieithoedd lleiafrifol cenhedloedd y Deyrnas Gyfunol a gweddill Ewrop ac wedi gweithredu er mwyn diogelu'r Gymraeg a ieithoedd lleiafrifol eraill. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i ddiogelu siaradwyr Cymraeg rhag ymosodiadau ffiaidd yn dilyn y cyfnod ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd?