Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch yn fawr. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n condemnio unrhyw ymosodiad ar bobl sy'n siarad unrhyw iaith sy'n lleiafrifol. Nid wyf yn meddwl bod y stŵr sydd wedi cael ei greu yn helpu pethau. Y cwestiwn yw: sut ddylem ni fod yn ymateb? Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni'n tanlinellu pa mor gymhleth fyddai hi i wneud rhywbeth o ran deddfwriaeth yn y maes yma. Ond rwy'n meddwl ei bod hefyd yn bwysig ein bod ni'n deall nad yw'n dderbyniol i newyddiadurwyr na neb arall gondemnio ein hiaith ni yn y ffordd yna.