Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 25 Ebrill 2018.
Darren, er fy mod yn cydnabod na ellir rhoi'r cod newydd ar waith yn ôl-weithredol, fel y dywedais yn gwbl glir, rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol weithio gyda graen y cod newydd. Maent yn llwyr ymwybodol o fy mwriad a fy mwriadau polisi. Mae unrhyw gais a gyflwynir gan awdurdod lleol, o dan y cod presennol neu'r cod sydd i ddod, yn cael ei ystyried yn hynod ofalus gan fy mod yn cydnabod, i lawer o'r rhai sy'n rhan o'r broses honno, fod angen cod arnynt yno i sicrhau bod unrhyw ymgynghoriad ac unrhyw gynigion yn cael eu profi yn ôl y safonau uchaf. Fel y dywedais, rwy'n disgwyl i'r cod gael ei gyhoeddi y tymor hwn. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cynulliad hwn, bydd y cod ar gael i'w roi ar waith o'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi.