Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 25 Ebrill 2018.
Dyna eiriau cynnes iawn, ac rwy'n siŵr fod ysbryd y cod yn rhywbeth y bydd awdurdodau lleol cyfrifol, wrth gwrs, yn ei arddel, ond y gwir amdani yw bod gennym awdurdodau lleol yng Nghymru—Ynys Môn, Sir Ddinbych ac eraill—sy'n bwrw ymlaen gyda chau ysgolion mewn cymunedau gwledig, ac ysgolion cyfrwng Cymraeg ar y cyfan, o ganlyniad i'r ffaith nad yw'r cod yn ddigonol ar hyn o bryd. A allwch roi sicrwydd llwyr, Weinidog, y byddwch yn edrych yn ofalus ar effaith eich newidiadau ac yn sicrhau eu bod yn cael eu mesur yn erbyn y cynigion yn eich cod newydd yn hytrach na'r darpariaethau yn yr hen god, y dywedoch y byddech yn mynd i'r afael â hwy gryn dipyn o amser yn ôl?