Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 1:43, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn 2016, cafwyd dau adroddiad am gau ysgolion. Dywedai un fod 157 ysgol wedi cau ledled Cymru dros y 10 mlynedd blaenorol—gyda thair o bob pump o'r ysgolion a gaewyd yn ysgolion gwledig. Dywedai'r llall fod 50 o ysgolion eraill wedi'u clustnodi i gael eu cau. Ar yr un pryd, mae awdurdodau lleol yn ceisio annog teuluoedd i symud i bentrefi, ac eto mae rhai ysgolion yn y pentrefi hynny mewn perygl o gau neu wedi cau eisoes. Beth arall y gallwch ei wneud i roi sicrwydd i rieni yng Nghymru na fydd eu hysgol leol yn cau yn y dyfodol agos?