Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 25 Ebrill 2018.
Fe'ch cyfeiriaf at yr ateb a roddais i Darren Millar. Rwyf wedi dweud yn gwbl glir mai fy mwriad yw diwygio'r cod trefniadaeth ysgolion presennol i greu rhestr o ysgolion gwledig penodol a sefydlu rhagdybiaeth yn erbyn cau'r ysgolion hynny. Yn hollbwysig, hefyd, o ran addysg wledig, ni allwn orffwys ar ein bri drwy gadw sefydliadau ar agor. Mae angen i'r sefydliadau hynny ddarparu cyfle addysgol o'r radd flaenaf i blant gwledig. Nid yw adeiladau'n unig yn ddigon; mae'r ansawdd o fewn yr adeiladau hynny yn gwbl hanfodol i mi a dyna pam rydym wedi cyflwyno grant ysgolion bach er mwyn gallu cynorthwyo awdurdodau lleol i wella safonau mewn ysgolion bach, gwledig sy'n wynebu heriau penodol wrth gyflwyno'r cwricwlwm.