Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 25 Ebrill 2018.
Wel, Lee, gallaf gadarnhau na ddylai unrhyw gymeradwyaeth gan yr adran addysg i achosion busnes a gyflwynir gan awdurdodau addysg lleol, ledled Cymru, amharu ar unrhyw brosesau—prosesau statudol—sy’n angenrheidiol. Bydd ysgolion yn Sir Gaerfyrddin wedi cael buddsoddiad o £87 miliwn yn y rhaglen band A, a bydd £130 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi o ganlyniad i raglen band B. Ac fel y dywedais yn fy ateb i Simon Thomas, mae fy swyddogion yn cadw mewn cysylltiad agos â'r holl awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod eu rhaglenni'n cael eu cyflawni yn y ffordd orau bosibl er budd y plant sy'n mynychu'r ysgolion hynny.