Dysgwyr Dan Anfantais yn Islwyn

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:00, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Bydd rhieni plant o dan anfantais oherwydd tlodi yn Islwyn wedi eu siomi wrth glywed am benderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar y grant gwisg ysgol i deuluoedd tlawd. Yr wythnos diwethaf, methodd y Prif Weinidog roi sicrwydd ynglŷn â chyllid a chymhwystra eich cynllun newydd arfaethedig. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch gadarnhau na fydd unrhyw ostyngiad yn y cyllid a ddarperir ar gyfer gwisgoedd ysgol o dan eich cynllun newydd ac y bydd pob disgybl blwyddyn 7 sy'n cael prydau ysgol am ddim yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer y grant gwisg ysgol hefyd?