Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch am eich cwestiwn, Oscar. Rwy'n awyddus iawn i fynd i'r afael ag effaith anfantais ar addysg plant mewn amrywiaeth o ffyrdd, ac i rai teuluoedd, mae cymorth gyda'r wisg ysgol yn bwysig iawn. Ond fel y clywsom ddoe, mewn cwestiwn i'r Prif Weinidog gan Julie Morgan, mae yna ffyrdd eraill lle na all cymunedau mwy difreintiedig fanteisio ar yr ystod lawn o gyfleoedd a allai fod ar gael iddynt, a gall hynny effeithio'n uniongyrchol ar allu'r dysgwr i wneud cynnydd. Dyna pam yr wyf fi a fy swyddogion yn gweithio ar grant newydd ar hyn o bryd i gymryd lle'r hyn a alwyd gynt yn grant gwisg ysgol. Bydd yn cynnwys mynediad at gymorth ar gyfer gwisgoedd ysgol, ond rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau y gall y grant hwnnw roi mwy o hyblygrwydd i rieni, er enghraifft, sydd heb y gallu ariannol, efallai, i ganiatáu i'w plentyn fynd ar drip ysgol neu i ganiatáu i'w plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, a allai effeithio ar eu canlyniadau. Felly, bydd grantiau ar gyfer gwisgoedd ysgol yn parhau, ond rwy'n bwriadu ymestyn y grant i ddarparu ar gyfer amrywiaeth ehangach o gyfleoedd na all disgyblion o gefndiroedd difreintiedig gymryd rhan ynddynt o bosibl.