Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:10, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Roeddwn yn falch iawn o ymweld yr wythnos diwethaf â'r safle newydd ar gyfer ysgol gynradd Gabalfa ac Ysgol Glan Ceubal yn fy etholaeth i, Gogledd Caerdydd, ar gyfer seremoni gosod y garreg gopa yr wythnos diwethaf. Dyma ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ac ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, sydd wedi'u cydleoli, ac mae'r adeilad wedi'i ddylunio yn y fath fodd fel bod ganddo gyfleusterau cyfunol ar gyfer amser cinio ac amser chwarae. Tybed a oedd yna unrhyw gynlluniau eraill ar gyfer ysgolion o'r fath ledled Cymru, lle lleolir yr ysgol Gymraeg a'r ysgol Saesneg ar yr un safle.