Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:09, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Julie. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth—. O, mae'n ddrwg gennyf, eich llinell chi yw honno. [Chwerthin.] Fi yw Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.] Am funud, anghofiais pwy oeddwn ac roeddwn yn ôl draw yn y fan yna, Lywydd. Rwyf newydd wneud fel Rhianon Passmore. [Torri ar draws.] Wyddoch chi byth. Wyddoch chi byth.

Julie, rwy'n falch o ddweud—[Chwerthin.]—y bydd band A o raglen addysg ac ysgolion unfed ganrif ar hugain yn cynnwys buddsoddiad o dros £164 miliwn mewn ysgolion yng Nghaerdydd dros y pum mlynedd a ddaw i ben yn 2019—a allai fod ar ôl i mi ddod i ben yn y lle hwn, o bosibl. [Chwerthin.] Mae amlen ariannu o £284 miliwn ychwanegol wedi'i chymeradwyo mewn egwyddor ar gyfer rhaglen band B, a fydd yn dechrau yn 2019.