Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 25 Ebrill 2018.
Rwy'n falch iawn o glywed hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd, fel y gwyddoch, rwy’n rhannu eich dyhead i sicrhau bod y cod yn gytbwys ac nad yw'n anffafrio nac yn gwneud tro gwael ag ysgolion gwledig yn benodol, gyda llawer ohonynt, wrth gwrs, fel y gwyddoch, yn ysgolion bach, cyfrwng Cymraeg. O gofio bod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a llawer o bobl eraill wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r ffaith ei bod yn ymddangos bod rhai awdurdodau lleol yn bwrw ymlaen â’r broses o ad-drefnu ysgolion yn y cyfamser, gan nad oes unrhyw newid yn y cod ar hyn o bryd, beth yw eich neges i’r awdurdodau lleol a allai fod yn ceisio sleifio un drwy gil y drws, fel petai, cyn i'r drws gau yn nhermau'r newidiadau i’r cod ad-drefnu ysgolion?