Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch, Darren. Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi cael cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad. Mae'n deg dweud bod rhai wedi ymateb yn fwy cadarnhaol na'i gilydd ynghylch fy nghynnig i sefydlu rhestr o ysgolion gwledig a sicrhau rhagdybiaeth yn erbyn cau, fel man cychwyn ar gyfer awdurdodau lleol. Buaswn yn dweud wrth awdurdodau lleol sy'n ystyried y mater hwn ar hyn o bryd fy mod wedi bod yn glir iawn ynghylch fy nghyfeiriad teithio a'm bwriad polisi, a buaswn yn eu hannog i ystyried yr ysbryd hwnnw rhwng nawr ac unrhyw gyhoeddiad ffurfiol mewn perthynas â'r cod trefniadaeth newydd.