Dysgwyr Dan Anfantais yn Islwyn

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:58, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Drwy'r grant datblygu disgyblion rhanbarthol, rydym yn parhau i fuddsoddi symiau digynsail o arian—yn yr achos hwn, £187 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf—i gynorthwyo ysgolion ledled Cymru i wella canlyniadau i'n dysgwyr dan anfantais. Mae Islwyn yn elwa o'r dyraniad rhanbarthol o dros £19 miliwn y flwyddyn i'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg dros y cyfnod hwn.