Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 25 Ebrill 2018.
Iawn. Diolch. Mae'r grant amddifadedd disgyblion ar gyfer y dysgwyr ieuengaf—disgyblion tair i bedair oed—wedi cynyddu o £600 i £700, gan adeiladu ar ddyblu'r cymorth ariannol y llynedd o £300 i £600 y dysgwr yn y blynyddoedd cynnar, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Llywodraeth Dorïaidd y DU sy'n anrheithio cymorth ar gyfer dysgwyr tlotach. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu, felly, pa wahaniaeth y bydd buddsoddiad parhaus yn y grant amddifadedd disgyblion yn ei wneud yn ysgolion Islwyn, a pha effaith y cred Llywodraeth Cymru y bydd hynny'n ei chael ar ddysgwyr dan anfantais yng nghymunedau Islwyn?