Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch, Dawn. Rydych yn llygad eich lle yn dweud mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gyllid ysgolion, ac yn wir, nodir hynny yng nghyfraith bresennol Cymru. Fe fyddwch hefyd yn gwybod bod gan Estyn, yr arolygiaeth annibynnol, rôl i'w chwarae nid yn unig yn arolygu ysgolion unigol, ond hefyd yn arolygu perfformiad awdurdodau addysg lleol unigol. Maent wedi treialu fframwaith arolygu newydd, y cyntaf ohonynt yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac mae honno'n ffordd dda iawn inni allu sicrhau perfformiad awdurdodau addysg lleol.
Rwy'n ymwybodol fod angen cadw llygad barcud ar rai awdurdodau sydd wedi bod yn destun mesurau arbennig yn ddiweddar, ac wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod mai un o'r rhesymau pam ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â haen ganol y consortia rhanbarthol yw er mwyn sicrhau bod cymorth o ansawdd uchel ar gael i wella ysgolion yn yr ardal honno, yn hytrach na'i fod wedi'i wasgaru ar draws yr holl awdurdodau lleol.
Ond a gaf fi gymryd y cyfle hwn? Rwy'n deall bod cyllidebau o dan bwysau ledled Cymru, nid ym Merthyr Tudful yn unig, ond er hynny, nid yw ysgolion yn caniatáu i hynny rwystro eu huchelgais ar gyfer eu plant. Yn ddiweddar, cefais gyfle i ymweld ag Ysgol Uwchradd Afon Tâf, ac roeddwn yn edmygu'r rhaglen ddarllen cyflym y maent wedi'i chyflwyno yn yr ysgol honno, ac sydd wedi arwain at gynnydd anferth yn lefel llythrennedd y disgyblion. A'r wythnos diwethaf, yn yr ŵyl—yr ŵyl lythrennedd a gynhaliwyd ym Merthyr Tudful—cefais gyfle i siarad â nifer o'r disgyblion a fynychodd yr ŵyl. Roedd yn galonogol iawn gweld bechgyn ifanc, y gwyddom eu bod yn arbennig o heriol mewn perthynas â darllen, fel y gwyddom, yn siarad mor huawdl am eu cariad at ddarllen, y llenyddiaeth a'r llyfrau y maent yn eu dewis ar hyn o bryd, a'u brwdfrydedd. Ac nid yn unig eu brwdfrydedd ynglŷn â llyfr unigol, ond eu dealltwriaeth eu bod, drwy ymarfer eu darllen, defnyddio'r cyfle hwn, yn rhoi'r cyfle gorau posibl iddynt hwy eu hunain, nid yn unig yn Saesneg, ond mewn gwirionedd, i gael mynediad at y cwricwlwm cyfan. Rwy'n cymeradwyo ysgolion fel hyn nad ydynt yn defnyddio cyfnod ariannol anodd fel esgus i beidio â chyflwyno dulliau newydd ac arloesol yn eu hysgolion. Dylid eu canmol.