Cyllido Ysgolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:16, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch yn gynharach fod gan bob plentyn sy'n mynychu'r ysgol uwchradd hawl i gael cludiant am ddim, ond does bosibl fod hynny'n wir am blant sy'n mynychu'r chweched dosbarth. Ac yn achos Merthyr Tudful, os mai yng ngholeg Merthyr Tudful yn unig y bydd darpariaeth chweched dosbarth ar gael ar gyfer y grŵp oedran hwnnw, a yw'n briodol, mewn gwirionedd, i'r Cyngor ymgynghori ar wneud i'r holl blant yn y grŵp oedran hwnnw dalu am eu cludiant i'r un safle hwnnw?