Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 25 Ebrill 2018.
Mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n ymddiheuro i Mr Reckless os nad eglurais hyn yn ddigon clir yn fy ateb i Michelle Brown. Mae'r Mesur teithio gan ddysgwyr yn darparu cludiant am ddim ar gyfer plant oedran ysgol gorfodol hyd at 16 oed. Ar gyfer dysgwyr ôl-16, gall awdurdodau lleol unigol wneud darpariaethau os barnant fod hynny'n addas, a cheir ymagwedd gymysg gan awdurdodau lleol ledled Cymru.