Uno a Chau Ysgolion

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:18, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb. Rwyf wedi codi'r mater hwn gyda chi yma o'r blaen mewn perthynas â'r cynnig i gau Ysgol Gyfun Cymer Afan yn fy rhanbarth, ac fe'ch clywais yn siarad yn gynharach ynglŷn â'r dewis o deithio llesol ar gyfer dysgwyr. Ond yn yr achos hwn, os yw ysgol Cymer Afan yn cael ei chau a bod disgwyl iddynt deithio bron i 10 milltir i Gymla neu Margam, gallai hynny olygu nad oes ganddynt y dewis hwnnw. Yn amlwg, mae'n rhaid i asesiadau llesiant cenedlaethau'r dyfodol ystyried trafnidiaeth gynaliadwy, felly rwy'n ceisio deall pa drafodaethau a gawsoch gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i sicrhau, pan nad yw'r opsiwn o drafnidiaeth gynaliadwy ar gael, beth yn union sy'n digwydd i'r plant hynny a'u lles.