1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 25 Ebrill 2018.
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar uno a chau ysgolion? OAQ52023
Diolch, Bethan. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol. Wrth gynnig newidiadau sylweddol i ysgolion, mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio gyda'r cod trefniadaeth ysgolion a grybwyllir yn aml, ac mae'n rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau—a buddiannau dysgwyr yw'r brif ystyriaeth.
Diolch am eich ateb. Rwyf wedi codi'r mater hwn gyda chi yma o'r blaen mewn perthynas â'r cynnig i gau Ysgol Gyfun Cymer Afan yn fy rhanbarth, ac fe'ch clywais yn siarad yn gynharach ynglŷn â'r dewis o deithio llesol ar gyfer dysgwyr. Ond yn yr achos hwn, os yw ysgol Cymer Afan yn cael ei chau a bod disgwyl iddynt deithio bron i 10 milltir i Gymla neu Margam, gallai hynny olygu nad oes ganddynt y dewis hwnnw. Yn amlwg, mae'n rhaid i asesiadau llesiant cenedlaethau'r dyfodol ystyried trafnidiaeth gynaliadwy, felly rwy'n ceisio deall pa drafodaethau a gawsoch gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i sicrhau, pan nad yw'r opsiwn o drafnidiaeth gynaliadwy ar gael, beth yn union sy'n digwydd i'r plant hynny a'u lles.
Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r comisiynydd ynglŷn â'r pwnc penodol hwnnw. Mae'r cod trefniadaeth yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiad effaith mewn perthynas â lles dysgwyr. Mae hefyd yn darparu amseroedd dangosol o ran yr hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn gyfnod teithio nad yw'n addas ar gyfer plant, ond mater i'r awdurdod lleol unigol, wrth iddo gynnal ei ymgynghoriad â phobl leol, yw sicrhau ei fod yn gwneud hynny'n unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r cod.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwn fod dyfodol ysgolion bach gwledig a lled-wledig wedi bod yn fater enfawr yn eich etholaeth, ac mae'r cynghorydd Brigitte Rowlands, sy'n cynrychioli ward Mawr yn Abertawe, yn wynebu'r un math o heriau yn awr ag a wynebwyd gennych chi yn y gorffennol, gan fod dwy ysgol yno wedi'u clustnodi ar gyfer eu cau—os caf ei roi felly? Rwy'n cydnabod bod yr awdurdod lleol mewn sefyllfa annifyr, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod nifer sylweddol o'n hysgolion llai ledled Cymru bellach naill ai wedi cau neu yn y broses o gau, gan adael nifer llai o lawer o ysgolion bach sydd wedi goroesi'r prawf 90 o ddisgyblion, os mynnwch. Clywais eich atebion i gwestiynau cynharach yn y sesiwn hon, ond bellach, mae angen inni ystyried diwygiadau, os mynnwch, i'r canllawiau 90 o ddisgyblion, i bob pwrpas, er mwyn darparu ar gyfer y ffaith nad lleoedd gwag yw'r brif ddadl bob tro dros gadw ysgolion ar agor, ac y gallai ystyriaethau eraill fod yn bwysicach?
Y brif ystyriaeth a ddylai fod gan bob awdurdod lleol wrth gynllunio lleoedd ysgolion ac wrth feddwl am drefniadaeth ysgolion yw buddiannau'r dysgwr ac ansawdd yr addysg y gall y sefydliad hwnnw ei chynnig i bobl ifanc. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r atebion a roddais yn gynharach. Rydym yn bwrw ymlaen â'r broses o ddynodi rhestr o ysgolion gwledig, a rhagdybiaeth wedyn yn erbyn eu cau. A yw hynny'n golygu na fydd unrhyw newidiadau byth? Mae'n rhaid imi fod yn onest ac yn glir gyda phobl: nac ydy. Ond yr hyn a olyga yw y bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol ddangos eu bod wedi dihysbyddu pob opsiwn arall ac wedi ystyried pob opsiwn arall cyn gwneud penderfyniad i gau ysgol wledig arbennig o fach.
Yn hollbwysig, fel y dywedaf, mae angen inni gefnogi darpariaeth addysg wledig hefyd. Ceir heriau penodol ynghylch cynnal safonau uchel, yn enwedig mewn ysgolion cynradd gwledig bach. Felly, er enghraifft, rydych chi a minnau'n gwybod am ysgolion, efallai, lle mae gan yr athro dosbarth ddisgyblion blwyddyn 4, blwyddyn 5 a blwyddyn 6 mewn un ystafell ddosbarth, ac mae hynny'n creu heriau penodol mewn perthynas â gwaith gwahaniaethol, er enghraifft. Dyna pam yr ydym wedi darparu grant ysgolion gwledig bach y gall awdurdodau lleol wneud cais amdano fel y gallant ystyried dulliau arloesol o gefnogi ansawdd addysg yn ein hysgolion gwledig bach, gan fod eu cadw ar agor yn un peth, ond mae'n rhaid iddynt gynnig cyfleoedd gwych i'n pobl ifanc.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymatebion i Suzy Davies a Bethan Jenkins, fe sonioch am fuddiannau'r dysgwr a lles y dysgwr, a chefnogaf hynny'n llwyr. Ond wrth gwrs, mae lles y dysgwr hefyd yn dibynnu ar les y gymuned y mae'r dysgwr yn byw ynddi ac yn cael ei addysg ynddi, ac fel y nodwyd, cafwyd cynnig i gau ysgol Cymer Afan gyda disgyblion yn cael eu cludo a'u trosglwyddo 10 milltir i ffwrdd. Mae'r profiad a gânt o fynd adref ar ôl ysgol—mewn geiriau eraill, maent yn aml yn aros i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol, ac mae hynny'n rhan bwysig o les y dysgwr, gallu gwneud hynny—yn golygu y bydd anawsterau gyda'r agwedd honno. Pan fyddwch yn ystyried hyn, oherwydd gallai'n hawdd ddod ar draws eich desg, a wnewch chi hefyd ystyried lles y gymuned a lles y dysgwr y tu hwnt i'r profiad addysgol yn yr ysgol ei hun? A wnewch chi hefyd ystyried, efallai, a oes angen cynnal ymgynghoriad o dan y canllawiau ad-drefnu ysgolion newydd, yn hytrach na'r hen rai?
A gaf fi roi sicrwydd i David, ac yn wir, i'r holl Aelodau yma fod unrhyw geisiadau i gau ysgol sy'n cyrraedd fy nesg yn cael eu craffu'n fforensig, yn unol â chyfraith a chanllawiau statudol presennol Cymru?
Wrth gynnal cymhorthfa ym Maesteg, gofynnodd rhieni i mi ynglŷn â chau ysgolion yn eu hardal. Dywedasant nad oedd digon o blant yn byw yn yr ardal leol i lenwi lleoedd yr ysgol fawr newydd sy'n cael ei hadeiladu ym Mhort Talbot, ac o ganlyniad i hynny, fod plant yn dod o ardaloedd llawer pellach a disgwylir iddynt lenwi'r lleoedd hyn. Roeddent yn bryderus y byddai rhai o'r plant sy'n byw yn bell ar y bws ysgol am bron i ddwy awr mewn un diwrnod. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r rhieni sy'n mynegi'r pryderon hyn, ac onid ydych yn cytuno fod hyn yn disgwyl gormod gan rieni a phlant?
Buaswn yn annog pawb, ac rwy'n siŵr eu bod eisoes—os oes ganddynt bryderon ynghylch yr hysbysiad statudol a roddwyd gan Gastell-nedd Port Talbot, mae angen iddynt gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw. Fel y dywedais yn gynharach, mae rhywfaint o ganllawiau ar gael sy'n sôn am amseroedd teithio tybiannol, yr hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn amser rhy hir i blentyn deithio i gael addysg, ond ni allaf roi unrhyw sylwadau pellach ar unrhyw gynigion penodol, rhag ofn y byddant yn dod yma i Lywodraeth Cymru i mi eu hystyried.
Diolch. Rydw i mewn cyswllt agos ag ymgyrchwyr sy'n bryderus iawn oherwydd ymgynghoriadau ar gau nifer o ysgolion gwledig yn Ynys Môn. Rydw i'n deall y pwysau sydd ar y cyngor, ac mi hoffwn i chi ystyried un elfen o'r pwysau yna, sef bod un set o'ch swyddogion chi, i bob pwrpas, yn hybu cau ysgolion gwledig drwy awgrymu na fydd arian o gronfa ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar gael oni bai bod awdurdod lleol yn cyflwyno cynllun adeilad newydd sy'n cynnwys cau ysgolion eraill. Ac ar y llaw arall, mae gennych chi swyddogion sy'n cwblhau'r gwaith ar god trefniadaeth ysgolion newydd a fydd yn gosod rhagdybiaeth o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor. Yn yr achos cyfredol, presennol yn Ynys Môn, mae angen ysgol newydd yn Llangefni, ac ehangu un newydd, mae'n siŵr, ond y casgliad y mae'r cyngor yn dod iddo fo ydy bod yn rhaid, fel rhan o hynny, gau ysgolion eraill—mae Bodffordd, Henblas a Talwrn yn cael eu hystyried. A ydych chi mewn sefyllfa i ddweud wrth y cyngor nad oes yn rhaid i'r ddau beth, sef argaeledd yr arian ar gyfer ysgol newydd a'r angen i gau ysgolion gwledig, fod yn gysylltiedig â'i gilydd ac nad yw'r naill yn ddibynnol ar y llall?
Rhun, mater i'r awdurdod lleol ar Ynys Môn yw cynllunio eu lleoedd ysgolion, ond gadewch imi ddweud yn gwbl glir: caiff unrhyw gais am arian cyfalaf o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ei farnu yn ôl meini prawf, ei archwilio gan fwrdd allanol i Lywodraeth Cymru, gyda phobl annibynnol yn ystyried gwerth y cais unigol hwnnw, ac nid wyf yn ymwybodol o geisiadau'n seiliedig ar angen i gau ysgolion fel arall. O ran argaeledd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i adeiladu ysgolion newydd, mae'r rhaglen ar gael er mwyn adnewyddu safleoedd ysgolion presennol, ysgolion newydd, yn ogystal ag ysgolion a gyfansoddwyd o'r newydd, a cheir enghreifftiau o'r tri ledled Cymru, lle y defnyddir yr arian i adnewyddu ysgol sy'n bodoli eisoes, i adeiladu ysgol newydd yn lle'r un sydd yno, neu mewn rhai achosion—a bûm ar Ynys Môn yn agor rhai ohonynt yn ddiweddar—lle y cafodd ysgolion eu huno i greu ysgol fro gyda chyfleusterau newydd.